
O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Sul Gwaddol Ganol Haf
Bu ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn gyfle i ddathlu ein bywyd ar y cyd, i nodi diwedd ein blwyddyn gorawl wrth i ni ffarwelio â rhai o’n Coryddion ac Ysgolheigion y Gân, i godi arian ar gyfer Ambiwlans Ioan Sant Cymru yn ystod eu penwythnos codi arian cenedlaethol, ac i lansio urdd Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant fel cymuned o’r rhai o bell ac agos sydd am gefnogi bywyd, cerddoriaeth a thystiolaethu’r Gadeirlan.
Am 2.00pm, bu i Harry Sullivan, Ysgolhaig yr Organ, ganu’r organ yn ei ddatganiad olaf cyn iddo ymadael â’r Gadeirlan, a'i ddatganiad yn cynnwys gweithiau ar gyfer yr organ wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth cerddorfaol.
Gyda’r hwyr, am 6.00pm, cafwyd ein Cyngerdd Dewch i Ganu Ganol Haf, pan y bu ii leisiau ychwanegol ymuno â Chôr y Gadeirlan i ganu Gloria Vivaldi, a Rejoice in the Lamb gan Britten.

Ambiwlans St John Cymru
Ym mhob un o’n digwyddiadau y Sul Gwaddol Ganol Haf hwn, bu inni godi arian ar gyfer Ambiwlans St John Cymru, a hithau’n benwythnos codi arian iddyn nhw. Ambiwlans St John Cymru yw prif elusen cymorth cyntaf Cymru, fu’n cefnogi cymunedau Cymru ers dros 100 mlynedd. Gyda mwy na 4,000 o wirfoddolwyr mae’r elusen yn gofalu am dros 9,000 o bobl bob blwyddyn ac mae wedi bod yn bresennol yn ystod rhai o ddyddiau mwyaf heriol a llawen Cymru. Mae Ambiwlans St John Cymru yn darparu triniaeth a hyfforddiant cymorth cyntaf, ac yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau brys eraill i ddarparu cymorth hanfodol lle bo angen. Maent hefyd yn darparu rhaglenni addysgol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau i bobl ifanc ac mae dros hanner y gwirfoddolwyr o dan 18 oed, gyda llawer yn aml yn dilyn gyrfaoedd fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae Ambiwlans St John Cymru yn rhan o St John International, elusen ddyngarol fyd-eang sy’n hybu iechyd a gwytnwch corfforol, meddyliol ac ysbrydol mewn 44 o wledydd, ac mae’n cynnal Ysbyty Llygaid arbenigol yng Nghaersalem sy’n darparu gofal llygaid arbenigol i ranbarthau’r Lan Orllewinol, Gaza a Dwyrain Caersalem.
Canon Tracy Jones
Bu'n bleser mawr gennym ddathlu’r Sul hwn ddeng mlynedd ers ordeinio’r Canon Tracy Jones i’r offeiriadaeth. Cawsom gyfle dros ginio i ddiolch i’r Fam Tracy am bopeth y mae’n ei gyfrannu i fywyd ein Cadeirlan a Bro Deiniol..
Cyfarfod Cynulledifaol
Cynhelir ein Cyfarfod Cynulleidfaol nesaf, gyda ffocws ar gyllid y Gadeirlan, nos Iau 6 Gorffennaf am 6.30pm.
Buchedd Bangor
Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
This Sunday and the week ahead...


Midsummer Foundation Sunday
On Sunday 25 June we observed our Midsummer Foundation Sunday at the Cathedral. It was be an opportunity to celebrate our Cathedral life, to mark the end of our choral year as we say farewell to some of our Choristers and Choral Scholars, to raise money for St John Ambulance Cymru during their national fundraising weekend, and to launch the Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral as a community of those far and wide who want to support the life, music and witness of the Cathedral.
At 2.00pm, Harry Sullivan, our Organ Scholar, gave his final organ recital at the Cathedral, focusing on orchestrally-inspired works for organ.
In the evening, at 6.00pm, our Midsummer Come & Sing Concert provided an opportunity for additional voices to join our Cathedral Choir to sing Vivaldi’s Gloria and Britten’s Rejoice in the Lamb.

St John Ambulance Cymru
At all of our events during Mid-Summer Foundation Sunday, were raised funds for St John Ambulance Cymru, on their fundraising weekend. St John Ambulance Cymru is Wales’ leading first aid charity, supporting Welsh communities for over 100 years. With more than 4,000 volunteers the charity cares for over 9,000 people every year and has been present during some of Wales’s most challenging and joyous moments. St John Ambulance Cymru provide first aid treatment and training, and work alongside other emergency services to provide vital support where needed. They also provide educational programmes and opportunities to develop skills for young people and over half of volunteers are under the age of 18, with many often pursuing careers as healthcare professionals. St John Ambulance Cymru is part of St John International, a global humanitarian charity that promotes physical, mental and spiritual health and resilience in 44 countries, and maintains a specialist Eye Hospital in Jerusalem providing expert eye care to the regions of West Bank, Gaza and East Jerusalem.
Canon Tracy Jones
We were delighted to celebrate this past Sunday the tenth anniversary of Canon Tracy Jones’s ordination to the priesthood. Over lunch were able to thank Mother Tracy for all that she contributes to the life of our Cathedral and Bro Deiniol.
Congregational Meeting
Our next Congregational Meeting, with a focus on Cathedral finances, takes place on Thursday 6 July at 6.30pm.
Buchedd Bangor
This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.