minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Y llwyfan wedi ei gosod ar gyfer perfformiad nos Sadwrn o “My Place" | The stage all set for Saturday's performance of “My Place”
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Canon Richard Peers

Anrhydedd yw croesawu Canon Richard Peers, Is-Ddeon Cadeirlan Christ Church, Rhydychen i'r Gadeirlan y Sul hwn. Bydd Canon Peers, sydd bellach yn gyfaill i’r esgobaeth, yn pregethu yn Choral Holy Eucharist.


Gwasanaeth Ordeinio

Dydd Sadwrn 25 Mehefin am 11am

Cynhelir y gwasanaeth ordeinio esgobaethol blynyddol yn y Gadeirlan ddydd Sadwrn nesaf, ac mae croseo cynnes i bawb ymuno â Helen Franklin and Selwyn Griffiths i ddathlu pennod newydd yn eu gweinidogaeth.

Gwych yw y ceir, fel rhan o’r gwasanaeth, berfformiad cyntaf trefniant corawl newydd o’r Cymun Bendigaid yn Gymraeg gan Gareth Glyn. Wedi ei gomisiynu gan y Gadeirlan â chymorth grant hael gan Tŷ Cerdd, mae’r trefniant hefyd yn cael ei recordio gan y BBC, i’w ddefnyddio maes o law mewn rhaglen o Caniadaeth y Cysegr ar BBC Radio Cymru sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y trefniant newydd hwn.


My Place

Braf oedd croesawu Cwmni Theatr Riding Lights i'r Gadeirlan ddoe ar gyfer eu perfformiad o "My Place". Mae'n diolch yn fawr i bawb a fu’n helpu gyda’r trefniadau ar y noson, ac yn aildrefnu’r Gadeirlan wedi hynny ar gyfer ein haddoliad.


Pride

Mehefin yw mis digwyddiadau Pride mewn cynifer o ddinasoedd. 

Mae Pride yma yn golygu hyrwyddo hunan-gadarnhad, urddas, cydraddoldeb ac amlygrwydd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwîar ac sy’n cwestiynu (LHDTC+). 

Yn y Gadeirlan fis Mehefin eleni, rydym yn chwifio baner Pride am y tro cyntaf o Dŵr Ysgefintwn, ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol. 

Da oedd croesawu gwasanaeth Cymun Caplaniaeth LHDTC+ i’r Gadeirlan, a da o beth yw y bydd gorymdaith Pride y ddinas yn diweddu yng Nghlos y Gadeirlan ar 25 Mehefin. 

Yn y cyfamser, ceir dau ddigwyddiad arall o bwys:


Clas ar Zoom

Dydd Llun 20 Mehefin am 6.30pm

Ein gwestai’r wythnos nesaf yw Gareth Evans Jones. 

Mae’r Dr Evans Jones yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor, gyda diddordeb yn hanes derbyniad y Beibl a’i rôl mewn materion cyfoes. 

Mae hefyd yn nofelydd a dramodydd o fri, ac wedi ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.


Owen Hurcum mewn sgwrs â’r Is-Ddeon

Dydd Iau 23 Mehefin am 6.30pm

Ym mis Mai 2021 daeth Owen Hurcum yn Faer Bangor, a hefyd yn faer agored anneuaidd cyntaf unrhyw ddinas yn y byd. Yn ystod eu tymor fel Maer, mae Owen wedi siarad yn huawdl o blaid hawliau trawsryweddol. Maent yn symud i ffwrdd o Fangor am gyfnod ar ddiwedd eu tymor fel Maer, ond yn dychwelyd i’r Gadeirlan ar gyfer y sgwrs agored a chyhoeddus hon gyda’r Is-Ddeon yng Nghorff yr Eglwys. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm (ar ôl Gosber ar Gân am 5.30pm), ac eto ar ôl y drafodaeth.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

23 Mehefin | Hannah Jenkins | Soprano 

Mae Alice Caldwell yn un o Ysgolheigion y Gân y Gadeirlan. Yn ei datganiad, bydd yn perfformio ystod eang o gyfansoddiadau recorder Baróc gan gyfansoddwyr megis Handel, Telemann a Sammartini.


Buchedd Bangor

Trydydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod tan ddiwedd Mehefin. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


Canon Richard Peers

It is an honour to welcome Canon Richard Peers, Sub-Dean of Christ Church Cathedral, Oxford, to the Cathedral this Sunday. 

Canon Peers, a friend of the diocese, is our preacher at the Choral Holy Eucharist.


Ordination service

Saturday 25 June at 11am

The annual diocesan ordination service takes place at the Cathedral this coming Saturday, and everyone is warmly invited to join Helen Franklin and Selwyn Griffiths to celebrate a new chapter in their ministry, and to join in the drinks reception in the Deanery garden following the service.

We’re delighted that the service will include the world premiere of a new Welsh-language choral arrangement of the Holy Eucharist by the Anglesey-based composer, Gareth Glyn. Commissioned by the Cathedral with the aid of a generous grant from Tŷ Cerdd, the arrangement is also being recorded by the BBC, for use in an episode of BBC Radio Cymru’s Caniadaeth y Cysegr dedicated to the new composition.


My Place

It was good to welcome the Riding Lights Theatre Company to the Cathedral yesterday for their performance of "My Place". Our thanks to all who helped with the arrangements on the night, and the reordering of the Cathedral thereafter for worship.


Pride

June is the month of Pride events in many cities. 

Pride here means the promotion of the self-affirmation, dignity, equality and increased visibility of lesbian, gay, bisexual, transgender, queer and questioning (LGBTQ+) people. 

At the Cathedral this June, we’re fly the Pride flag for the first time from the Skeffington Tower, and hosting a number of significant events. 

It was good to host the diocesan LGTBQ+ Chaplaincy Eucharist; and it will be good to welcome the Bangor Pride parade onto the Cathedral grounds and to the Deanery garden on 25 June. 

There are two other elements in our programme:


Clas on Zoom

Monday 20 June at 6.30pm

Our guest next Monday is Dr Gareth Evans Jones. 

Dr Evans Jones is Lecturer in Religious Studies at Bangor University, with an interest in the reception history of the Bible and its role in contemporary issues. 

He is also a distinguished novelist and playwright, twice winner of the Drama Medal at the National Eisteddfod, and the founder of Llyfrau Lliwgar, North Wales’s Welsh-language LGBTQ+ reading group.


Owen Hurcum in conversation with the Sub-Dean

Thursday 23 June at 6.30pm

In May 2021 Owen Hurcum became Mayor of Bangor, and also the first openly non-binary mayor of any city in the world. 

During their term as Mayor, Owen has spoken eloquently in favour of transgender rights. 

Owen returns to the Cathedral for this open and public conversation with the Sub-Dean in the Nave of the Cathedral. 

A free drinks reception is held from 6pm (after Choral Evensong at 5.30pm), and again after the discussion.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

23 June | Hannah Jenkins | Soprano

Hannah Jenkins, a former head chorister of Chester Cathedral, presents a programme of sacred works for soprano.


Buchedd Bangor

The third edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This third edition is a companion to the period to the end of June. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.