minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Gareth, ein saer, a Comfort, un o’n Stiwardiaid, ger un o’r cilbostiau newydd | Gareth, our carpenter, and Comfort, one of our Stewards, next to one of the new plinths
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Naomi Wood

Gweddi dros y rhai’n Ymadael i hyfforddi ar gyfer y Weinidogaeth

Ar ddiwedd ein Cymun heddiw, gweddïwn dros Naomi Wood a Robert Jones, dau aelod o’n cymuned sy’n ein gadael yr haf hwn i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth offeiriadol. Mae Naomi a Rob wedi rhoi’n hael o’u hamser a’u doniau i’n bywyd ar y cyd yn y fangre hon dros flynyddoedd lawer. Mae’n diolch yn fawr iddynt; byddwn yn eu cynnal yn ein gweddïau dros y blynyddoedd o hyfforddiant sydd o’n blaenau; ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl yma ar derfyn y daith honno.

Naomi a Robert, wrth i chi baratoi i adael y fangre hon a’n cymuned fan hyn i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig, ewch yn sicrwydd ein gweddïau; a gweddïwch hefyd drosom ninnau yn ystod y blynyddoedd a ddaw fel y bydd Deiniol – ein sylfaenydd, eich cydymaith, a phatrwm i chwi ar wir weinidogaeth – yn gweddïo drachefn drosoch chwithau.

Cerfluniau defosiynol yng Nghorff yr Eglwys

Da, yr wythnos ddiwethaf hon, oedd derbyn dau gilbost newydd yng Nghorff yr Eglwys. Mae un ohonynt wedi disodli’r plinth braidd yn anniogel a oedd yn cynnal delwedd Mair o Fangor. Mae’r ail blinth wedi ein galluogi i ddwyn o’r Seintwar i Gorff yr Eglwys y ddelwedd hardd o Grist y Gwaredwr – cerflun hynafol o’r Iseldiroedd sy’n darlunio Iesu Grist yn dal y byd yn ei ofal ac er ei fendith. Rydym yn ddiolchgar i’n saer coed lleol, Gareth Owen, am ei waith cywrain ar y coed.


Cinio Dewch a Rhannu

Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, ar Ddygwyl Fair yn Awst, Dydd Sul 13 Awst. Mae’n Cinio Dewch a Rhannu yn gyfle am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd. Gwahoddir pawb; ac os hoffech awgrymiadau am fwyd i’w ddwyn, siaradwch â Canon Jane Coutts.


Addoliad yn ystod yr wythnos dros fisoedd yr haf

Wrth galon ein haddoliad yn ystod yr wythnos yma yn y Gadeirlan ac yn Eglwys y Groes y mae dathlu’r CYmun. Dethlir y Cymun yn ddyddiol yn y Gadeirlan am 12.30pm, bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn; ac yn wythnosol yn Eglwys y Groes, ar ddydd Iau am 2.00pm.

Mae’r offrwm o weddi a mawl yn y Gosber ar Gân yn rhan bwysig arall o fywyd addolgar y Gadeirlan. Yn ystod misoedd yr haf, tra bod ein lluoedd corawl yn lleihau, offrymir Gosber ar Gân yn wythnosol am 3.30pm ar brynhawn Sul, tra bo’n Gosber ar Gân ar nosweithiau’r wythnos wedi eu gohirio. Dywedir Hwyrol Weddi bob dydd Iau am 5.30pm.

Gwnewch yn fawr o’r addoliad rheolaidd yma. Mae dathliadau 12.30pm y Cymun yn ystod yr wythnos yn cynnig ennyd dawel, fyfyriol yng nghanol y dydd. Mae croeso mor gynnes yn Eglwys y Groes ym Masgeirchen ar ddydd Iau, gan gynnwys te ar ôl y gwasanaeth. Ac mae ein Gosber ar Gân ar y Sul yn hardd ac yn fyfyriol.


Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn gymdeithas newydd y’i hadeiledir ar dir hynafol, cysegredig. O’i lansiad ar ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn 2023, rydym yn gobeithio y bydd y Cyd-Bererinion yn tyfu’n gymuned o’r rhai pell ac agos sydd am gerdded gyda ni fel rhan o gymuned Cadeirlan Deiniol Sant ac i gefnogi ac annog ein taith i’r dyfodol trwy weddi, cwmnïaeth a chodi arian. Darllenwch ragor fan hyn.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Robert Jones

Prayer for departing Ordinands

At the end of our Eucharist today, we pray for Naomi Wood and Robert Jones, two members of our community who are leaving us this summer to train for priestly ministry. Naomi and Rob have given generously of their time and talent to the common life of this place over many years. We owe them a debt of gratitude; we will be holding them in our prayers over the years of training that lie ahead; and we look forward to welcoming them back here at that jounrey’s end.

Naomi and Robert, as you take your leave of this place and our community to prepare for ordained ministry, go with the assurance of our prayers; and pray for us during the years ahead, as Deiniol – our founder, your companion, and a measure for your ministry – will pray also for you.

Devotional statues in the Nave

This past week we were delighted to take receipt of two new plinths in the Nave of the Cathedral. One of them has replaced the rather unsafe base that was sustaining the image of Mary of Bangor. The second plinth has enabled us to bring down from the Presbytery the beautiful image of Christ the Saviour – an ancient Netherlandish sculpture that depicts Jesus Christ holding the world in his care and for his blessing. We are grateful to our local carpenter, Gareth Owen, for his careful work with the wood.


Bring & Share Lunch

Our next Bring & Share Lunch will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharist, on the Festival of Mary the Mother of God, Sunday 13 August. Our Bring & Share Lunches are an opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness. All are invited; and if you would like suggestions about food to bring, please speak to Canon Jane Coutts.


Weekday worship over the summer months

At the heart of our weekday worship here at the Cathedral and in Eglwys y Groes is the celebration of the Eucharist. The Eucharist is celebrated daily at the Cathedral at 12.30pm, every day from Monday to Saturday; and weekly at Eglwys y Groes, on Thursdays at 2.00pm.

The offering of prayer and praise at Choral Evensong is another important component of the Cathedral’s worshipping life. During the summer months, while our choral forces are reduced, Choral Evensong is offered weekly at 3.30pm on Sunday afternoons, while our our weekday Choral Evensongs are suspended until the full Choir’s return. Evening Prayer will be said every Thursday at 5.30pm.

Please make the most of the regular round of worship here. The 12.30pm weekday celebrations of the Eucharist are a quiet, meditative moment in the middle of the day. There is such a warm welcome at Eglwys y Groes in Masgeirchen on Thursdays, including afternoon tea after the service. And our Sunday Choral Evensongs are beautiful and reflective.


The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor

The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor is a new association built on ancient, sacred ground. From its launch on our Midsummer Foundation Sunday in 2023, we hope that the Pilgrim-Friends will grow into a community of those far and wide who want to walk with us as part of the community of Saint Deiniol’s Cathedral and to support and encourage our journey into the future by prayer, companionship and giving. Read more about the Pilgrim-Friends here.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.