minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
At the RAF's Battle of Britain memorial service on 16 September 2023 | Yng ngwasanaeth coffa Brwydr Prydain y Llu Awyr ar 16 Medi 2023
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Draper Ganon Lleyg Gareth Iwan Jones

Canonised newydd ar 1 Hydref 2023

Yn y Gosber ar Gân am 3.30pm ar 1 Hydref, bydd Archddiaconiaid, Canoniaid a chlerigion newydd yn cael eu gosod yn eu seddau ym mhresenoldeb Archesgob Cymru. Rhannwn ein llongyfarchiadau twyngalon â Gareth a Lesley, aelodau o gynulleidfa ein Cadeirlan, ar eu penodiad yn Ganoniaid Gwaddol. Edrychwn ymlaen hefyd at weithio gyda’n Canoniaid Mygedol newydd dros y blynyddoedd i ddod, ac yn enwedig wrth i ni baratoi i ddathlu mileniwm a hanner ein sefydlu yn 2025. Ceir manylion llawn am y Canoniaid newydd ar wefan yr esgobaeth.

Yn ogystal yn y Gosber, bydd ein Caplan Prifysgol a Chymunedol newydd, y Tad Neville Naidoo, yn cael ei osod.

Mae croeso mawr i bawb yn y gwasanaeth, a fydd yn cael ei ddilyn gan dderbyniad gwin – rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur ac ymunwch â ni ar gyfer y dathliad hapus hwn o fywyd ein Cadeirlan a’n hesgobaeth.


Gardd agored

Mae Jennifer Rickards, aelod o’n cynulleidfa, yn cynnal gardd agored ddydd Sul 24 Medi, o 11.00am tan 4.00pm. Mae mynediad yn £5 i oedolion, ac am ddim i blant.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

Rydym yn croesawu dychweliad yr wythnos hon ein Datganiadau Paned am dymor newydd. Ymunwch â ni i fwynhau’r perfformiadau cerddorol eithriadol hyn, o safon uchel ac yn rhad ac am ddim bob bore Iau.

21 Medi | Joe Cooper a Simon Ogdon | Deuawd Piano

28 Medi | Benjamin Teague | Organ


Dr Sara Elin Roberts, un o'r siaradwyr yn Tarannon

Tarannon
Gŵyl Cred a’r Celfyddydau
12-15.10.2023

Rydym yn falch iawn bod Tarannon, Gŵyl Cred a’r Celfyddydau newydd y Gadeirlan, yn cael ei lansio ym mis Hydref eleni. Rhwng 12 Hydref a 15 Hydref, byddwn yn cynnal pedwar diwrnod prysur, gyforiog o gerddoriaeth, barddoniaeth, celf, hanes, addoliad, trafodaeth a sgwrs yng nghanol y ddinas. Ceir manylion llawn, a thocynnau i’w prynu, fan hyn.


Dyddiadur Hydref 2023

Yr hydref hwn rydym wedi cyhoeddi dyddiadur papur o'n holl ddefodau a gweithgareddau. Gallwch lawrlwytho copi fan hyn.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Lay Canon Designate Lesley Hall

New Canons on 1 October 2023

At Choral Evensong at 3.30pm on 1 October, new Archdeacons, Canons and clergy will be installed in the presence of the Archbishop of Wales. We offer our congratulations to Gareth and Lesley, members of our Cathedral congregation, on their appointment as Foundation Canons. We also look forward to working with our new Honorary Canons over coming years, and especially as we prepare to celebrate our millennium and a half anniversary in 2025. Much more information about the new Canons can be found on our diocesan website.

Additionally at the service, our new University & Community Chaplain, Fr Neville Naidoo, will be installed.

All are very welcome at the service, which will be followed by a drinks reception – please put the date in your diary and join us for this happy celebration of our Cathedral and diocesan life.


Open garden

Jennifer Rickards, a member of our congregation, is holding an open garden on Sunday 24 September at Llys-y-Gwynt, Pentir Road, between 11am and 4pm. Admission is £5 for adults and free for children.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

We welcome the return this week of our regular Coffee-Break Recitals for a new season. Do join us to enjoy these exceptional, high-quality and free musical performances.

21 September | Joe Cooper a Simon Ogdon | Piano Duet

28 September | Benjamin Teague | Organ


Rhun ap Iorwerth, a speaker at Tarannon

Tarannon
A Festival of Religion and the Arts
12-15.10.2023

We’re delighted that this October sees the launch of Tarannon, the Cathedral’s new Festival of Religion and the Arts. From 12 October to 15 October, we will be hosting a bustling four days, teeming with music, poetry, visual art, history, worship, discussion and conversation in the heart of Bangor. Read the full details here.


Our Autumn 2023 Diary

This autumn we have published a paper diary of all our observances and activities. You can download a copy here.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.