minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Rhoddion Diolchgarwch Ysgol Cae Top i Fanc Bwyd y Gadeirlan | Ysgol Cae Top's Thanksgiving Donations to the Cathedral Foodbank
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dygwyl y Meirw

Mae Coffadwriaeth yr Holl Eneidiau ar Ddygwyl y Meirw, 2 Tachwedd, yn gyfle blynyddol i ddal gerbron Duw mewn gweddi y ffyddloniaid ymadawedig. Byddwn yn coffáu’r Holl Eneidiau gyda Chymun ar Gân dros y Meirw am 6pm ddydd Mercher 2 Tachwedd. Bydd Côr y Gadeirlan, i gyfeiliant cerddorfa, yn canu gosodiad John Rutter o’r Requiem. Mewn gweddi, addoliad a cherddoriaeth ar y noson hon, bydd ein galar yn cwrdd â’r gobaith a gawn yn harddwch, gwirionedd a chariad Crist. Bydd y Cymun yn cael ei gynnig dros yr holl ffyddloniaid ymadawedig; ond bydd unigolion yn cael eu cofio yn ôl eu henw yn ystod yr ymbiliau. Ychwanegwch enwau at y rhestr yng nghefn Corff yr Eglwys.


Cabidwl y Gadeirlan

Mae Cabidwl y Gadeirlan (yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu bywyd y Gadeirlan) yn cyfarfod yr wythnos hon ar gyfer eu cyfarfod cwrdd i ffwrdd yn y gaeaf blynyddol. Cofiwch gadw aelodau’r Cabidwl yn eich gweddïau.


Darlith

Edrychwn ymlaen yn awr at y bedwaredd ddarlith a’r olaf yn ein cyfres eleni o ddarlithoedd coffa. Ddydd Iau 27 Hydref, bydd y Canon Janet Gough yn traddodi Darlith Goffa y Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys. Mae Canon Janet Gough yn arbenigwr blaenllaw mewn pensaernïaeth eglwysig ac yn hyrwyddwr eglwysi hanesyddol. Bu’n Gyfarwyddwr Cadeirlannau ac Adeiladau Eglwysig cenedlaethol Eglwys Loegr, a dyfarnwyd OBE iddi am wasanaeth i dreftadaeth yn 2017. Ei phwnc yw “Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid?”. Mae’r ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ar ôl Gosber ar Gân am 5.30pm, ac fe’i dilynir gan dderbyniad gwin.


Dathliadau Diolchgarwch am y Cynhaeaf yr ysgolion

Hyfryd, yr adeg hon o’r flwyddyn, yw croesawu ysgolion lleol i’r Gadeirlan ar gyfer eu dathliadau Diolchgarwch. Daeth Ysgol Cae Top i ymweld â ni yr wythnos ddiwethaf, gan ddod â rhoddion hael i Fanc Bwyd y Gadeirlan, ac edrychwn ymlaen at gael cwmni disgyblion Ysgol Hirael yr wythnos nesaf.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

27 Hydref | Calum Lee Macdonald | Corn Bariton

Mae Calum Lee Macdonald yn archwilio repertwâr a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y corn bariton yn ogystal â chyferbynnu’r darnau hyn â threfniannau a thrawsgrifiadau diddorol.


Buchedd Bangor

Pedwerydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r fisoedd yr haf. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


All Souls Day

The Commemoration of All Souls, on 2 November, is an annual opportunity to hold before God in prayer the faithful departed. We will be commemorating All Souls with a Choral Requiem Eucharist at 6pm on Wednesday 2 November. Our Cathedral Choir will be accompanied by an orchestra as they sing John Rutter’s setting of the Requiem. In prayer, worship and music on this night, our grief will meet the hope we find in the beauty, truth and love of God in Christ. The Eucharist will be offered for all the faithful departed; but individuals will be remembered by name during the intercessions. Please add names to the list at the back of the Nave.


Cathedral Chapter

The Cathedral Chapter (the trustees responsible for governing the life of the Cathedral) meet this week for their annual winter away-day meeting. Please keep the Chapter members in your prayers.


Lecture

We look forward to the fourth and final lecture in this year’s series of Memorial Lectures. On Thursday 27 October, Canon Janet Gough delivers the inaugural Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology & Church History. Canon Janet Gough is a leading expert in in church architecture and a champion of historic churches. She served as the national Director of Cathedrals & Church Buildings for the Church of England, and was awarded an OBE for services to heritage in 2017. Her subject is “What have the Victorians ever done for us?” The lecture begins at 6.30pm, after Evensong at 5.30pm, and is followed by a drinks reception.


School Harvest Thanksgiving celebrations

It is wonderful, at this time of year, to welcome local schools to the Cathedral for their Harvest Thanksgiving celebrations. Ysgol Cae Top visited us this past week, bringing generous donations to the Cathedral Foodbank, and we look forward to being joined by pupils from Ysgol Hirael this coming week.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

27 October | Calum Lee Macdonald | Baritone Horn

Calum Lee Macdonald explores repertoire especially written for the Baritone Horn as well as some contrasting arrangements and transcription.


Buchedd Bangor

The fourth edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This fourth edition is a companion to the summer months. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.