minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Bendithio casgenni'r Oktoberfest ar ddiwedd Gosber nos Iau | The Blessing of the Oktoberfest casks after Evensong on Thursday
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Jarel Robinson-Brown yn narlith yr wythnos ddiwethaf | at last week's lecture

Oktoberfest

Mae’n diolch yn fawr i bawb fu’n cyfrannu i Oktoberfest cyntaf y Gadeirlan yr wythnos ddiwethaf hon. Bu llawer o waith diflino yn y cefndir i’n galluogi i groesawu llawer dros y trothwy, i gynnal digwyddiad diogel, ac i godi pres i gefnogi cenhadaeth y Gadeirlan.


Sioe Ffasiwn

Diolch hefyd i bawb a fu’n rhan o, ac a gefnogodd, ein Sioe Ffaswin, mewn partneriaeth â “Shine with Ali”, yn Eglwys y Groes nos Sadwrn, gan gefnogi Banc Bwyd y Gadeirlan.


Darlithoedd

Braf oedd croesawu’r Tad Jarel Robinson-Brown nos Iau 13 Hydref i draddodi Darlith Goffa’r Dr Margaret Thrall mewn Diwinyddiaeth a’i Arfer. Mae recordiad o’r ddarlith i’w weld ar ein tudalennau Facebook a YouTube. 

Edrychwn ymlaen yn awr at y bedwaredd ddarlith a’r olaf yn y gyfres eleni. Ddydd Iau 27 Hydref, bydd y Canon Janet Gough yn traddodi Darlith Goffa y Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys. Mae Canon Janet Gough yn arbenigwr blaenllaw mewn pensaernïaeth eglwysig ac yn hyrwyddwr eglwysi hanesyddol. Bu’n Gyfarwyddwr Cadeirlannau ac Adeiladau Eglwysig cenedlaethol Eglwys Loegr, a dyfarnwyd OBE iddi am wasanaeth i dreftadaeth yn 2017. 

Ei phwnc yw “Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid?”. 

Mae’r ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ar ôl Gosber ar Gân am 5.30pm, ac fe’i dilynir gan dderbyniad gwin.


Uwch Siryf Gwynedd yn y Gadeirlan y Sul diwethaf | The High Sheriff of Gwynedd at the Cathedral last Sunday

Dygwyl y Meirw

Mae Coffadwriaeth yr Holl Eneidiau ar Ddygwyl y Meirw, 2 Tachwedd, yn gyfle blynyddol i ddal gerbron Duw mewn gweddi y ffyddloniaid ymadawedig. 

Byddwn yn coffáu’r Holl Eneidiau gyda Chymun ar Gân dros y Meirw am 6pm ddydd Mercher 2 Tachwedd. 

Bydd Côr y Gadeirlan, i gyfeiliant cerddorfa, yn canu gosodiad John Rutter o’r Requiem

Mewn gweddi, addoliad a cherddoriaeth ar y noson hon, bydd ein galar yn cwrdd â’r gobaith a gawn yn harddwch, gwirionedd a chariad Crist. 

Bydd y Cymun yn cael ei gynnig dros yr holl ffyddloniaid ymadawedig; ond bydd unigolion yn cael eu cofio yn ôl eu henw yn ystod yr ymbiliau. Ychwanegwch enwau at y rhestr yng nghefn Corff yr Eglwys.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

20 Hydref | Fiona Coutts-Moore | Contralto

Mae Fiona Coutts-Moore, cyn aelod o Gôr y Gadeirlan, yn dychwelyd gyda detholiad o gerddoriaeth ar gyfer llais contralto.


Buchedd Bangor

Pedwerydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r fisoedd yr haf. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


Archddiacon Meirionnydd yn cyflwyno'r darlithydd yn narlith yr wythnos ddiwethaf | The Archdeacon of Meirionnydd introducing the lecturer at last week's lecture

Oktoberfest

We owe a debt of gratitude to everyone who contributed to the Cathedral’s first Oktoberfest this past week. Much tireless work took place in the background to enable us to welcome many over the threshold, to hold a safe event, and to raise money to support the Cathedral’s mission.


Fashion Show

Our thanks also to all who arranged and took part in our Fashion Show, in collaboration with “Shine with Ali”, at Eglwys y Groes on Saturday, raising funds to support the Cathedral Foodbank.


Lectures

It was wonderful to welcome Fr Jarel Robinson-Brown on Thursday 13 October to deliver the inaugural Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology & Praxis. A recording of the lecture can be found on our Facebook and YouTube pages. We look forward now to the fourth and final lecture in this year’s series. 

On Thursday 27 October, Canon Janet Gough delivers the inaugural Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology & Church History. Canon Janet Gough is a leading expert in in church architecture and a champion of historic churches. She served as the national Director of Cathedrals & Church Buildings for the Church of England, and was awarded an OBE for services to heritage in 2017. 

Her subject is “What have the Victorians ever done for us?” 

The lecture begins at 6.30pm, after Evensong at 5.30pm, and is followed by a drinks reception.


Yr Arglwydd Brif Ustus yn y Gadeirlan y Sul diwethaf | The Lord Chief Justice at the Cathedral last Sunday

All Souls Day

The Commemoration of All Souls, on 2 November, is an annual opportunity to hold before God in prayer the faithful departed. 

We will be commemorating All Souls with a Choral Requiem Eucharist at 6pm on Wednesday 2 November. 

Our Cathedral Choir will be accompanied by an orchestra as they sing John Rutter’s setting of the Requiem

n prayer, worship and music on this night, our grief will meet the hope we find in the beauty, truth and love of God in Christ. 

The Eucharist will be offered for all the faithful departed; but individuals will be remembered by name during the intercessions. Please add names to the list at the back of the Nave.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

20 October | Fiona Coutts-Moore | Contralto

Fiona Coutts-Moore, a former chorister of the Cathedral Choir, returns to bring us a selection of music for contralto voice.


Buchedd Bangor

The fourth edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This fourth edition is a companion to the summer months. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.