minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Esgob Cynorthwyol Bangor yn y Gangell yn ystod Gosber â Litani o Weddi dros Wcráin | The Assistant Bishop of Bangor in the Chancel during the Evensong with a Litany of Prayer for Ukraine
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Trem yn ôl tua'r Litani o Weddi dros Wcráin

a gynhaliwyd yn y Gadeiran ar 6 Mawrth


Dduw, ein noddfa a’n nerth, ein craig a’n hamddiffynnydd, yr wyt ti’n clywed wylofain dy bobl ac yn edrych yn dosturiol ar y dolurus. Yn dy nerth gwyrthiol, dyro i’r rhai sy’n gormesu wir edifeirwch a’r gras i’th dangnefeddwyr gymodi, iacháu ac adfer. Tro galonnau dy holl bobl at ffyrdd cyfiawnder, daioni a thrugaredd a dyro i’n byd weledigaeth o’th Deyrnas ogoneddus ble yr wyt ti’n teyrnasu yng ngrym cariad perffaith, yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân. I ti y bo’r gogoniant am byth. Amen.
Nunc dimittis | Cynnau canhwyllau'r gynulledifa | Congregational candles are lit
Y Côr yn ymarfer Litani Fawr Hedd | The Choir rehearsing the Great Litany of Peace
Y Llith Cyntaf | The First Lesson
Golau'r machlyd | The light of the setting sun
Crist Waredwr y Byd

Hysbys wythnosol


Dechrau Canu Dechrau Canmol

Rydyn ni’n falch iawn y bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ffilmio rhannau o’u rhaglen Sul y Pasg yn y Gadeirlan, gan gynnwys anthem gan Gôr y Gadeirlan ac emynau cynulleidfaol. 

Os hoffech fod yn y gynulleidfa ar gyfer recordio’r emynau, dewch erbyn 4.30pm ar ddiwrnod y recordio (dydd Sadwrn 26 Mawrth); disgwylir i’r recordiad bara tan 7pm.


Gorsafoedd y Groes

Bob dydd Mercher yn y Grawys am 7.30am, bydd Gorsafoedd y Groes yn cael eu gweddïo gyda cherddoriaeth yn y Gadeirlan. Gwnewch ymdrech i brofi’r ddefod deimladwy hon sy’n ein dwyn i galon Dioddefaint Crist.

Llyfrau’r Grawys

Mae’r Grawys yn gyfnod i astudio a myfyrio. Mae’n amser da felly i ail-lansio gwerthiant llyfrau yn y Gadeirlan, gan ein hannog ni i gyd i godi llyfr a neilltuo peth amser i ddarllen a gweddïo. Mae pedwar llyfr gan awduron lleol a rhyngwladol, a ddewiswyd ar gyfer y cyfnod hwn, mewn stoc.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

Athro’r Beibl Hebraeg a Chrefydd Hynafol ym Mhrifysgol Caerwysg yn archwilio sylwedd Duw – ei gorff o’i goryn i’w sawdl. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

Canon Trigiannol Cadeirlan Aberhonddu yn ein gwahodd i gerdded gydag ef yn yr Appalachiaid, Norwy, Gwlad yr Iâ, yr Alpau a mynyddoedd Cymru wrth iddo fyfyrio ar hanes, llên gwerin, barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

On o’n meddylwyr a’n hawduron pwysicaf yn rhannu portreadau eang o bobl drwy gydol hanes sydd wedi ceisio atebion yn y tywyllwch – llyfr ar gyfer ein dyddiau ni. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

Y bardd (a’n pregethwr ar Sul y Dioddefaint) yn ymuno a’r artist i roi cipolwg i ni o sut y gwelsant y byd yng nghysgod Cofid a Brexit. £12.50


Datganiadau Paned

11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

17 Mawrth | Henry Fairs | Organ
Mae’r organydd o fri rhyngwladol yn ymweld â Bangor.

24 March | Timothy Evans | Bas
Ysgolhaig y Gân y Gadeirlan yn cyflwyno datganiad o ganeuon gan o waith John Ireland i ganeuon o’r Theatr Gerdd boblogaidd.


Clas

Fforwm Zoom a, 6.30pm i ddysgu, trafod a myfyrio.

21 Mawrth
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs ag Andrew Carroll Jones, Archddiacon Meirionnydd, am bererindod a’r seintiau Celtaidd


Buchedd Bangor

Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


A look back at the Litany of Prayer for Ukraine 

held at the Cathedral on 6 March


God, our refuge and strength, our rock and defender, you hear the weeping of your people and look with compassion on the stricken. In your miraculous power, grant to oppressors true repentance and to your peacemakers grace to reconcile, heal and restore. Turn the hearts of all your people to ways of justice, goodness and mercy and grant our world a vision of your glorious kingdom where you reign in the power of perfect love, Father, Son and Holy Spirit. To you be glory for ever. Amen.
Nunc dimittis | Cynnau canhwyllau'r gynulledifa | Congregational candles are lit
Y Côr yn canu Litani Fawr Hedd | The Choir sing the Great Litany of Peace
Gorymdaith yr Esgob Cynorthwyol | The procession of the Assistant Bishop
Ymadael | Departing
Christ the Saviour of the World

Weekly notices


Dechrau Canu Dechrau Canmol

We’re delighted that Dechrau Canu Dechrau Canmol will be filming portions of their Easter Day programme at the Cathedral, featuirng music sung by the Cathedral Choir and congregational hymnody. 

If you would like to be in the congregation for the recording of the hymnody, please be seated by 4.30pm on the day of recording (Saturday 26 March); the recording is expected to last until 7pm.


Stations of the Cross

Every Wednesday in Lent at 7.30pm, Stations of the Cross will be prayed with music at the Cathedral. Please make every effort to experience this moving observance of Christ’s Passion.

Lent books

Lent is a time for study and reflection. It’s therefore a good time to relaunch the sale of books at the Cathedral, encouraging us all to pick up a book and put aside some time to read and pray. Four books by local and international authors, chosen for this time, are in stock.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

The Professor of Hebrew Bible & Ancient Religion at the University of Exeter explores the substance of God – Yahweh’s body, from top to bottom. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

The Canon Residentiary of Brecon Cathedral invites us to walk with him in the Appalachians, Norway, Iceland, the Alps and around Wales as he reflects on history, folklore, poetry, philosophy and theology. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

One of our most important thinkers and writers share wide-ranging portraits of people throughout history who have sought answers in dark times – a book for our times today. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

A poet (and our preacher on Passion Sunday) teams up with an artist to give us a glimpse of how they saw the world in the shadow of Covid and Brexit. £12.50


Coffee-break Recitals

11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

17 March | Henry Fairs | Organ
Internationally renowned organist Henry Fairs visits Bangor.

24 March | Timothy Evans | Bass
Our Cathedral Choral Scholar presents a recital of songs from those by John Ireland to numbers from popular Musical Theatre.


Clas

A fortnightly Zoom forum at 6.30pm to learn, discourse and reflect.

21 March
The Sub-Dean in conversation with Andrew Carroll Jones, the Archdeacon of Meirionnydd, about pilgrimage and the Celtic saints


Buchedd Bangor

The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.