minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Cefnogi’r rhai mewn angen dros yr Ŵyl

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

Hoffwn fynegi fy niolch i’r rhai o gynulleidfaoedd y Gadeirlan sydd eisoes wedi bod mor hael yr Adfent hwn yn eu cefnogaeth i’r rhai mewn angen, o fewn ein cymuned ac ymhellach i ffwrdd. 

Cododd ein hapêl, yn sgil y trais erchyll yn Israel a Gaza, i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol £655, ac mae tîm Cymorth Cristnogol Cymru wedi mynegi eu diolch am hyn. 

Yn sgil ein hapêl am roddion o hanfodion gaeaf i Fanc Bwyd y Gadeirlan, gyda phwyslais arbennig ar gefnogi’r rhai sydd fwyaf anghenus ar yr adeg hon, gwelwyd tîm ffyddlon y Gadeirlan dan arweiniad Canon Jane Coutts yn pacio 85 o anrhegion i oedolion a 15 i blant. 

Mae ein gwaith i ymestyn cefnogaeth i’r rhai mewn angen yn parhau dros y Dolig. 

Mae’r gwasanaeth carolau yn Eglwys y Groes nos Llun yma er budd Shelter Cymru, ein Helusen Nadolig 2023, a bydd casgliadau ein gwasanaethau arbennig hefyd yn mynd i gefnogi gwaith hanfodol Shelter Cymru. Cofiwch ddarllen yr erthygl yn eu rhifyn cyfredol o Buchedd Bangor yn amlygu cenhadaeth bwysig Shelter Cymru. 

Unwaith eto, rwy’n ddiolchgar am yr haelioni a ddangoswyd eisoes ac am garedigrwydd cymuned ein Cadeirlan.


Y Dolig hwn yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Nos Fercher 20 Rhagfyr 2023
Nos Sadwrn 23 Rhagfyr 2023
am 6.00pm

Naw Llith a Charol y Nadolig

Ar drothwy’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio i Fethlehem, gyda darlleniadau traddodiadol a charolau yng ngolau cannwyll yn adrodd hanes genedigaeth Crist.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para ychydig llai nag awr.

Yn sgil poblogrwydd y ddefod y llynedd, rydym yn cynnig ein Naw Llith a Charol y Nadolig ddwywaith eleni, ar 20 a 23 Rhagfyr.


24 Rhagfyr 2023 am 11.00pm

Cymun Canol Nos y Nadolig

Ymunwch â ni ar gyfer ein dathliad cyntaf o’r Nadolig yng ngolau cannwyll yn hwyr ar Noswyl Nadolig, a chôr y Gadeirlan yn arwain y carolau a’r canu.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.


25 Rhagfyr 2023 am 11.00am

Cymun Bendigaid Bore Nadolig

Ymunwch â ni ar gyfer ein Cymun llawen ar fore Nadolig, dan arweinyddiaeth Archesgob Cymru, ac wedi ei ddilyn gan dderbyniad gwin i ddathlu.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.


Mae mynediad i’r holl ddefodau hyn yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb. I fod yn siwr o’ch sedd, archebwch eich sedd am ddim arlein, neu rhowch eich enw i’r Stiwardiaid ar 3/10/17 Rhagfyr.


Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Supporting those in need this Advent and Christmastide

The Sub-Dean writes:

I want to express my thanks to those from the Cathedral’s congregations who have already been so generous this Advent in their support for those in need, within our own community and further afield. 

Our appeal, in the wake of the horrific violence in Israel and Gaza, to support the work of Christian Aid in the Middle East raised £655, for which the Welsh Christian Aid team have expressed their thanks. 

Donated gifts of winter essentials to the Cathedral Foodbank, with a particular emphasis on supporting those who might find themselves least supported and most in need at this time, saw out faithful Cathedral team led by Canon Jane Coutts packing 85 gifts for adults and 15 for children. 

Our work to extend support continues over Christmas. 

The carol service at Eglwys y Groes this Monday is in aid of Shelter Cymru, our 2023 Christmas Charity, and collections at our special services will also go to support Shelter Cymru’s vital work. Do please read the article in their current issue of Buchedd Bangor highlighting Shelter Cymru’s mission. 

Again, I’m grateful for the generosity already shown and for the kindness of our Cathedral community.


This Christmas at Saint Deiniol's Cathedral


Wednesday 20 December 2023
Saturday 23 December 2023
at 6.00pm 

Christmas Nine Lessons & Carols

On the threshold of Christmas, join us as we journey to Bethlehem, with traditional readings and carols by candlelight telling the story of Christ’s birth.

This bilingual service will last a little under an hour.

In light of the popularity of last year’s observance, we are offering our Christmas Nine Lessons & Carols twice this year, on 20 and 23 December.


24 December 2023 at 11.00pm

Midnight Mass

Join us for our first celebration of Christmas, by candlelight, late on Christmas Eve, with the Cathedral Choir leading the carols and music.

This bilingual service will last about an hour.


25 December 2023 at 11.00am

The Holy Eucharist of Christmas Morning

Join us for our joyful Communion on Christmas morning, led by the Archbishop of Wales, and followed by a celebratory drinks reception.

This bilingual service will last about an hour.


Entrance is free at all of these observances, and all are welcome. To be sure of a seat, reserve your seat for free online, or give your name to one of the Stewards on 3/10/17 December.


Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.