minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Darlun Caravaggio (1571-1610) o Droedigaeth Paul, a ddethlir nos Fawrth a dydd Mercher | Caravaggio's (1571-1610) depiction of the Conversation of Paul, celebrated on Tuesday evening and Wednesday
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Y Gwir Barchg Mary Stallard

Braf a thrist, law yn llaw, oedd derbyn y newydd am ethol Esgob Cynorthwyol Bangor yn Esgob Llandaf. Mae’r Esgob wedi bod yn gyfaill diffuant i’r Gadeirlan yn ystod ei chyfnod fel Archddiacon Bangor ac Esgob Cynorthwyol, a byddwn yn gweld eisiau ei phresenoldeb gyda ni. Cyhoeddir y trefniadau i ffarwelio â’r Esgob maes of law. Yn y cyfamser, sicrhawn hi o’n gweddïau wrth iddi baratoi i ymgymryd â’i chyfrifoldebau newydd a thrwm.


Marion Partington, R.I.P.

Cynhelir angladd Marion Partington, yn â fu’n addoli ac yn stiwardio yn y Gadeirlan am flynyddoedd lawer, yn yr Amlosgfa am 1.30pm ar ddydd Gwener 3 Chwefror. Mae’r teulu yn estyn croeso i aelodau o deulu’r Gadeirlan a phawb oedd yn adnabod Marion i ymuno â nhw yn y gwasanaeth.


Ceremony of Carols ac Oedfa Blygain yr Esgobaeth

Mae’n diolch yn fawr i bawb o deulu’r Gadeirlan fu’n rhan o’r trefniadau ar gyfer ein perfformiad o’r Ceremony of Carols y Sul diwethaf a Phlygain yr Esgobaeth nos Wener. Da oedd craoesawu cyfeillion hen a newydd dros y trothwy i’n dathliadau o dymor y Nadolig.


Gwasanaethau’r Wythnos Weddi dros Undeb Cristnogol

Yn ystod yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol eleni, fe’n gwahoddir i fynychu’r gwasanaethau gweddi unedig a drefnir gan Cytûn: Eglwysi Ynghyd ym Mangor:

  • Nos Lun 23 Ionawr am 7pm yn St John’s Methodist Church
  • Pnawn Mercher 25 Ionawr am 2pm yn Eglwys Emaus

Trwyddedau parcio

Mae trwyddedau parcio newydd, sydd eu hangen ar gyfer defnyddio maes parcio’r Gadeirlan ar ddiwrnodau heblaw dydd Sul o ddechrau mis Chwefror, ar gael wedi gwasanaethau heddiw. Gwerthfawrogir cyfraniad rhodd hael tuag at gronfeydd y Gadeirlan.


Naw Llith a Charol y Canhwyllau

29 Ionawr am 6pm

Ar ddiwedd dathliadau’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio gyda Mair, Joseff a’r plentyn i Gaersalem, ar gyfer defod olaf y tymor, gan ddal y golau o’n blaenau, a chan weddïo yng ngoleuni’r fflam dros bopeth a fydd.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

26 Ionawr | Ensemble Jazz Prifysgol Bangor

Yn cynnwys myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn bennaf, daeth y grŵp at ei gilydd fel rhan o Fodiwlau Perfformio Prifysgol Bangor i alluogi myfyrwyr i gael profiad o berfformio gyda’i gilydd yn y traddodiad jazz. Edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r Gadeirlan


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i’r Advent a'r Nadolig. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


The Rt Revd Mary Stallard

We were delighted, and simultaneously saddened, to receive the news of the election of the Assistant Bishop of Bangor as Bishop of Llandaff. The Bishop has been a great friend of the Cathedral during her time as Archdeacon of Bangor and Assistant Bishop, and we will miss her presence with us. Arrangements to bid farewell to the Bishop will be announced shortly. In the meantime, we assure her of our prayers as she prepares to take up her new and significant responsibilities.


Marion Partington, R.I.P.

The funeral of Marion Partington, a long-time friend, worshipper and steward at the Cathedral, takes place at the Crematorium at 1.30pm on Friday 3 February. The family extends a welcome to members of the Cathedral family and all who knew Marion to join them at the service.


Ceremony of Carols and Oedfa Blygain yr Esgobaeth

We owe a debt of gratitude to all from across the Cathedral family who helped up-front and behind the scenes to support our perfomance of the Ceremony of Carols last Sunday and the diocesan Plygain service on Friday. It was wonderful to welcome friends old and new across the threshold to be part of our ongoing celebrations of Christmastide.


Week of Prayer for Christian Unity services

During this year’s Week of Prayer for Christian Unity, we are invited to attend the united services of prayer arranged by Cytûn: Churches Together in Bangor:

  • Monday 23 January at 7pm at St John’s Methodist Church
  • Wednesday 25 January at 2pm at Eglwys Emaus

Parking permits

New parking permits, required for use of the Cathedral car park on days other than Sunday from the beginning of February, are available at the end of today’s servics. A generous donation towards the Cathedral’s funds is appreciated.


Nine Lessons & Carols of Candlemas

29 January at 6pm

At the end of Christmastide’s celebrations, join us as we travel with Mary, Joseph and the Christ child to Jerusalem, for the final observance of the season, holding the light ahead of us, and praying by the candle’s flame for all that will be.

Entrance is free, and all are welcome


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

26 January | Bangor University Jazz Ensemble

Made up primarily of second and third year students, the group came together as part of Bangor University Performance Modules to enable students to gain experience performing together in the jazz tradition. We look forward to welcoming them to the Cathedral.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Advent and. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.