minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...

Dydd Sadwrn | Dygwyl Hywyn

Cinio Nadolig y myfyrwyr dan ofal ein Caplan Prifysgol a Chymuned

Diolchgarwch am fendithion yr Ŵyl

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

Ni phylodd, dros wythnosau’r Adfent, y llewyrch a welais yn ystod ein Defod Hwyrol at Sul yr Adfent, wrth i Wylnos Rachmaninoff gynnal ein gweddïau yng ngolau cannwyll. Byw fu’r golau wrth i ni groesawu llu o ysgolion, elusennau, corau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol i’w gwasanaethau carolau. Bu’n fwy disglair fyth wrth i ni gasglu rhoddion ar gyfer Shelter Cymru, ein Helusen Nadolig 2023, yn ogystal ag at waith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol a gweinidogaeth Banc Bwyd y Gadeirlan. Disgleiriodd yn ffyddlon yn ystod ein defodau Adfent rheolaidd yn y Gadeirlan ac yn Eglwys y Groes. Yn fwy na dim, fe oleuodd y Gadeirlan yn ogoneddus mewn dau offrwm o ddefod hyfryd Naw Llith a Charol, ac yn ein Cymun Bendigaid Ganol Nos a’n Cymun Dydd Nadolig.

Y llynedd, daeth dros 1,000 o bobl dros y trothwy ar gyfer ein gwasanaethau arbennig yn ystod yr Adfent a’r Nadolig drwyddi draw. Eleni, ymunodd mwy na’r nifer hwnnw â ni ar gyfer y Naw Llith a’r ddau Gymun Nadolig yn unig. Dylai’r cynydd hwn mewn gweithgarwch ac ymgynnygiad fod yn achos diolchgarwch inni; ond yn fwy byth am i mi deimlo eleni gynydd yn y gobaith a’r gras a adnabyddir ac a rennir yn ein plith. Mae wedi bod yn hyfryd clywed adborth mor gadarnhaol gan ein cynulleidfaoedd a’n cymuned.

Nid oes dim o hyn yn digwydd heb haelioni, ewyllys da a gwaith caled ar ran tîm o gydweithwyr a’n teulu eglwysig ar y cyd. Rwyf mor ddiolchgar i bawb am eich hymrwymiad a’ch ffyddlondeb, ac yn diolch am i hynny dwyn ffrwyth llawen y Nadolig hwn.


Dydd Mawrth | Basil o Gesarea

Mins peis a phaned

Mae ein dyled yn fawr i dîm o Stiwardiaid, dan arweiniad Canon Lesley Horrocks, a fu’n gweini mins peis a phaned yn y Gadeirlan i ymwelwyr a phererinion o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn yr wythnos ddiwethaf hon.


Y Plygain

Cynhelir gwasanaeth traddodiadol y Plygain, pan y ceir yr Hwyrol Weddi a y daw cantorion gwirfoddol lleol i ganu carolau Nadolig Cymraeg hynafol, yn y Gadeirlan ar nos Wener 19 Ionawr am 7.00pm.



Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...

Saturday | Saint Hywyn's Day

The student Christmas Day lunch, organized by our University & Community Chaplain

Thanksgiving for the blessings of Christmas

The Sub-Dean writes:

The glow I glimpsed during our Evening Liturgy of Advent Sunday, as Rachmaninoff’s Vespers sustained and accompanied our candlelit prayers, did not dim during the weeks of Advent. It was sustained as we welcomed a multitude of schools, charities, community choirs and voluntary organizations for their carol services. It blazed all the more brightly as we raised donations for Shelter Cymru, our 2023 Christmas Charity, as well for the work of Christian Aid in the Middle East and the ministry of the Cathedral Foodbank. It shone faithfully during our regular Advent observances at the Cathedral and at Eglwys y Groes. Above all, it illumined the Cathedral gloriously at two offerings of a beautiful service of Nine Lessons & Carols, and at our Midnight Eucharist and Eucharist of Christmas Day.

Last year, over 1,000 people crossed the threshold for our special services during the whole of Advent and Christmas. This year, more than that number joined us for our two Carol services and two Choral Eucharists of Christmas alone. This increase of activity and engagement should be the cause of thanksgiving; but all the more so as it felt to me this year to speak of an increase in hope and grace known and shared in our midst. It has been delightful to hear such positive feedback from our congregations and our community.

None of this happens without generosity, good will and hard work on the part of a team of colleagues and our church family as a whole. I am so very grateful to all for your commitment and faithfulness, and give thanks for that it has borne fruit so joyfully this Christmas.


Tuesday | Gregory of Nazianus

Mince pies and coffee

We owe a debt of thanks to a team of Stewards, led by Canon Lesley Horrocks, who served mince pies and coffee at the Cathedral to visitors and pilgrims from Wednesday to Saturday of this past week.


Plygain

The traditional Welsh service of Plygain, at which Evening Prayers are said and to which local volunteer choirs come to sing ancient Welsh Christmas carols, takes place at the Cathedral on Friday 19 January at 7.00pm.



Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.