O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...
Y Dolig hwn yng Nghadeirlan Deiniol Sant
Nos Fercher 20 Rhagfyr 2023
Nos Sadwrn 23 Rhagfyr 2023
am 6.00pm
Naw Llith a Charol y Nadolig
Ar drothwy’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio i Fethlehem, gyda darlleniadau traddodiadol a charolau yng ngolau cannwyll yn adrodd hanes genedigaeth Crist.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para ychydig llai nag awr.
Yn sgil poblogrwydd y ddefod y llynedd, rydym yn cynnig ein Naw Llith a Charol y Nadolig ddwywaith eleni, ar 20 a 23 Rhagfyr.
24 Rhagfyr 2023 am 11.00pm
Cymun Canol Nos y Nadolig
Ymunwch â ni ar gyfer ein dathliad cyntaf o’r Nadolig yng ngolau cannwyll yn hwyr ar Noswyl Nadolig, a chôr y Gadeirlan yn arwain y carolau a’r canu.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.
25 Rhagfyr 2023 am 11.00am
Cymun Bendigaid Bore Nadolig
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cymun llawen ar fore Nadolig, dan arweinyddiaeth Archesgob Cymru, ac wedi ei ddilyn gan dderbyniad gwin i ddathlu.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.
Mae mynediad i’r holl ddefodau hyn yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb. I fod yn siwr o’ch sedd, archebwch eich sedd am ddim arlein, neu rhowch eich enw i’r Stiwardiaid ar 3/10/17 Rhagfyr.
Lletygarwch y Gadeirlan a’r Gosber ar Gân yn ystod yr Adfent
Hyfryd yn ystod tymor yr Adfent yw croesawu cynifer o elusennau a sefydliadau i’r Gadeirlan yn ystod yr wythnos ac ar nosweithiau Sadwrn ar gyfer gwasanaethau carolau a chyngherddau Nadolig. Mae ein dyled yn fawr i gydweithwyr o dîm y Gadeirlan sy’n gweithio’n galed yr wythnosau hyn i symud dodrefn, i fod ar ddyletswydd yn hwyr yn y nos, ac i gynnig croeso cynnes i’n hymwelwyr.
Mae digwyddiadau o’r fath yn anochel yn cael effaith ar amserlen Gosber ar Gân yn ystod yr wythnos. Edrychwch ar y rhestrau am newidiadau wythnosol.
Cinio Dewch a Rhannu
Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, ar Drydydd Sul yr Adfent, 17 Rhagfyr..
Buchedd Bangor
Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
This Sunday and the week ahead...
This Christmas at Saint Deiniol's Cathedral
Wednesday 20 December 2023
Saturday 23 December 2023
at 6.00pm
Christmas Nine Lessons & Carols
On the threshold of Christmas, join us as we journey to Bethlehem, with traditional readings and carols by candlelight telling the story of Christ’s birth.
This bilingual service will last a little under an hour.
In light of the popularity of last year’s observance, we are offering our Christmas Nine Lessons & Carols twice this year, on 20 and 23 December.
24 December 2023 at 11.00pm
Midnight Mass
Join us for our first celebration of Christmas, by candlelight, late on Christmas Eve, with the Cathedral Choir leading the carols and music.
This bilingual service will last about an hour.
25 December 2023 at 11.00am
The Holy Eucharist of Christmas Morning
Join us for our joyful Communion on Christmas morning, led by the Archbishop of Wales, and followed by a celebratory drinks reception.
This bilingual service will last about an hour.
Entrance is free at all of these observances, and all are welcome. To be sure of a seat, reserve your seat for free online, or give your name to one of the Stewards on 3/10/17 December.
Cathedral hospitality and Choral Evensong during Advent
It is wonderful during the season of Advent to welcome so many charities and organizations to the Cathedral on weekday and Saturday evenings for carol services and Christmas concerts. We owe a debt of gratitude to colleagues from the Cathedral team who work hard these weeks to move furniture, to be on duty late into the night, and to offer a warm welcome to our visitors.
Such events inevitable have an impact on our weekday schedule of Choral Evensong. Please consult the listings for weekly changes.
Bring and Share Lunch
Our next Bring & Share Lunch will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharist on the Third Sunday of Advent, 17 December.
Buchedd Bangor
Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.