minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Croeso

Mae Banc Bwyd Cadeirlan Deiniol Sant ar agor o 2-3pm ar:

Ddydd Llun 
Dydd Mercher
Dydd Gwener

Mae'r banc bwyd wedi ei leoli yn Nhŷ Deiniol sef yr adeilad lliw hufen ar ochr y gorsaf bysiau o'r Gadeirlan.


Derbyn Pecyn

Mae yna ychydig o gamau i gymryd er mwyn derbyn pecyn.

  1. Cysylltwch â’ch gweithiwr cefnogol, os oes gennych un, a gofynnwch iddynt i’ch cyfeirio atom.
  2. Bydd y gweithiwr cefnogol wedyn yn eich cyfeirio trwy ddanfon ebost atom: lesley.beckton@yahoo.co.uk
  3. Cewch ddod i gasglu eich bwyd o Dŷ Deiniol neu gall eich gweithiwr cefnogol wneud hynny trosoch.

Os nad oes gennych weithiwr cefnogol, cysylltwch ag unrhyw un o’r asiantaethau isod (trwy alwad ffôn neu ebost) i ofyn iddynt eich cyfeirio atom.

Os nad ydych yn medru cysylltu gydag unrhyw un o’r asiantaethau, dewch i’r Banc Bwyd yn ystod ein oriau agor. Nodwch os gwelwch yn dda mai dim ond dwywaith cewch ofyn am becyn argyfwng: ar ôl hynny rhaid i chi gael eich cyfeirio.

Gellir derbyn ffurflen gyfeirio gan:

Eich Meddyg Teulu, Ywelydd Iechyd, Nyrs Ardal, Nyrs Ysgol, Nyrs Seiciatrig Cymunedol neu gweithiwr proffesiynol arall.
Cynghorydd Lleol
Tiwtor Coleg/Prifysgol neu Swyddog Lles
Clerigion Eglwysig
North Wales Recovery Community
GISDA
Hafal Gwynedd
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (Gwynedd)

Tai Gogledd Cymru
CAIS
Cyngor ar Bopeth
Kaleidoscope
Cyngor Gwynedd
Gorwel
Job Centre Plus
Hafan Cymru
Nacro
Adra
Cymru'n Gweithio

Bydd y ffurflen gyfeirio yn cynnwys eich enw, cyfeiriad, sefyllfa teuluol a’r rheswm eich bod angen pecyn. Byddwch angen ffurflen gyfeirio newydd bob tro byddwch yn dod i’r Banc Bwyd.


Cyfranu

Cyfranu Arian

Cefnogir Banc Bwyd y Gadeirlan trwy gyfraniadau hael unigolion, ysgolion, busnesau, eglwysi, ac elusennau eraill.

Mae modd cyfranu drwy wefan Rhoi yn Syth yr Eglwys yng Nghymru neu drwy Archeb Sefydlog.

Cyfranu Bwyd

Mae’r Banc Bwyd yn dibynnu’n llwyr ar gyfryniadau ac rydym wastad yn hynod ddiolchgar am unrhyw gyfraniadau o fwyd. Dewch â chyfraniadau i Dŷ Deiniol gerllaw’r Gadeirlan ar ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 1 a 3 pm.

I ddarganfod pa eitemau o fwyd sydd angen mwyaf arnom ar unrhyw adeg gweler ein tudalen Facebook


Cymraeg

Welcome

Saint Deinol's Cathedral foodbank is open between 2 and 3pm on:

Monday
Wednesday
Friday

The foodbank is located in Tŷ Deiniol which is the cream building near the bus station end of the Cathedral.


Receiving a parcel

There are a few steps you need to take to receive a parcel.

  1. If you have a support worker, contact them and ask them to give you a referral.
  2. Your support worker sends us a referral by email to this address: lesley.beckton@yahoo.co.uk
  3. Collect your food from us in person at Tŷ Deiniol, or ask your support worker to collect it for you.

If you don't have a support worker, contact any of the agencies below (by phone or email) and ask them to give you a referral.

If you can't contact any of the agencies, just come to the food bank during opening hours. We can give you a small emergency food parcel (2 days worth of food). Please note: We can only give out two emergency parcels: after that you will need a referral.

You can receive a referral form through:

Your GP, Health Visitor, District Nurse, School Nurse, Community Psychiatric Nurse or other health professional
Your local councillor
College/University Tutor or Welfare Officer
Church clergy
North Wales Recovery Communities
GISDA
Hafal Gwynedd
The National Probation Service (Gwynedd)

North Wales Housing
CAIS
Citizens Advice
Kaleidoscope
Gwynedd Council
Gorwel
Job Centre Plus
Hafan Cymru
Nacro
Adra
Working Wales

A referral tells us your name, address, family situation and why you need a food parcel. You will need a new referral for each time you come to the food bank.


Donating

Donating money

The Cathedral Foodbank is supported by the generous donations of individuals, schools, businesses, churches and other charities.

It is possible to donate either via the Church in Wales' Gift Direct Scheme or via Standing Order.

Donating food

The Foodbank is entirely dependent on donations and we are always grateful for everything we receive. Please bring any food donations to Tŷ Deiniol (the Diocesan Centre) next to the cathedral from 1pm to 3pm on Monday, Wednesday or Friday.

To find out which are the most useful items to donate please see our Facebook page