minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Yr Oedd Gardd | Manylion yr Wythnos Fawr wedi ei lansio'r wythnos hon • There Was a Garden | Our Holy Week programme launched this week
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Yr Wythnos Fawr 2024

Cyd-gerddwn gamre’r Wythnos Fawr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant yng nghwmni R. S. Thomas, y bardd o offeiriad o Esgobaeth Bangor ac un o brif lenorion crefyddol yr 20fed ganrif. 

Yn guriad cyson i’n Hwythnos Fawr yn y Gadeirlan, cynigir defod sy’n gyforiog o addoliad a cherddoriaeth bob nos am 6.00pm o Sul y Blodau hyd Noswyl y Pasg. Bydd beirdd ac ysgolheigion o fri yn arwain ein defosiwn; a chomisiwn cerddorol eleni, a berfformir am y tro cyntaf ar nos Wener y Groglith, yw Yr Oedd Gardd gan Alex Mills – gosodiad corawl o gerddi R. S. Thomas heb eu cyhoeddi a nas gwelwyd mohonynt o’r blaen, wedi’u dethol o’i lawysgrifau a gedwir yn archif Canolfan Astudiaethau R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.

Cewch y rhaglen gyfan fan hyn


Nosweithiau Mercher yn ystod y Grawys

Mae’r Grawys yn dymor wedi ei nodi nid yn unig gan ymwrthod a chan haelioni, ond hefyd gan astudrwydd mewn gweddi a myfyrdod. Cynigir gweithgareddau ar nos Fercher yn ystod y Grawys eleni fel offrwm i’n cyfoethogi’n ysbrydol. 

“Cofia dy gyfamod byth”Dirnad hynt y berthynas Gristnogol-Iddewig

Bydd ein cwrs astudio Grawys, ar-lein ar Zoom am 6.00pm ar nosweithiau Mercher 21 Chwefror, 6 Mawrth a’r 20 Mawrth yn archwilio cysylltiadau Cristnogol-Iddewig ar adeg dyngedfennol mewn dealltwriaeth rhyng-ffydd. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu harwain gan y sefydliad rhyng-ffydd nodedig, Cyngor Cristnogion ac Iddewon. Ceir manylion llawn fan hyn.

28 Chwefror

Bydd ein cyfres o bregethau Grawys, sy’n canolbwyntio ar Gredo Nicea, yn cael ei harchwilio mewn sesiwn ar-lein arbennig ar Zoom am 6.00pm ar 28 Chwefror. Rydym wrth ein bodd mai’r Dr Robin Ward, Prifathro Tŷ San Steffan, Rhydychen, fydd yn arwain y sesiwn hon. 

13 Mawrth

Bydd y nos Fercher arall yn ystod Grawys, 13 Mawrth, yn cael ei chysegru i’n Cymun ar Gân misol newydd dros y Meirw, a gynhelir yn y Gangell am 5.30pm, a lle bydd gosodiad Fauré o’r Requiem yn cael ei ganu. 

Eto, rhowch flaenoriaeth i’ch presenoldeb yn eich dyddiaduron, er mwyn cyfoethogi’r Grawys yn ysbrydol ac yn weddigar.


Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Holy Week 2024

Our observance of Holy Week at Saint Deiniol’s Cathedral this year is accompanied by R. S. Thomas, a priest-poet of the Diocese of Bangor and one of the 20th century’s great religious writers. 

As a steady beat to our Holy Week, a devotional observance rich in worship and music is offered at the Cathedral every evening at 6.00pm from Palm Sunday to Easter Eve. Distinguished poets and scholars will guide our devotions; and this year’s musical commission, premiered on the evening of Good Friday, is Alex Mills’s There Was a Garden – a choral setting of unpublished and previously unseen poems by R. S. Thomas drawn from his manuscripts held in the archive of the R. S. Thomas Study Centre at Bangor University.

You can read the full programme here.


Wednesdays during Lent

Lent is season marked not only by abstinence and generosity, but also by an attentiveness in prayer and reflection. Activities on Wednesday evenings during this Lent are offered as a time of spiritual enrichment. 

“You remember your covenant forever”
Discerning a path for Christian-Jewish relations

Our Lent study course, online by Zoom at 6.00pm on the Wednesday evenings of 21 February, 6 March and 20 March will explore Christian-Jewish relations at a critical moment in inter-faith understanding. These sessions will be led by the inter-faith organization of note, the Council of Christians and Jews. Full details of our Lent Wednesday study are available here.

28 February

Our Lent sermon series, focusing on the Nicene Creed, will be explored in special online session by Zoom at 6.00pm on 28 February. We’re delighted that Dr Robin Ward, the Principal of Saint Stephens’s House, Oxford, will be leading this session. 

13 March

The remaining Lent Wednesday evening, 13 March, will be dedicated to our new monthly Choral Eucharist of Requiem for the Departed, which will take place in the Chancel at 5.30pm, and at which Fauré’s setting of the Requiem will be sung. 

Again, please prioritise your attendance in your diaries, so that your observance of a holy Lent might be spiritually and prayerfully enriched.


Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.