minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Bydded goleuni - yr wythnos hon yn y Cwîr | Let there be light - this week in the Quire
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Stribedi golau talus newydd yn yr Ysgol Gân | Neat new strip lights in the Song School

Hysbys wythnosol


Defod y Goleuni

Sul yr Adfent
28 Tachwedd
5.30pm

Y Sul hwn, Sul yr Adfent, cynhelir y cyntaf o’n tair defod draddodiadol, dirdynnol a cherddorol ar nos Sul dros gyfnod y Nadolig. Bydd y ddefod ddwyieithog hon, yng ngolau cannwyll, yn ein trochi yng ngoleuni Crist, sy’n datgelu inni wir fywyd. 

Mae’r ddefod yn rhad ac am ddim i fynychu, gyda rhoddion yn cael eu gwahodd tuag at ein Apêl Nadolig. 

Bydd yn wasanaeth arbennig. Gwnewch eich gorau i fynychu, os y medrwch.


Sel!

Mae’r gwerthiant o anrhegion, cardiau, llyfrau a nwyddau eraill o siop y Gadeirlan yn parhau.

Mae yna rai bargeinion rhagorol i’w cael, felly cymerwch gip. Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr sydd wedi gweithio’n galed i ddidoli stoc, ac i alluogi’r stondin i fod ar waith.


Paul a Jason, fu'n gweithio'n ddyfal ar y goleuadau | Paul and Jason, who've worked so hard to fix our lights

Tri gweinidog cysegredig

Yn y Cymun Bendigaid ar Gân a’r Chroal Holy Eucharist o’r Sul hwn ymlaen, bydd Diacon ac Is-Ddiacon yn ymuno â’r offeiriad sy’n llywyddu yn y Cymun. Bydd y Diacon bob amser yn aelod o Goleg Offeiriaidol Y Gadeirlan, a bydd yn cyhoeddi’r Efengyl; a bydd yr Is-Ddiacon bron bob amser yn berson lleyg. Mae’r trefniant traddodiadol hwn, sy’n dathlu gweinidogaeth Diaconiaid a lleygwyr yn ystod y litwrgi, ac yn rhoi urddas i’n dathliad o’r Cymun, yn fynegiant symbolaidd cyfoethog o’r rôl yr ydym i gyd yn ei chwarae wrth ddathlu’r Cymun, wrth inni ymgynnull fel cymuned, mewn amrywiaeth ac undod, i gwrdd â Christ yn y bara a’r gwin.

Gosber ar Gân ar ddydd Iau

Mae wedi bod yn hyfryd gallu offrymu Gosber ar Gân unwaith eto ar brynhawn Sul am 3.30pm. Mae’n newyddion gwell fyth ein bod bellach mewn sefyllfa i adfer offrymu Gosber ar Gân yn ystod yr wythnos. O ddechrau mis Rhagfyr, caiff Gosber ar Gân ei offrymu yn ddwyieithog bob nos Iau am 5.30pm. Cefnogwch y gwasanaeth rhyfeddol hwn gyda’ch presenoldeb. Mae’n wasanaeth arbennig o dda i wahodd ffrindiau a’r rhai sydd ar gyrion bywyd yr Eglwys i’w fynychu.


Cabidwl y Gadeirlan

Bydd Cabidwl y Gadeirlan (corff goruchwylio’r Gadeirlan) yn cwrdd ddydd Mawrth yn Nant Gwrtheyrn. Cofiwch ymddiddan y Cabidwl yn eich gweddïau.


Buchedd Bangor

Mae'n hyfryd inni gyhoeddi rhifyn cyntaf o Buchedd Bangor, cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. 

Mae’r rhifyn cyntaf yn gydymaith i’r cyfnod o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) tan ddiwedd tymor y Nadolig ar Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr). Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Mae tudalennau 40-43 o Buchedd Bangor yn amlinellu’r dathliadau cyfoethog a chywrain sy’n cymryd lle yn y Gadeirlan dros yr Adfent a’r Nadolig, y tu hwnt i’n defodau rheolaidd a’n Cymun Nadolig. 

Mae’r rhain yn cynnwys perfformiad dwyieithog o’r Meseia gan y Côr ar 14 Rhagfyr a’n Llithoedd a Charolau’r Nadolig ar 19 Rhagfyr. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r dyddiadau hyn a’r dathliadau eraill yn eich dyddiaduron, ac yn rhannu’r newydd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Goleadau newydd (o'r 50au!) yn y Gysegrfa | New "50s" light fittings in the Sacristy

Weekly notices


A Ceremony of Light

Advent Sunday
28 November
5.30pm

The first of our traditional, atmospheric and musically-rich ceremonies on a Sunday evening during the Christmas period takes place this Sunday, Advent Sunday. 

This bilingual, candle-lit ceremony will invite us to attend to Christ, the light of the world and the life of all people. The ceremony is free to attend, with donations invited towards our Christmas Appeal. 

It will be a wonderful service. Please make it a priority to attend, if you can.


Sale!

The sale of gifts, cards, books and other Cathedral shop merchandise continues.

There are some excellent bargains to be had, so please take a look. We are grateful to colleagues who have worked hard to sort through stock, and to enable the stall to be in operation.


Ein Darllenydd yn un o'n Tiwniglau wedi'u hailddefnyddio | Our Reader in one of our re-used Tunicles

Three sacred ministers

At the Cymun Bendigaid ar Gân and the Choral Holy Eucharist from this Sunday onwards, the priest presiding at the Eucharist will be joined at the altar-table by a vested Deacon and Sub-Deacon. The Deacon will always be a member of the Cathedral’s College of Priests, and will proclaim the Gospel; and the Sub-Deacon will almost always be a lay person. This traditional arrangement, valuing the ministry of Deacons and lay people during the liturgy, and lending dignity to our celebration of the Eucharist, is a rich symbolic expression of the role we all play at the celebration of the Eucharist, as we gather as a community, in diversity and unity, to meet Christ in bread and wine.


Choral Evensong on Thursday

It has been wonderful to be able to offer Choral Evensong again on a Sunday afternoon at 3.30pm. It is even better news that we are now in a position to reinstate a weekday offering of Choral Evensong. From tis Thursday, Choral Evensong will be offered bilingually every Thursday evening at 5.30pm. Please support this wonderful service with your presence. It’s a particular good service to which to invite friends and those on the margins of Church life.


Cathedral Chapter

The Cathedral Chapter (the Cathedral’s oversight body) meets on Tuesday in Nant Gwrtheyrn. Please keep the Chapter’s deliberations in your prayers.


Buchedd Bangor

It's wonderful to be publishing the first issue of Buchedd Bangor, the new magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. 

This first edition is a companion to the period from Advent Sunday (28 November) until the end of Christmastide on Candlemas Day (30 January). It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Pages 40-43 of Buchedd Bangor outline the rich and wonderful celebrations taking place at the Cathedral over Advent and Christmas, in addition to our regular observances and Christmas Eucharists. 

These include a performance of the Messiah by the Choir on 14 December and our Christmas Lesson & Carols on 19 December. Please be sure to put these and other dates in your diaries.

Please also take copies away to give to others to introduce them to the life and buzz of the Cathedral.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.