minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Darlith 13 Hydref

Bydd y Tad Jarel Robinson-Brown yn ymuno â ni ar Ddydd Iau 13 Hydref i draddodi Darlith Goffa’r Dr Margaret Thrall mewn Diwinyddiaeth a’i Arfer. Offeiriad, ysgolhaig a llenor proffwydol yw’r Tad Jarel, ac awdur Black, Gay, British, Christian, Queer: The Church and the Famine of Grace, a gyhoeddwyd i ganmoliaeth fawr y llynedd. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Mae’r ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ar ôl Gosber ar Gân am 5.30pm, ac fe’i dilynir gan dderbyniad gwin.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Oktoberfest

Rydym yn edrych ymlaen at ein Oktoberfest cyntaf yn y Gadeirlan ddiwedd yr wythnos hon, wrth i ni agor ein drws i groesawu ffrindiau a gwesteion i fwynhau cwrw a seidr lleol i gyfeiliant cerddorol yng Nghorff yr Eglwys. Bydd drysau’r Gadeirlan ar agor ar gyfer Oktoberfest ddydd Iau 13 Hydref 6-10pm, dydd Gwener 14 Hydref 12-10pm a dydd Sadwrn 15 Hydref 6-10pm. Bydd casgenni yn cael eu bendithio ar ôl y Gosber ddydd Iau.


Cinio Dewch i Rannu

Mae’n diolch yn fawr i bawb fu’n cyfrannu i’r Cinio Dewch i Rannu y Sul diwethaf.


Joe Cooper, syn chwarae yn ein Datganiad yr wythnos hon

Sioe Ffasiwn

Mewn partneriaeth â “Shine with Ali” mae ein Sioe Ffasiwn yn dychwelyd i Eglwys y Groes nos Sadwrn yma 15 Hydref am 7pm, gydag amrywiaeth o ddillad ac anrhegion Nadolig hefyd ar werth. Bydd arian yn cefnogi Banc Bwyd y Gadeirlan, ac mae gan Lesley Hall docynnau am £5 yr un.


Cranky Moos Coffee Club

Yn ogystal â’r ystod eang o weithgareddau cymunedol a gynhelir yn Eglwys y Groes, ac ar ben dathliad dydd Iau am 2pm o’r Cymun Bendigaid, mae’r eglwys yn cynnal clwb coffi cymunedol newydd bob dydd Mercher rhwng 10.30am a hanner dydd. Mae croeso i bawb am baned, cacen a sgwrs, a does dim tâl.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

13 Hydref | Joe Cooper a Simon Ogdon | Piano

Mae Joe Cooper a Simon Ogdon yn rhoi datganiad hwyliog sy’n canolbwyntio ar y dawnsiau Slafonaidd gan Dvořák.


Buchedd Bangor

Pedwerydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r fisoedd yr haf. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


13 October lecture

Fr Jarel Robinson-Brown joins us this Thursday 13 October to deliver the inaugural Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology & Praxis. Fr Jarel is a prophetic priest, scholar and writer, and the author of Black, Gay, British, Christian, Queer: The Church and the Famine of Grace, published to great acclaim last year. Entry is free, and there is no need for prior registration. The lecture begins at 6.30pm, after Evensong at 5.30pm, and is followed by a drinks reception.

Click here for more information about the lecture.


Oktoberfest

We’re looking forward to our first Oktoberfest at the Cathedral at the end of this week, as we open our door to welcome friends and guests to enjoy local beers and ciders to musical accompaniment in the Cathedral Nave. The Cathedral doors will be open for Oktoberfest on Thursday 13 October 6-10pm, Friday 14 October 12-10pm and Saturday 15 October 6-10pm. Casks will be blessed after Evensong on Thursday.


Bring & Share Lunch

Our thanks to all who contributed so generously to last week’s happy Bring & Share Lunch.


Joe Cooper and Simon Ogdon, two of our musicians, give this week's Recital

Fashion Show

In partnership with “Shine with Ali” our Fashion Show returns to Eglwys y Groes this Saturday 15 October at 7pm, with a range of clothing and Christmas gifts also for sale. Funds will support the Cathedral Foodbank, and Lesley Hall has tickets at £5 each.


Cranky Moos Coffee Club

In addition to the wide range of community activities held at Eglwys y Groes, and on top of the Thursday at 2pm celebration of the Holy Eucharist, the church is hosting a new community coffee club every Wednesday between 10.30am and 12 noon. All are welcome for coffee, cake and chat, and there is no charge.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

13 October | Joe Cooper & Simon Ogdon | Piano

Joe Cooper and Simon Ogdon, partners of the duetting variety, give a fun recital centred around the Slavonic dances by Dvořák.


Buchedd Bangor

The fourth edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This fourth edition is a companion to the summer months. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.