
O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Gwasanaeth Esgobaethol a Sirol o Weddi a Diolchgarwch cyn Coroni Eu Marhwydi’r Brenin a’r Frenhines
Cynhelir ein gwasanaeth i weddïo dros a dathlu’r Coroni am 6.00pm nos Sul 30 Ebrill. Bydd y Côr yn canu cerddoriaeth a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd mewn Coroniadau blaenorol, gan gynnwys Sadoc y Ffeiriad gan Handel ac I was Glad gan Parry. Mae croeso i bawb; mae mynediad am ddim, a gellir cadw sedd yma; bydd derbyniad gwin i ddilyn. Bydd y gwasanaeth yn cymryd lle ein Gsober ar Gân arferol ar brynhawn Sul.

Datganiadau Paned
Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am
27 Ebrill | Esther Evans | Ffidil
Mae Esther yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor ac yn astudio cerddoriaeth ar y cyd ag athroniaeth, moeseg a chrefydd. Bydd yn agor ein cyfres o ddatganiadau haf gyda cherddoriaeth a ysgrifennwyd ar gyfer y ffidil a phiano gan gyfansoddwyr Iddewig.
4 Mai | Jess Lawrence | Ffidil
Mae Jess yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Wrth iddi baratoi ar gyfer ei Datganiad Diwedd Gradd bydd yn rhoi cipolwg o’r gerddoriaeth wedi’i ysbyrdoli gan straeon ffantasi y mae hi wedi bod yn gweithio arni.
11 Mai | Jill Crossland | Piano
Mae Jill wedi perfformio ledled y byd ac efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei recordiadau cyflawn o Das Wohltemperierte Klavier gan Bach. Mae hi wedi recordio ar gyfer Warner Classics a Signum Classics.
Buchedd Bangor
Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
This Sunday and the week ahead...


Diocesan & County Service of Prayer and Thanksgiving before the Coronation of Their Majesties The King and Queen
Our service to pray for and mark the Coronation takes place on Sunday 30 April at 6.00pm. The Choir will sing music composed for and performed at previous Coronations, including Handel’s Zadok the Priest and Parry’s I was Glad. All are welcome. Entrance is free; seats can be reserved here; and drinks reception will follow. The service will replace our usual Sunday afternoon Choral Evensong.

Coffee-Break Recitals
Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am
27 April | Esther Evans | Violin
Esther is in her final year at Bangor University and studies music jointly with philosophy, ethics and religion. She will open our summer recital series with music written for violin and piano by Jewish composers.
4 May | Jess Lawrence | Violin
Jess is in her third year at Bangor University. As she prepares for her End of Degree Recital she will give us a sneak preview of the music inspired by fantasy stories that she has been working on.
11 May | Jill Crossland | Piano
Jill has performed all over the world and is perhaps best known for her complete recordings of Bach’s Well-Tempered Clavier. She has recorded for Warner Classics and Signum Classics.
Buchedd Bangor
This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.