minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Defodau’r Nadolig

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

Mae’r wythnos o’n blaenau’n amser prysur i ni yma yn y Gadeirlan ac ar draws dinas Bangor. O’n perfformiad o’r Meseia heno, trwy Naw Llith nos Iau, i Wasanaeth y Preseb, Cymun Eglwys y Groes a’n Cymun Canol Nos cerddorfaol ar Noswyl Nadolig, i’n gwasanaethau bore Dolig, offrymir gwledd o addoliad, gweddi, cerddoriaeth a gwasanaeth i ogoniant Duw ym Mangor y dyddiau nesaf hyn. 

Aiff fy niolch ymlaen llaw i bawb o bob rhan o deulu’r Gadeirlan a fydd yn cyfrannu y tu hwnt i’r galw i sicrhau defodau teilwng. 

Fy ngobaith yw y byddwch yn gallu cyfranogi cymaint â phosibl o’r hyn a gynigir, ac y gallech ystyried gwahodd ffrindiau sydd angen llawenydd a hedd y baban Iesu yn eu bywydau y Nadolig hwn i ddod gyda chi. 

Fy ngweddi yw y bydd y dyddiau hyn yn amser bendigaid i bob un ohonom.


Cefnogi Banc Bwyd y Gadeirlan y Nadolig hwn

Mae’n hymdrech i gynnig cymorth ychwanegol i Fanc Bwyd y Gadeirlan y Nadolig hwn wedi bod ar ffurf rhoddion ar gyfer eitemau arbennig i oedolion sengl, y mae eu hanghenion yn hawdd eu hanwybyddu. Roeddem yn ddiolchgar am roddion o hetiau, sgarffiau, menig, sanau a thaclau ymolchi. Cafodd 75 o anrhegion eu lapio brynhawn Sul diwethaf, gan gynnwys rhai anrhegion ychwanegol i blant. Diolch arbennig i’n tîm papur lapio, a weithiodd yn galed drwy’r prynhawn. Croesewir rhoddion trwy law’r Stiwardiaid ar y Sul o hyd.


Alex Mills

Croesawn y cyfansoddwr, Alex Mills, i’n gwasanaethau’r Sul yma. Yn enedigol o Sir Benfro, mae Alex yn gyfansoddwr cerddoriaeth siambr, cerddorfaol a chorawl, yn ogystal â dwy opera ddiweddar, Dear Marie Stopes a Leonardo. Rydym wrth ein bodd bod Alex wedi derbyn comisiwn i gyfansoddi gosodiad Cymraeg o Saith Air y Groes ar gyfer Côr y Gadeirlan, i’w berfformio yma ar Ddydd Gwener y Groglith 2023.


Carolau ar Wib

Da oedd gweld y Gadeirlan mor llawn ar gyfer Carolau ar Wib, ein cyngerdd gaeaf teuluol, nos Lun diwethaf. Mae gwaith caled eto i’w wneud i adeiladu ar egin gysylltiadau â rhagor o ysgolion a theuluoedd; ond da oedd gweld brwdfrydedd eleni eisioes yn dwyn ffrwyth. Diolch i bawb o bob rhan o deulu’r Gadeirlan am y gwaith i gefnogi’r digwyddiad gwych hwn.


Pier Garth Bangor

Mae’n diolch yn fawr i Gôr y Gadeirlan am ymdopi â’r tywydd garw i chwarae rhan mor flaenllaw yn Ngyngerdd Nadolig Ffrindiau Pier Garth Bangor bnawn Sul diwethaf.


Defodau'r Nadolig

Meseia

18 Rhagfyr am 6.00pm

Perfformiad cerddorfaol gyda lleisiau Côr y Gadeirlan o gampwaith gogoneddus George Frideric Handel, dan arweiniad Joe Cooper | Prynwch eich tocyn yma

Naw Llith a Charol y Nadolig

22 Rhagfyr am 6.00pm

Ar drothwy’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio i Fethlehem, gyda darlleniadau traddodiadol a charolau yng ngolau cannwyll yn adrodd hanes genedigaeth Crist | Archebwch eich sedd yma

Gwasanaeth y Preseb

24 Rhagfyr am 4.00pm

i’r teulu i gyd wrth i ni adrodd hanes yr angylion a’r bugeiliaid, a Mair a Joseff ar y noswyl Nadolig gyntaf un

Dewch wedi’ch gwisgo fel bugail, dafad neu angel a helpwch ni i ail-fyw’r hanes hefo’n gilydd

Cymun Canol Nos y Nadolig

24 Rhagfyr o 10.30pm

Ein dathliad cyntaf o’r Nadolig, yng ngolau cannwyll, gan ddechrau gyda charolau gyda Chôr y Gadeirlan o 10.30pm ac yna’r Cymun am 11.00pm | Croeso i bawb; mynediad am ddim


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i’r Advent a'r Nadolig. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


Our Christmas observances

The Sub-Dean writes:

The coming week is a busy time for us here at the Cathedral and across the city of Bangor. From our performance of Messiah tonight, through Thursday’s Nine Lessons, to Christmas Eve’s Crib Service, Eucharist at Eglwys y Groes and orchestral Midnight Eucharist, to our Christmas morning services, much worship, prayer, music and service will be offered to the glory of God. 

My thanks go in advance to all from across the Cathedral family who will give of themselves beyond the call of duty over the days ahead. 

My hope is that you will be able to partake of as much as possible of what is offered, and that you might invite friends who need the joy and peace of the Christ child in their lives this Christmas to come along with you. 

My prayer is that this will be a blessed time for all of us.


Supporting the Cathedral Foodbank this Christmas

Our effort to offer additional support to the Cathedral Foodbank this Christmas has been in the form of donations for special items for single adults, whose needs are easily overlooked. We were grateful for donations of hats, scarves, gloves, socks, and toiletries. Seventy five gifts were wrapped last Sunday afternoon, including some additional gifts for children. A special thanks to our wrappers, who worked hard all afternoon. Donations are still welcome via the Stewards on Sundays.


Alex Mills

We welcome the Pembrokeshire-born composer, Alex Mills, to our services this Sunday. Alex is a composer of chamber, orchestral and choral music, and of two recent operas, Dear Marie Stopes and Leonardo. We’re delighted that Alex has accepted a commission to compose a setting of the Seven Last Words on the Cross for our Cathedral Choir, using the Welsh-language text from the 1588 Bible, to be performed here on Good Friday 2023.


Carols with The Snowman

It was super to see the Cathedral so full for our family winter concert last Monday evening. Our thanks to all from across the Cathedral family for the work to support this wonderful event.


Garth Pier

Our thanks go to the Cathedral Choir for braving the fierce weather to play their key part in the Friends of Garth Pier’s Christmas Concert last Sunday afternoon.


Our Christmas observances

Messiah

18 December at 6.00pm

An orchestral performance with the voices of the Cathedral Choir of George Frideric Handel’s wonderful masterpiece, conducted by Joe Cooper | Buy your ticket here

Nine Lessons & Carols of Christmas

22 December at 6.00pm

On the threshold of Christmas, join us as we journey to Bethlehem, with traditional readings and carols by candlelight telling the story of Christ’s birth | Reserve your seat here

Christmas Crib Service

24 December at 4.00pm

Join us for a family friendly service as we tell the story of the angles, the shepherds, and Mary and Joseph on the first Christmas night

Come dressed as a shepherd, a sheep or an angel and help us to live the story together

The Midnight Eucharist of Christmas

24 December from 10.30pm

Our first celebration of Christmas, by candlelight, beginning with carols with the Cathedral Choir from 10.30pm followed by the Eucharist service at 11.00pm | All welcome; free entrance


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Advent and. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.