minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Sesiynau’r astudiaeth


Bydd ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn archwilio sut y gall Cristnogion ddyfnhau ein dealltwriaeth o Iddewiaeth, addysgu ein hunain am wrth-Iddewiaeth Gristnogol, a chamu i ddyfodol ffrwythlon o gydweithio rhyng-ffydd.


Sesiwn 1
Nos Fercher 21 Chwefror am 6.00pm

Y bobl eu hunain
Cyflwyniad i Iddewiaeth

Avigail Simmonds-Rosten

Mae Iddewiaeth wedi bod yn gysyniad anodd i’r rhai sy'n ymdrin â’r pwnc â therminoleg gyffesiadol Gristnogol draddodiadol. Bydd y sesiwn hon yn ceisio diffinio Iddewon ac Iddewiaeth o fewn eu profiadau, hunaniaethau a chredoau eu hunain, gan ganolbwyntio ar berthyn grŵp, ethnigrwydd, diwylliant a hanes yn ogystal ag arferion crefyddol a systemau cred. Byddwn yn dechrau drwy ymgysylltu â diffiniad cymhleth ein termau – pwy sy’n Iddewig, beth yw Iddewiaeth, a sut mae Iddewon yng Nghymru a thu hwnt yn gweld eu hunain a’u perthynas â’u hunaniaeth Iddewig eu hunain.


Sesiwn 2
Nos Fercher 6 Mawrth am 6.00pm

Dysgu dirmyg a chysgod y Shoah
Ymatebion Cristnogol i Iddewon ac Iddewiaeth

James Roberts

Mae gan Gristnogaeth hanes hir o rethreg wrth-Iddewig sydd wedi arwain at niwed sylweddol i gymunedau Iddewig. Yn wir, mae’r ffordd y mae Cristnogaeth wedi sôn am Iddewiaeth wedi’i ddisgrifio fel “dysgu dirmyg.” Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r dreftadaeth Gristnogol hon a hanes gwrth-Iddewiaeth Gristnogol. Yng ngoleuni'r Holocost (y Shoah), bu newid mawr i’r berthynas Gristnogol-Iddewig, lle cydnabuwyd yr hanes hwn ac ailaseswyd gweledigaethau diwinyddol. Felly, wrth sefyll yng nghysgod y Soah, sut gall Cristnogion ymgysylltu â’r hanes anodd hwn?


Sesiwn 3
Nos Fercher 20 Mawrth am 6.00pm

Perthyn a gwahanu
Ailfeddwl diwinyddol am gyfamodau a chysylltiadau Cristnogol-Iddewig

James Roberts

Sut gall Cristnogion feithrin cysylltiadau Cristnogol-Iddewig cadarnhaol, yn enwedig trwy’r ddiwinyddiaeth sy’n llywio ein harferion a’n cred? Mae tasg bwysig i Gristnogion asesu hanes gwrth-Iddewiaeth Gristnogol o fewn ein traddodiad. Ond mae tasg hollbwysig arall hefyd, sef ailadeiladu ein meddwl diwinyddol er mwyn meithrin perthynas Gristnogol-Iddewig iach a ffrwythlon. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gallem ddechrau gwneud hyn, gan feddwl yn arbennig am y syniad diwinyddol o gyfamod.


Cymraeg

Study sessions


Our Lent Wednesday study will explore how Christians can deepen our understanding of Judaism, educate ourselves about Christian anti-Judaism, and move forward into a fruitful future of interfaith collaboration.


Session 1
Wednesday 21 February at 6.00pm

Peoplehood and personhood
An Introduction to Judaism

Avigail Simmonds-Rosten

Judaism has been a difficult concept for those approaching the subject with traditional Christian confessional terminology. This session will seek to define Jews and Judaism within their own experiences, identities and beliefs, focusing on group belonging, ethnicity, culture and history as well as religious practice and systems of belief. We will begin by engaging with the complex definition of our terms – who is Jewish, what is Judaism, and how do Jewish people in Wales and beyond perceive themselves and their relationship with their own Jewish identity.


Session 2
Wednesday 6 March at 6.00pm

The teaching of contempt and the shadow of the Shoah
Christian responses to Jews and Judaism

James Roberts

Christianity has a long history of anti-Jewish rhetoric which has led to significant harm for Jewish communities. Indeed, the way in which Christianity has taught about Judaism has been described as “the teaching of contempt.” This session will interrogate this Christian heritage and the history of Christian anti-Judaism. In light of the Holocaust (the Shoah), a sea-change occurred for Christian-Jewish relations, where this history was acknowledged and theological visions reassessed. So, standing in the shadow of the Shoah, how can Christians engage with this difficult history?


Session 3
Wednesday 20 March at 6.00pm

Kinship and divergence
Theological rethinking about covenants and Christian-Jewish relations

James Roberts

How can Christians build positive Christian-Jewish relations, particularly through the theology that shapes our practices and belief? There is an important task for Christians to assess the history of Christian anti-Judaism within our tradition. But there is also a vital task for us: to rebuild our theological thinking in order to foster healthy and fruitful Christian-Jewish relations. This session will explore how we might begin doing this, thinking especially of the theological notion of covenant.