minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Paratoi i ailaddurno's mur gogleddol | Preparing the redecorate the north wall
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol

Manylyn heddiw oddi wrth y brodwyr sy'n gweithio ar urddwisgoedd ar gyfer y Gadeirlan—gwaith ar y darian sydd i’w chael uwchben sedd Archddiacon Bangor yn y Cwîr, i'w gosod ar gefn y dalmatigau

Cwstos

Rydym yn falch iawn y bydd Simon Taylor yn ymuno â thîm y Gadeirlan fel Cwstos o’r wythnos nesaf ymlaen. 

Mae hon yn rôl newydd, sy’n cael ei adlewyrchu yn y teitl newydd, ond teitl sydd hefyd â’i wreiddiau yn hanes Cadeirlannau, ac sy’n dynodi un sy’n gofalu am glostir a thrysorau’r Gadeirlan. Bydd Simon yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau Elma Taylor fel Ystlydd, wrth i Elma adael y swydd honno ddiwedd y mis. 

Bydd Simon yn dod yn “geidwad” y Gadeirlan o ddydd i ddydd am bum diwrnod yr wythnos, gan weithio ochr yn ochr â’r Stiwardiaid yn ystod yr wythnos a’r Croesawwyr ar y Sul, yn goruchwylio’r gwaith o lanhau a chynnal a chadw adeilad a thiroedd y Gadeirlan, yn rheoli mynediad, ac yn rhan o bresenoldeb y Gadeirlan yng nghanol y ddinas.

Mae Simon, sy’n addolwr yn y Choral Holy Eucharist am 11am, yn cyflwyno ei hun i ni fel a ganlyn:

Graddiais gyda B.Sc. (Anrh.) mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Caerwrangon pan oeddwn yn 29, ac yn y blynyddoedd ers hynny bu i mi weithio mewn amrywiaeth eang o rolau gan gynnwys manwerthu, warysau, fel gweithiwr gofal mewn cartref plant, fel gofalwr maeth ac yn addysgu plant dan anfantais 16-19 oed mewn Saesneg a Mathemateg.

Rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu: Beth, llys-blant, ac wyresau 8 oed a 22 mis oed. Rydym yn mwynhau cerdded ein Jack Russels, ymweld ag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a reidio ar drenau stêm.

Treuliais 15 mlynedd fel gwirfoddolwr gyda Chymdeithas y Sgowtiaid yn mwynhau llawer o anturiaethau, ond erbyn hyn yn mwynhau fy hobi o radio (ham) amatur, gan fod yn aelod gweithgar o’r clwb lleol sydd wedi’i leoli ar Ynys Môn.

Croesawn Simon yn gynnes i’n tîm. Bydd Elma, sy’n rhoi heibio bod yn Ystlydd ar ôl blynyddoedd o wasanaeth ymroddedig, yn parhau i fod yn aelod o dîm gweinidogaeth y Gadeirlan fel Darllenydd. Bydd cyfle i ddiolch i Elma am ei gwasanaeth ddydd Sul 6 Chwefror.


Ailaddurno ac atgyweirio

O ganlyniad i’r oedi a ddilynodd damwain car drasig yr wythnos hon ar un o’r pontydd, ni chwblhawyd y gwaith ailaddurno ac atgyweirio erbyn dydd Gwener, ac felly mae’r sgaffaldiau a’r byrddau yn parhau yn eu lle ddydd Sul yma. Edrychwn ymlaen at gael gwared arnynt yn ystod yr wythnos nesaf.


Maes parcio

Mae trwyddedau ar gyfer parcio yn ystod yr wythnos ym maes parcio’r Gadeirlan yn 2022 ar gael wedi gwasanaethau’r Sul. Gofynnir am rodd. Nid oes angen trwyddedau i barcio ar ddydd Sul nes bydd rhybudd pellach.


Yn ein Cymun Bendigaid (dydd Llun i ddydd Sadwrn am 12.30pm) rydym ar hyn o bryd yn defnyddio afrlladgib a charegl hardd a roddwyd i Fangor gan y cyntaf o Archesgobion Cymru, A. G. Edwards

Ceremony of Carols

Benjamin Britten | Côr y Gadeirlan
Dydd Sadwrn 29 Ionawr am 5.30pm

Dewch i glywed lleisiau uchaf Côr y Gadeirlan mewn perfformiad ddirdynnol yng ngolau cannwyll o gylch rhyfeddol carolau a gweithiau eraill Benjamin Britten – y ffordd berffaith i ddod â Thymor y Nadolig i ben. Bydd Alys Bailey-Wood yn canu’r delyn. Tocynnau (£10 / £5 / plant yn rhad ac am ddim) ar gael ar y drws neu arlein fan hyn.


Perfformiadau Dydd Iau

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio cyfres o Berfformiadau Dydd Iau newydd, gan ddechrau ym mis Chwefror.

Bydd detholiad 45 munud o gerddoriaeth yn cael ei berfformio bob dydd Iau am 11.15am gan orffen mewn pryd i fwynhau cinio yn y ddinas neu fynychu’r Cymun Bendigaid am 12.30pm. O 10.45am gweinir te, coffi a chacennau.

Bydd mynediad am ddim ond gwahoddir rhoddion.

Trwy gydol mis Chwefror mae’r perfformwyr o aelwyd y Gadeirlan:

3 Chwefror
Joe Cooper

Cyfarwyddwr Cerdd
Organ

10 Chwefror
Martin Brown

Organydd
Organ

17 Chwefror
Sarah Jones

Pennaeth Datblygiad Corawl
Soprano

24 Chwefror
Harry Sullivan

Ysgolhaig yr Organ
Organ

Gwnewch nodyn yn eich dyddiaduron, ac ymestynwch wahoddiad i eraill.


Buchedd Bangor

MaeCylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn cyntaf yn gydymaith i’r cyfnod o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) tan ddiwedd tymor y Nadolig ar Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr). Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices

A detail from the embroiderers working on new vestments for the Cathedral—here as they work on the diocesan shield for a cope

Custos

We are delighted that Simon Taylor will be joining the Cathedral team as Custos, from this coming week. 

This is a new role, reflected in the new title, but one that is also drawn from the history of Cathedrals, and denotes one who has care of the Cathedral’s enclosure and treasures. Simon will take over many of Elma Taylor’s responsibilites as Verger, as she steps down at the end of the month. 

Simon will become the day to day “custodian” of the Cathedral for five days a week, working alongside the weekday Stewards and Sunday Welcomers, overseeing the cleaning and maintenance of the Cathedral building and grounds, managing access, and being part of the Cathedral’s presence at the heart of the city.

Simon, a worshipper at the 11am Choral Holy Eucharist, introduces himself to us as follows:

I graduated with a B.Sc. (Hons) in Geography from the University of Worcester when I was 29, and in the years since I’ve worked in a wide variety of roles including retail, warehousing, as a care worker in a children’s home, as foster carer and teaching disadvantaged 16-19 year olds English and Maths.

I enjoy spending time with my family: Beth, step-children, and granddaughters aged 8 and 22 months. We enjoy walking our Jack Russels, visiting National Trust properties and rides on steam trains.

I spent 15 years as a volunteer in the Scout Association enjoying many adventures, but nowadays enjoy my hobby of amateur (ham) radio, being an active member of the local club based on Anglesey.

We welcome Simon warmly to our team. Elma, stepping down as Verger after years of dedicated service, will remain a member of the Cathedral’s ministry team as Reader. There will be an opportunity to thank Elma for her service as Verger on Sunday 6 February.


Redecoration and repairs

As a result of the delays that followed this week’s tragic car accident on one of the bridges, the redecoration and repair work was not completed by Friday, and so scaffolding and boarding remains in place this Sunday. We look forward to its removal during the coming week.


Car park

Weekday Cathedral car parking permits for 2022 are available from the Cathedral team at Sunday services. A donation is requested. No permits are required to park on Sundays until further notice.


At our daily Holy Eucharist (Monday to Saturday at 12.30pm) we’re currently using a beautiful paten and chalice gifted to Bangor by the first Archbishop of Wales, A. G. Edwards

Ceremony of Carols

Benjamin Britten | The Cathedral Choir
Saturday 29 January at 7.30pm

Come to hear the upper voices of the Cathedral Choir in an atmospheric, candle-lit performance of Benjamin Britten’s wonderful cycle of carols and other works – the perfect way to bring Christmastide to a close. Tickets from the QR code opposite, or on the door: £10 / £5 / children free.


Thursday Recitals

We’re delighted to be launching a series of Thursday Recitals, beginning in February.

A 45 minute selection of music will be performed each Thursday at 11.15am, finishing just in time to enjoy lunch in the city or attend the daily Holy Eucharist at 12.30pm. From 10.45am tea, coffee and cakes will be served.

Entrance will be free of charge though donations are invited.

Throughout February the recitalists are members of the “home team”:

3 February
Joe Cooper

Director of Music
Organ

10 February
Martin Brown

Organist
Organ

17 February
Sarah Jones
Head of Choral Development
Soprano

24 February
Harry Sullivan
Organ Scholar
Organ

Please note the slot in your diaries, and please spread the news to others who might be interested in joining us.


Buchedd Bangor

The new magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor

This first edition is a companion to the period from Advent Sunday (28 November) until the end of Christmastide on Candlemas Day (30 January). It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.