minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Johannes-Passion

Ar Sul y Blodau, mae ein cerddorion yn perfformio Johannes-Passion J. S. Bach (Dioddefaint Sant Ioan), i gyfeiliant grymoedd offerynnol Ensemble 525, ac wedi’u hategu gan leisiau Corws Prifysgol Bangor.


Dioddefaint Sant Ioan, J. S. Bach

Côr Cadeirlan Deiniol Sant
Corws Prifysgol Bangor
Ensemble 525
Tom Castle
, Efengylydd
Jack Redman, Christus
Joe Cooper, arweinydd

Tom Castle
Mae Tom Castle yn edrych ymlaen at ganu rhan yr Efengylydd

Pryd bynnag y gofynnir i mi fod yn Efengylydd ar gyfer y Dioeddefeintiau Bach, dwi'n llawn brwdfrydedd ac yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysur. Mae rôl yr Efengylydd i’r tenor yn unigryw, yn meddu ar nifer o heriau i'r canwr ond hefyd yn caniatáu rôl arbennig iddynt wrth adrodd stori’r Dioddefaint. Rydych chi wir yn teimlo eich bod chi'n siarad â'r gynulleidfa am galon y ddrama. Mae yna nifer o adegau gwirioneddol fendigedig yn y Johannes-Passion, ond, i mi, mae’r darn pan fydd Iesu’n cael ei roi ar brawf a’i gondemnio i farwolaeth yn un o’r gerddoriaeth fwyaf syfrdanol a ysgrifennwyd erioed. Mae'r Corws yn gweithredu fel y dorf, tra bod yr Efengylydd yn gweu'r stori at ei gilydd trwy gyfres o adroddiadau dramatig ac ingol. Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn Efengylydd ar gyfer y Johannes-Passion yn dweud yr un peth wrthych chi – mae'n anodd! Mae'r amrediad a ddisgwylir gan y tenor yn enfawr ac mae llawer ohono'n uchel iawn. Mae'n rhaid i chi gyfuno hyn â gwneud i'r cyfan swnio mor hawdd â phosib! Ond mae'r darn hwn o gerddoriaeth yn un o'r goreuon a ysgrifennwyd erioed, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at ei berfformio yng Nghadeirlan Deiniol Sant.

Jack Redman
Mae Jack Redman yn edrych ymlaen at ganu rôl Christus

Pan gefais wahoddiad i ganu Christus yn y perfformiad hwn o’r Johannes-Passion, roeddwn yn eiddgar iawn i gael perfformio yng Nghadeirlan hardd, hynafol Bangor gyda’i chôr medrus am yr eildro. Bu i'm ymweliad cyntaf gynnwys perfformiad afieithus o anthemau’r Coroni gan Handel a pherfformiad cyntaf o osodiad Offeren Cymraeg newydd gan y cyfansoddwr, Daniel Pett. Roedd y cyflwyniad i ganu yn Gymraeg yn frawychus, yn enwedig i gynulleidfa astud o siaradwyr brodorol! Diolch byth i mi, mae rôl Christus yn gofyn am Almaeneg, iaith sy’n fwy cyfarwydd i mi o ganu yn Saint Martin-in-the-Fields yn Llundain, a yn fy ngwaith fel cyfeilydd Lieder ac Opera. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio’r rôl emosiynol hon i gynulleidfa Bangor.

Cymraeg

Johannes-Passion

On Palm Sunday, our musicians will perform J. S. Bach’s Johannes-Passion (Saint John Passion), accompanied by the instrumental forces of Ensemble 525, and augmented by the voices of the Bangor University Chorus.


Saint John Passion, J. S. Bach

Saint Deiniol’s Cathedral Choir
Bangor University Chorus
Ensemble 525
Tom Castle
, Evangelist
Jack Redman, Christus
Joe Cooper, conductor

Tom Castle
Tom Castle looks forward to singing the role of the Evangelist

Whenever I am asked to be the Evangelist for the Bach Passions, I am filled with anticipation and really look forward to the occasion. The Evangelist role for the tenor is unique, possessing a number of challenges for a singer but also allowing them a special role in the telling of the Passion story. You really feel like you are speaking to the audience about the heart of the drama. There are a number of truly wonderful moments in Bach's Johannes-Passion, but, for me, the passage during which Jesus is tried and condemned to death is some of the most astounding music ever written. The Chorus acts as the rabble, while the Evangelist gets to piece the story together through a series of dramatic and poignant recitatives. Anyone who has been the Evangelist for the Johannes-Passion will tell you the same thing – it is hard! The range expected of the tenor is enormous and much of it is very high. You have to combine this with making it all sound as easy as possible! But this piece of music is one of the greatest ever written, and I really do look forward to performing it at Saint Deiniol's Cathedral.

Jack Redman
Jack Redman looks forward to singing the role of Christus

When I was invited to sing Christus at this performance of the Johannes-Passion, I was very excited at the prospect of performing in the beautiful, ancient Cathedral at Bangor for a second time with its very accomplished choir. My first visit consisted of an exuberant performance of Handel’s Coronation anthems and the premiere of a new Welsh-language Mass setting by the composer, Daniel Pett. The introduction to singing in Welsh was daunting, especially to an attentive congregation of native speakers! Thankfully for me, the role of Christus requires German, a language more familiar to me from singing at London’s Saint Martin-in-the-Fields, and my work as a Lieder and Opera accompanist. I am thoroughly looking forward to performing this emotionally charged role to Bangor’s audience.