minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Y diweddaraf yn ein casgliad o Urddwisgoedd Gwynedd—urddwisgoedd coch ar gyfer Sul y Blodau | The latest addition to our Gwynedd Vestment collection—red vestments for Palm Sunday
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Tom Castle, a fydd yn ymuno â ni i ganu rhan yr Efengydd yn ein perfformiad Sul y Blodau o Johannes-Passion Bach

Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Canon Tracy Jones wrth gorau'r Côr newydd

Yr Wythnos Fawr

Safwn ar ddechrau'r yr Wythnos Fawr. Mae ein defodau yn ddifrifol ac o sylwedd, ac yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ni ymdrochi yn nrama Dioddefaint ac Atgyfodiad Crist, wedi’u gwneud a’u cyflawni er ein hiachawdwriaeth. Gadewch inni eich annog i rannu newyddion am ein defodau gyda’ch ffrindiau a’ch cymdogion, ac i fod yn ffyddlon yn eich presenoldeb yn ystod yr Wythnos Fawr.

Rhai uchafbwyntiau:

Johannes-Passion

Ar Sul y Blodau, mae ein cerddorion yn perfformio Johannes-Passion J. S. Bach (Dioddefaint Sant Ioan), i gyfeiliant grymoedd offerynnol Ensemble 525, ac wedi’u hategu gan leisiau Corws Prifysgol Bangor.

Malcolm Guite

Ein pregethwr yn y Cymun Bendigaid ar Gân a Bendithiad y Sagrafen Fendigaid ar y Llun, y Mawrth a’r Mercher Glân am 6.00pm yw’r Parchg Ddr Malcolm Guite. Mae Malcolm Guite wedi disgrifio’i hun fel “bardd, offeiriad, roc a rholer, ym mha bynnag drefn y mynnwch.” Bu’n ddiweddar yn Gaplan Coleg Girton, Caergrawnt, a dilynodd Ronald Blythe fel un o golofnwyr wythnosol y Church Times. Am ei gerddi, a glywn yn ystod yr Wythnos Fawr, ebe Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru, fod iddynt “gynildeb a grym pob soned dda, gan dro ar ôl tro gynnig i’r darllenydd roddion dwfn er mwyn gweddïo a myfyrio.” Mae ei lyfr diweddaraf, Lifting the Veil: Imagination and the Kingdom of God, yn amddiffyniad egnïol o’r dychymyg creadigol fel “cynneddf sy’n dwyn y gwirionedd.”

Saith Air y Groes

I ganol tawelwch Dydd Gwener y Groglith, byddwn yn offrymu’r perfformiad cyntaf yn y byd o Saith Air y Groes gan y cyfansoddwr, Alex Mills – gosodiad corawl o eiriau olaf Crist o’r Groes, wedi’i wreiddio yn iaith a diwylliant Gogledd Orllewin Cymru, ac wedi’i gomisynu ar gyfer yr Wythnos Fawr gan y Gadeirlan. Bydd y gair mawr, tyngedfennol hwnnw, “Gorffenwyd,” yn atseinio.


Joe Cooper tu ôl i'w ddarllenfa newydd

Cinio Dewch a Rhannu

Mae’n diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd yn hael i’n Cinio Dewch a Rhannu nesaf y Sul diwethaf. Mae’n Cinio Dewch i Rannu yn gyfle hapus am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd.


Dodrefn cysegredig newydd

Mae’r cymhelliant ar gyfer dodrefn newydd Corff yr Eglwys yn ddeublyg.

Yn gyntaf, gallwn lawenhau bod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o adeilad y Gadeirlan – nid yn unig ar y Sul, ond yn ystod yr wythnos. O’n defodau litwrgaidd dyddiol i ddatganiadau cerdd, ac o gyngherddau i grwpiau plant bach ac ymweliadau ysgol, mae ein Cadeirlan yn fwrlwm o weithgareddau bob dydd o’r wythnos. Roedd ein celfi presennol yng Nghorff yr Eglwys yn fwriadol drwm a sefydlog, ac wedi eu cynllunio i raddau helaeth ar gyfer arddull addoli Mudiad Cymun Plwyfol canol y ganrif ddiwethaf yn unig. Golygai hynny bod addasu cynllun Corff yr Eglwys ar gyfer cyngherddau, datganiadau a defnyddiau eraill – ac yna ail-osod ar gyfer addoliad – yn feichus, ac weithiau’n niweidiol ac yn beryglus. Mae angen dodrefn Corff yr Eglwys arnom a all fod yn hyblyg.

Yn ail, nid oedd addasiadau litwrgaidd y degawdau diwethaf wedi dod law yn llaw ag addasiadau cydlynol i gynllun dodrefnu Corff yr Eglwys. Tra bod Cwîr a Sentwar Scott wedi’i ddylunio’n hyfryd ac yn gyfannol ar gyfer y Gosber, roedd dodrefn yng Nghorff yr Eglwys wedi’u rhoi at ei gilydd mewn ffordd braidd yn chwit chwat dros y blynyddoedd. Dylai adeilad o’r pwysigrwydd hwn, ac addoliad Duw o’i fewn, gael ei gynnal a’i gefnogi gan ddodrefn hardd, wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer y gofod hwn ac i’n defnydd ni gyda gofal a manwl gywirdeb. Mae cynllun Luke Hughes yn cynnig celfi y gellir eu defnyddio’n hyblyg, ond sydd hefyd yn rhan o gynllun pwrpasol ar gyfer ein Cadeirlan ac wedi’u cynhyrchu i’r safonau uchaf.

Caiff Bwrdd yr Allor ei gysegru gan yr Esgob yng Nghymun y Crist fore Llun 3 Ebrill am 11.30am. Mae croeso i bawb yn y gwasanaeth hwn.

Gweddïwch â diolchgarwch dros y seiri a’r dylunwyr fu’n gweithio ar ein dodrefn. Gweddïwch hefyd am y defnydd a wneir o’r celfi newydd, i addoli Duw ac i gefnogi cenhadaeth a thystiolaethu ein Cadeirlan.


Drwy Ddagrau Duw

Ein cyhoeddiad ar gyfer Wythnos Fawr 2023 yw Drwy Ddagrau Duw, 20 soned Malcolm Guite ar gyfer yr Wythnos Fawr, gyda chyfieithiad newydd sbon i’r Gymraeg gan yr unigrwy Siôn Aled. A limited number of copies are available for £5.00.


Sioe Ffasiwn

Mae ein sioe ffasiwn er budd Banc Bwyd y Gadeirlan yn symud i mewn i’r Gadeirlan ei hun y tro hwn. Bydd yn cael ei gynnal yma am 3.00pm ddydd Sadwrn 15 Ebrill. Trefnir y sioe ffasiwn gyda chymorth “Shine by Ali”, sy’n dylunio dillad, gemwaith, bagiau a sgarffiau fforddiadwy a hwyliog. Mae tocynnau mynediad yn £5.00 oddi wrth Lesley, ymlaen llaw neu ar y drws.


Darlith Goffa

Cynhelir darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru eleni wedi’r Gosber ar ddydd Iau 20 Ebrill. Ein darlithydd yw’r Athro D. Densil Morgan, yr academydd o fri ar grefydd Protestannaidd Cymru’r canrifoedd diwethaf, a phregethwr o bwys gyda’r Bedyddwyr. Ei bwnc fydd yr offeiriad, y bardd a’r cyfieithydd Edmwnd Prys, a hynny ym phedwarcanmlwyddiant ei farw.


Cymuno

Cyngor wrth Gymuno: Yr arferiad wrth dderbyn yr Afrlladen Sagrafennol (y bara) yw estyn o’n blaen gledrau agored ein dwylaw (ar ôl gwned arwydd y Groes drosom ein hunain yn union cyn cyraedd yr offeiriad yn gweinidogaethu y Cymun os dymunwn). Bydd yr offeiriad sy’n gweinidogaethu’r Cymun yn dweud “Corff Crist,” yr ydym yn ymateb ag “Amen,” cyn gosod yr Afrlladen Sagrafennol yn ein ceg cyn symud oddi wrth yr offeiriad. Yn yr un modd, wrth dderbyn y Gwerthfawr Waed (y gwin), dywedir “Gwaed Crist,” a ninnau’n ymateb “Amen.” Efallai y byddwn yn estyn llaw i helpu’r gweinidog sy’n dal y garegl (cwpan) i dywys y garegl tuag atom, neu ddal ei waelod i’w wyro ychydig, neu adael i’r gweinidog yn unig ymgymryd â’r holl symudiad (wedi gwneud arwydd y Groes drosom ein hunain eto yn union cyn cyrraedd y gweinidog os dymunwn wneud hynny). Ein harfer yw peidio caniatau “gwlychu” (trochi’r Afrlladen Sagrafennol yn y garegl), fel sy’n digwydd mewn rhai mannau, fel y cynghora Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn erbyn gwneud hynny.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i'r Gesimáu a'r Grawys. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Jack Redman, who joins us to sing the role of Christus in our Palm Sunday performance of Bach's Johannes-Passion

Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


The designer, Luke Hughes, behind the new Altar-Table

Holy Week

We stand at the beginning of Holy Week. Our observances are serious and substantial, and offer us a wealth of opportunities to enter into the drama of Christ’s Passion and Resurrection, wrought and achieved for our salvation. Let us urge you to share news of our observances with your friends and neighbours, and to be faithful in your attendance during Holy Week.

Some particular highlights:

Johannes-Passion

On Palm Sunday, our musicians will perform J. S. Bach’s Johannes-Passion (Saint John Passion), accompanied by the instrumental forces of Ensemble 525, and augmented by the voices of the Bangor University Chorus.

Malcolm Guite

Our preacher at the Choral Holy Eucharist and Benediction of the Blessed Sacrament on Holy Monday, Holy Tuesday and Holy Wednesday at 6.00pm is the Revd Dr Malcolm Guite. Malcolm Guite has described himself as “poet, priest, rock & roller, in any order you like.” He was latterly Chaplain of Girton College, Cambridge, and succeeded Ronald Blythe as the writer of a weekly column in the Church Times. Of his sonnets, which will form part of our liturgies during Holy Week, Rowan Williams, sometime Archbishop of Wales, wrote that they “have the economy and pungency of all good sonnets, and again and again, offer deep resources for prayer and meditation to the reader.” His most recent book, Lifting the Veil: Imagination and the Kingdom of God, is a vigorous defence of the artistic imagination as a “truth-bearing faculty.”

Saith Air y Groes

Into the silence of Good Friday, we offer the world premiere of Alex Mills’s Saith Air y Groes – a choral setting of the Seven Last Words from the Cross, grounded in the language and culture of North-West Wales, and commissioned by the Cathedral for this Holy Week. “Gorffennwyd – it is finished,” will resound.


Choral Scholars help to move in the new pew-benches

Bring & Share Lunch

Our thanks to all who contributed so generously to last week’s Bring & Share Lunch, especially to the team who worked so hard to set up and clear up. Our Bring & Share Lunches are a wonderful opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness.


New Nave furniture

We’re delighted to have our new Nave furniture being used for the first time in the Cathedral this morning.

The primary motivation for the new Nave furniture is two-fold.

First, we can rejoice that more use is being made of the Cathedral building – not only on Sundays, but during the week. From our daily liturgical observances through recitals and concerts to toddler groups and school visits, our Cathedral is buzzing with activity every day of the week. The existing furniture in the Nave was intentionally heavy and static, and designed in large part solely for the worshipping style of the Parish Communion Movement of the middle of the last century. It meant that adapting the layout of the Nave for concerts, recitals and other uses – and then restoring the Nave for worship – was cumbersome, and sometimes damaging and dangerous. We need Nave furniture that can be flexible.

Secondly, the liturgical adaptations of recent decades had not been accompanied by coherent adaptations to the Nave furnishing scheme. Whereas Scott’s Quire and Presbytery is beautifully and holistically designed for Evensong, the furniture in the Nave had been assembled in a rather ad hoc way over the years. A building of this importance, and the worship of God within it, ought to be supported by beautiful furnishings, designed for this space and for our use with care and precision. The new scheme offers us furniture that can be flexibly deployed, but which is also a bespoke design for our Cathedral, produced to the highest standards.

The new Altar-Table will be ceonsecrated by the Bishop at the diocesan Chrism Eucharist tomorrow morning Monday 3 April at 11.30am. All are welcome at this service.

Please pray with thanksgiving for the carpenters and designers who have worked on our furniture. Please pray also for the use that will be made of the new furniture, for the worship of God and to support the mission and witness of our Cathedral.


Through Jesus’ Tears

Our Holy Week 2023 publication is Through Jesus’s Tears, a collection of 20 sonnets by Malcolm Guite, with a brand new translation into Welsh by the wonderful Siôn Aled. A limited number of copies are available for £5.00.


Fashion Show

Our Fashion Show in aid of the Cathedral Foodbank is moving into the Cathedral itself this time. It will take place here at 3.00pm on Saturday 15 April. The Fashion Show is arranged with the help of “Shine by Ali”, who design affordable and fun clothing, jewellery, bags and scarves. Admission tickets are £5.00 from Lesley, in advance or on the door.


Memorial Lecture

This year’s Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture takes place after Evensong on Thursday 20 April. Our lecturer is Professor D. Densil Morgan, the distinguished academic of post-Reformation Protestant Wales, and Baptist preacher of note. His subject will be the priest-poet and translator Edmwnd Prys, in this the 400th anniversary of this death.


Making our Communion

Some practical advice as to how we make our Communion: The normal practice to receive the Sacramental Host (the bread) is to extend out in front of us the open palms of our hands (having made the sign of the Cross over ourselves immediately before reaching the priest ministering Communion if we wish to do so). The priest ministering Communion will say “The Body of Christ,” to which we respond “Amen,” before placing the Sacramental Host in our mouths before moving away from the priest. Similarly, when receiving the Precious Blood (the wine), will say “The Blood of Christ,” to which we respond “Amen.” We may reach out to help the minister holding the chalice (cup) guide the chalice towards us, or hold its base to tip it slightly, or let the minister alone undertake all of the movement (having again made the sign of the Cross over ourselves immediately before reaching the minster if we wish to do so). It is not our custom to permit intinction (the dipping of the Sacramental Host into the chalice), as happens in some places, as the Bishops of the Church in Wales advise against doing so.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Gesimatide and Lent. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.