
Dafydd ym Mangor – Dafydd ap Gwilym a Chadeirlan Deiniol Sant
Dydd Iau 12 Hydref 2023
7.00pm
Cyswllt Dafydd ap Gwilym â'r Gadeirlan gyda Sara Elin Roberts
Roedd Dafydd ap Gwilym yn un o brif feirdd Ewrop y Canol Oesoedd. Ac yntau’n enwog ei ganu i ferched a byd natur, priodolir iddo gorpws enfawr o farddoniaeth hardd a chymhleth. Ymhlith gweithiau llai adnabyddus Dafydd cawn gasgliad o gerddi sy’n cyfeirio at ei ymweliad â Chadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Natur a chyd-destun ei gerddi a’i gynefindra â’r Gadeirlan fydd testun darlith Dr Roberts.
The Bard in Bangor – Dafydd ap Gwilym and Saint Deiniol’s Cathedral
Thursday 12 October 2023
7.00pm
Exploring Dafydd ap Gwilym's links to the Cathedral with Sara Elin Roberts
Dafydd ap Gwilym was one of medieval Europe’s finest poets. Famed for his poems to women and nature, a huge corpus of complex but beautiful poetry is attributed to him. Among the lesser-known works by Dafydd we find a group of poems that reference his visit to Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor. The nature and context of his poems and his familiarity with the Cathedral will be subject of Dr Roberts’s lecture.