minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Y sgaffaldiau ar Dwr Ysgefitwn am wythnosau olaf y gwaith | The scaffolding on the Skeffington Tower for the last few weeks of the works
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Gosodwyd y gôt gyntaf o baent ar y Drws Gorllewinol

Cymanfa Gŵyl Ddewi

Byddwn yn dathlu gŵyl ein nawddsant cenedlaethol gyda Chymanfa yn y Gadeirlan nos Fercher yma am 6pm. Bu ein gwasanaethau Naw Llith a Charol yng ngolau cannwyll yn ystod yr Adfent a’r Nadolig yn achlysuron hynod boblogaidd a theimladwy. Gwnewch bob ymdrech i nodi’r diwrnod pwysig hwn drwy addoliad yn y Gadeirlan.


Cyfarfod Cynulleidfaol

Cynhelir ein Cyfarfod Cynulleidfaol Dygwyl Ddewi nos Iau am 6.30pm, yn dilyn y Gosber ar Gân am 5.30pm.


Cinio Dewch i Rannu

Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, ar Sul y Dioddefaint 26 Mawrth. Mae’n Cinio Dewch i Rannu yn gyfle am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd. Gwahoddir pawb; ac os hoffech awgrymiadau am fwyd i’w ddwyn, siaradwch â Canon Jane Coutts.


Alex Mills

Clas

Clas yw teitl ein fforwm Zoom sy’n ymgynnull ambell ddydd Llun am 6.30pm.

Mae Clas y nos Lun yma’n gyfle i gwrdd ag Alex Mills. Yn enedigol o Sir Benfro, mae Alex yn gyfansoddwr cerddoriaeth siambr, cerddorfaol a chorawl, yn ogystal â dwy opera ddiweddar, Dear Marie Stopes a Leonardo. Rydym wrth ein bodd bod Alex wedi derbyn comisiwn i gyfansoddi gosodiad Cymraeg o Saith Air y Groes, i’w berfformio yn y Gadeirlan ar Ddydd Gwener y Groglith 2023. Cawn sgwrs ag Alex am ei gefndir, ei gyfansoddiadau blaenorol, a hynt a helynt ei gyfansoddi ar ein cyfer ni.

Cyn i ni ffarwelio â Mary Stallard, wrth iddi ein gadael i ddod yn Esgob newydd Llandaf, mae’n ymuno â ni yn Clas ar 6 Mawrth i fyfyrio ar ei chyfnod yn yr esgobaeth, ei chyfranogiad yng Nghynhadledd Lambeth yr haf diwethaf, ei hymweliad Cymundeb Anglicanaidd diweddar â Ghana, a phopeth sydd nawr o’i blaen.

Cliciwch ima i ymuno â Clas ar Zoom.

Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

2 Mawrth | Ella Leonard | Obo

Mae Ella Leonard, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn ymweld â’r Gadeirlan i gyflwyno gweithiau allweddol o repertoire yr obo.

9 Mawrth | Simon Lawford | Organ

Mae Organydd yr Eglwys Ffrangeg yn Llundain yn cymryd seibiant o’r metropolis i roi organ y Gadeirlan ar brawf.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i'r Gesimáu a'r Grawys. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


The first coat of paint applied to the West Door

Saint David’s Day Carol Service

We will be marking the festival our national patron saint with a Carol Service at the Cathedral this Wednesday at 6pm. Our candlelit services during Advent and Christmastide proved hugely popular and very moving occasions. Please make every effort to mark this important day in worship at the Cathedral.


Congregational Meeting

Our Davidstide Congregational Meeting takes place on Thursday evening at 6.30pm, following Choral Evensong at 5.30pm.


Bring & Share Lunch

Our next Bring & Share Lunch will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharist, on Passion Sunday 26 March. Our Bring & Share Lunches are an opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness. All are invited; and if you would like suggestions about food to bring, please speak to Canon Jane Coutts.


Alex Mills

Clas

Clas is the name of our Cathedral Zoom forum, meeting on occasional Mondays at 6.30pm.

This coming Monday’s Clas is an opportunity to meet the composer, Alex Mills. Alex is a composer of chamber, orchestral and choral music, and of two recent operas, Dear Marie Stopes and Leonardo. We’re delighted that Alex has accepted a commission to compose Saith Air y Groes, a setting of the Seven Last Words from the Cross, to be performed at the Cathedral on Good Friday 2023. We’ll speak to Alex about his background, his previous compositions, and his approach to his composition for the Cathedral.

Before we say farewell to Mary Stallard, as she leaves us to become the new Bishop of Llandaff, she joins us at Clas on 6 March to reflect on her time in the diocese, her participation in the Lambeth Conference last summer, her recent Anglican Communion visit to Ghana, and all that lies ahead.

Click here to join Clas on Zoom.

Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

2 March | Ella Leonard | Oboe

Bangor University student Ella Leonard pays a visit to the cathedral to introduce us to some key pieces of the oboe repertoire.

9 March | Simon Lawford | Organ

The Organist of the French Church in London takes a break from the metropolis to put the Cathedral organ through its paces.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Gesimatide and Lent. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.