minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Malcolm Guite, ein pregethwr ar y Llun, y Mawrth a'r Mercher Glân | Malcolm Guite, our preacher on Monday, Tuesday and Wednesday of Holy Week
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Tom Castle, a fydd yn ymuno â ni i ganu rhan yr Efengydd yn ein perfformiad Sul y Blodau o Johannes-Passion Bach

Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Ysgrifenna'r Is-Ddeon:

Curad newydd

Mae’n bleser gen i rannu’r newyddion bod yr Archesgob a’r Esgob wedi penodi Curad newydd i ymuno â’n tîm gweinidogaeth yn y Gadeirlan a Bro Deiniol. Mae Josie Godfrey ar hyn o bryd yn cwblhau ei hastudiaethau yn Saint Stephen’s House yn Rhydychen, a bydd yn cael ei hordeinio yma ar 1 Gorffennaf am 11.00am, cyn dechrau ar ei churadiaeth tair blynedd. Mae’n bleser a hefyd yn gyfrifoldeb cael Curad yn rhan o’n bywyd yma ym Mangor. Gwn y byddwn am groesawu Josie’n gynnes, ac y bidden yn elwa ar ei brwdfrydedd a’i grasusrwydd wrth iddi hithau yn ei thro achub ar y cyfle i dyfu ac aeddfedu yn ei gweinidogaeth ordeiniedig yn ein plith.

Wrth ysgrifennu amdani ei hun, dywed Josie:

Rwy’n gyffrous iawn i fod yn ymuno ag Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol fel Curad.

Cefais fy magu ger High Wycombe, ac yna symudais i Lundain i astudio Cerddoriaeth yn King’s College London. Wrth archwilio galwad i ordeiniad, bûm yn gweithio fel cynorthwyydd bugeiliol yn Christ Church, Isle of Dogs yn Nwyrain Llundain, ac yna symudais i Rydychen i ddechrau hyfforddi yn Saint Stephen’s House. Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau canu clychau, cerdded, a cherddoriaeth - yn enwedig theatr gerdd.

Dw i’n nerfus ac yn gyffrous am ddysgu Cymraeg; mae fy nheulu yn wreiddiol o Abertawe ond, er fy mod wedi treulio llawer o wyliau yno, nid wyf erioed wedi byw yng Nghymru fy hun, felly rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i “wlad fy nhadau”!

Rwy’n ddiolchgar i Canon Tracy Jones am gytuno i arwain yr arolygiaeth o’n Curad newydd, ac i Canon David Morris, ein Cyfarwyddwr Gweinidogaeth esgobaethol, am ei holl waith y tu ôl i’r llen i baratoi’r ffordd.


Yr Wythnos Fawr

Safwn ar drothwy yr Wythnos Fawr. Mae ein defodau yn ddifrifol ac o sylwedd, ac yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ni ymdrochi yn nrama Dioddefaint ac Atgyfodiad Crist, wedi’u gwneud a’u cyflawni er ein hiachawdwriaeth. Gadewch imi eich annog i rannu newyddion am ein defodau gyda’ch ffrindiau a’ch cymdogion, ac i fod yn ffyddlon yn eich presenoldeb yn ystod yr Wythnos Fawr.

Hoffwn dynnu’ch sylw i rhai uchafbwyntiau.

Johannes-Passion

Ar Sul y Blodau, mae ein cerddorion yn perfformio Johannes-Passion J. S. Bach (Dioddefaint Sant Ioan), i gyfeiliant grymoedd offerynnol Ensemble 525, ac wedi’u hategu gan leisiau Corws Prifysgol Bangor.

Malcolm Guite

Ein pregethwr yn y Cymun Bendigaid ar Gân a Bendithiad y Sagrafen Fendigaid ar y Llun, y Mawrth a’r Mercher Glân am 6.00pm yw’r Parchg Ddr Malcolm Guite. Mae Malcolm Guite wedi disgrifio’i hun fel “bardd, offeiriad, roc a rholer, ym mha bynnag drefn y mynnwch.” Bu’n ddiweddar yn Gaplan Coleg Girton, Caergrawnt, a dilynodd Ronald Blythe fel un o golofnwyr wythnosol y Church Times. Am ei gerddi, a glywn yn ystod yr Wythnos Fawr, ebe Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru, fod iddynt “gynildeb a grym pob soned dda, gan dro ar ôl tro gynnig i’r darllenydd roddion dwfn er mwyn gweddïo a myfyrio.” Mae ei lyfr diweddaraf, Lifting the Veil: Imagination and the Kingdom of God, yn amddiffyniad egnïol o’r dychymyg creadigol fel “cynneddf sy’n dwyn y gwirionedd.”

Saith Air y Groes

I ganol tawelwch Dydd Gwener y Groglith, byddwn yn offrymu’r perfformiad cyntaf yn y byd o Saith Air y Groes gan y cyfansoddwr, Alex Mills – gosodiad corawl o eiriau olaf Crist o’r Groes, wedi’i wreiddio yn iaith a diwylliant Gogledd Orllewin Cymru, ac wedi’i gomisynu ar gyfer yr Wythnos Fawr gan y Gadeirlan. Bydd y gair mawr, tyngedfennol hwnnw, “Gorffenwyd,” yn atseinio.


Clochau

Yn ystod y wythnos y Dioddefaint a’r Wythnos Fawr, mae’r croesau a’r cerfluniau defosiynol yn y Gadeirlan wedi’u gorchuddio â chochlau phorffor. Mae’r croesau dal gochl fel bod dadorchuddio’r Groes yn ystod litwrgi Gwener y Groglith am 2.00pm yn foment o’i hadnabod â grym newydd ac ofnadwy. Mae’r cerfluniau dan gochl fel rhan o gwtogi ein defosiynoldeb coeth arferol i ganolbwyntio ar y Dioddefaint a thaith Crist i’r Groes. Rwy’n ddiolchgar i Canon Tracy Jones am wnïo cochlau newydd ar ein cyfer eleni.


Dodrefn newydd yng Nghorff yr Eglwys

Heddiw yw’r dydd Sul olaf y disgwyliwn fod yn defnyddio ein celfi presennol. Os aiff popeth yn iawn gyda gwagio a derbyn yn ystod yr wythnos i ddod, bydd ein dodrefn newydd yn eu lle erbyn Sul y Blodau. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, mynnwch gopi o’r llyfryn sy’n cyflwyno’r dodrefn newydd. Rwy’n ymwybodol y bydd y celfi newydd, er eu bod wedi’u dylunio i ategu’r bensaernïaeth ac i gyfoethogi ein haddoliad, yn newid sylweddol i’r Gadeirlan, a bydd yn cymryd ychydig o amser inni adnabod ein gilydd, fel petai. Bydd cerdded i mewn i’n haddoliad y Sul nesaf yn brofiad sydd wedi newid ychydig - ni fydd ein mannau cyfarwydd yno yn yr un ffordd ac o’r blaen. Dyma wahoddiad gennyf felly inni fod yn addfwyn a gofalus gyda’n gilydd a gyda’n hunain wrth i ni ganfod profiadau newydd yn y Gadeirlan dros yr wythnosau nesaf.


Seddi

Mae’n bleser arbennig gweld y Choral Holy Eucharist am 11am yn dod yn wasanaeth mor brysur. Sylwaf nad ydym i gyd yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer dechrau’r gwasanaeth, a gwn y bydd bore Sul yn amser prysur i lawer ohonom, ac mai dim ond mewn pryd y bydd rhai ymwelwyr yn dod o hyd inni. Tybed a fyddai aelodau selog y gynulleidfa yn ystyried dyfodiad y meinciau newydd yn gyfle i ddewis “sedd” arferol sy’n nes at flaen y Gadeirlan? Gwn y gwna hyn hi yn haws i’r Stiwardiaid dywys y rhai sydd yn cyraedd ychydig yn hwyr i sedd yn y cefn; Gwn hefyd y bydd yn rhoi ychydig mwy o galondid i’n pregethwyr os bydd llai o seddau gwag yn yr ychydig resi blaen!


Cymuno

Sylwaf yn achlysurol ar ryw betrusder ymysg rhai pan y deuwn i Gymuno. I rai ohonom, byddwn wedi bod yn Cymuno yn y Gadeirlan ers blynyddoedd lawer; i eraill ohonom, bydd yn brofiad newydd, a gwn y gall fod ychydig yn frawychus. Roeddwn felly am rannu rhywfaint o gyngor ymarferol ar sut yr ydym yn Cymuno. Yr arferiad wrth dderbyn yr Afrlladen Sagrafennol (y bara) yw estyn o’n blaen gledrau agored ein dwylaw (ar ôl gwned arwydd y Groes drosom ein hunain yn union cyn cyraedd yr offeiriad yn gweinidogaethu y Cymun os dymunwn). Bydd yr offeiriad sy’n gweinidogaethu’r Cymun yn dweud “Corff Crist,” yr ydym yn ymateb ag “Amen,” cyn gosod yr Afrlladen Sagrafennol yn ein ceg cyn symud oddi wrth yr offeiriad. Yn yr un modd, wrth dderbyn y Gwerthfawr Waed (y gwin), dywedir “Gwaed Crist,” a ninnau’n ymateb “Amen.” Efallai y byddwn yn estyn llaw i helpu’r gweinidog sy’n dal y garegl (cwpan) i dywys y garegl tuag atom, neu ddal ei waelod i’w wyro ychydig, neu adael i’r gweinidog yn unig ymgymryd â’r holl symudiad (wedi gwneud arwydd y Groes drosom ein hunain eto yn union cyn cyrraedd y gweinidog os dymunwn wneud hynny). Ein harfer yw peidio caniatau “gwlychu” (trochi’r Afrlladen Sagrafennol yn y garegl), fel sy’n digwydd mewn rhai mannau, fel y cynghora Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn erbyn gwneud hynny.


Sebastian Wyss

Cinio Dewch i Rannu

Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist heddiw. Mae’n Cinio Dewch i Rannu yn gyfle am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd. Gwahoddir pawb.

Gwneir casgliad yn ystod y Cinio Dewch a Rhannu ar gyfer Apêl Daeargryn Twrci-Syria y DEC, a’i waith bryd i gynnig lloches ac i gyfrannu at yr adfer yn y gwledydd hynny ar ôl y dinistr diweddar.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

30 Mawrth | Sebastian Wyss | Ffidil

Mae’r ffidler o Firmingham yn galw heibio’r Gadeirlan i’n diddanu ag gelfgarwch a’i fedr.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i'r Gesimáu a'r Grawys. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Jack Redman, who joins us to sing the role of Christus in our Palm Sunday performance of Bach's Johannes-Passion

Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


The Sub-Dean writes:

A new Curate

I’m delighted to share the news that the Archbishop and Bishop have appointed a new Curate to join our ministry team at the Cathedral and Bro Deiniol. Josie Godfrey is currently completing her studies at Saint Stephen’s House in Oxford, and will be ordained here on 1 July at 11.00am, before beginning her three-year curacy. It is a delight and also a responsibility to have a Curate as part of our life here in Bangor. I know that we will want to welcome Josie warmly, and to benefit from her enthusiasm and grace as she is also allowed time and space to learn and grow into our ordained ministry in our midst.

Writing of herself, Josie says:

I’m very excited to be joining the Bro Deiniol Ministry Area as Assistant Curate.

I grew up near High Wycombe, and then moved to London to study Music at King’s College London. Whilst exploring a call to ordination, I worked as a pastoral assistant at Christ Church, Isle of Dogs in East London, and then moved to Oxford to begin training at St Stephen’s House. In my spare time I enjoy bell ringing, walking, and music - particularly musical theatre.

I’m both nervous and excited about learning Welsh; my family are originally from Swansea but, although I have spent many holidays there, I have never lived in Wales myself, so I am looking forward to returning to “the land of my fathers”!

I’m grateful to Canon Tracy Jones for agreeing to have primary oversight for our new Curate, and to Canon David Morris, as our Diocesan Director of Ministry, for all his work behind the scenes to prepare the way.


Holy Week

We stand on the threshold of Holy Week. Our observances are serious and substantial, and offer us a wealth of opportunities to enter into the drama of Christ’s Passion and Resurrection, wrought and achieved for our salvation. Let me urge you to share news of our observances with your friends and neighbours, and to be faithful in your attendance during Holy Week.

Let me draw your attention to some particular highlights.

Johannes-Passion

On Palm Sunday, our musicians will perform J. S. Bach’s Johannes-Passion (Saint John Passion), accompanied by the instrumental forces of Ensemble 525, and augmented by the voices of the Bangor University Chorus.

Malcolm Guite

Our preacher at the Choral Holy Eucharist and Benediction of the Blessed Sacrament on Holy Monday, Holy Tuesday and Holy Wednesday at 6.00pm is the Revd Dr Malcolm Guite. Malcolm Guite has described himself as “poet, priest, rock & roller, in any order you like.” He was latterly Chaplain of Girton College, Cambridge, and succeeded Ronald Blythe as the writer of a weekly column in the Church Times. Of his sonnets, which will form part of our liturgies during Holy Week, Rowan Williams, sometime Archbishop of Wales, wrote that they “have the economy and pungency of all good sonnets, and again and again, offer deep resources for prayer and meditation to the reader.” His most recent book, Lifting the Veil: Imagination and the Kingdom of God, is a vigorous defence of the artistic imagination as a “truth-bearing faculty.”

Saith Air y Groes

Into the silence of Good Friday, we offer the world premiere of Alex Mills’s Saith Air y Groes – a choral setting of the Seven Last Words from the Cross, grounded in the language and culture of North-West Wales, and commissioned by the Cathedral for this Holy Week. “Gorffennwyd – it is finished,” will resound.


Veils

During Passiontide and Holy Week, the crosses and devotional statues at the Cathedral are veiled in purple. The crosses are veiled so that the unveiling of the Cross during the Good Friday liturgy at 2.00pm is a moment of new and awful encounter for us. The statues are veiled as part of the pairing down of our usual rich devotion to a focus on the Passion and Christ’s journey to the Cross. I’m grateful to Canon Tracy Jones for making new veils for us this year.


New Nave furniture

Today is the last Sunday at which we expect to be using our current Nave furniture. If all goes well with removals and deliveries in the course of the week ahead, our new furniture will be in place by Palm Sunday. If you haven’t already done so, do pick up a copy of the booklet that introduces the new furniture. I’m conscious that the new furniture, though designed to complement the architecture and to enhance our worship, will constitute a significant change to the Cathedral, and it will take us a little while to grow into it. Walking into worship next Sunday will be a slightly altered experience - our familiar places will not be there in quite the same way. This is therefore an invitation from me to be gentle with one another and with ourselves as we encounter new experiences in the Cathedral over the weeks ahead.


Seating

It’s a particular delight to see the 11.00am Choral Holy Eucharist becoming such a busy service. I notice that we do not all arrive in time for the start of the service, and I know that Sunday morning will be a busy time for many of us, and that some visitors will only find us just in time. I wonder whether regular congregants may consider the arrival of the new pew-benches an opportunity to make their regular “pew” one that is closer to the front of the Cathedral? I know that this will make it easier of the Stweards to show those arriving a little late to a seat near the back; I know also it will give our preachers a bit more reassurance if there are fewer emptier pews in the front few rows!


Making our Communion

I occasionally notice some hesitancy at the moment when we come to make our Communion. For some of us, we will have been making our Communion at the Cathedral for many years; for others of us, it will be a new experience, and I know that it can be a little daunting. I therefore wanted to share some practical advice as to how we make our Communion. The normal practice to receive the Sacramental Host (the bread) is to extend out in front of us the open palms of our hands (having made the sign of the Cross over ourselves immediately before reaching the priest ministering Communion if we wish to do so). The priest ministering Communion will say “The Body of Christ,” to which we respond “Amen,” before placing the Sacramental Host in our mouths before moving away from the priest. Similarly, when receiving the Precious Blood (the wine), will say “The Blood of Christ,” to which we respond “Amen.” We may reach out to help the minister holding the chalice (cup) guide the chalice towards us, or hold its base to tip it slightly, or let the minister alone undertake all of the movement (having again made the sign of the Cross over ourselves immediately before reaching the minster if we wish to do so). It is not our custom to permit intinction (the dipping of the Sacramental Host into the chalice), as happens in some places, as the Bishops of the Church in Wales advise against doing so.


Sebastian Wyss

Bring & Share Lunch

Our next Bring & Share Lunch follows the Choral Holy Eucharist today. Our Bring & Share Lunches are an opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness. All are invited.

A collection will be taken during the Bring & Share Lunch for the DEC’s Turkey-Syria Earthquake Appeal, and its work to assist with the emergency shelterand resoration work in those countries after the recent devestation.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

30 March | Sebastian Wyss | Violin

Birmingham-based violinist Sebastian drops in to the Cathedral to dazzle us with his virtuosity and skill.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Gesimatide and Lent. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.