minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Ein Is-Ganon newydd yn stod ei Hordeinio ar 1 Gorffennaf | Our new Minor-Canon at her Ordination on 1 July
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Yn ystod y gwasanaeth Ordeinio

Addoliad yn ystod yr wythnos dros fisoedd yr haf

Wrth galon ein haddoliad yn ystod yr wythnos yma yn y Gadeirlan ac yn Eglwys y Groes y mae dathlu’r CYmun. Dethlir y Cymun yn ddyddiol yn y Gadeirlan am 12.30pm, bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn; ac yn wythnosol yn Eglwys y Groes, ar ddydd Iau am 2.00pm. Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o Goleg Offeiriadol y Gadeirlan am eu ffyddlondeb wrth Fwrdd yr Allor.

Mae’r offrwm o weddi a mawl yn y Gosber ar Gân yn rhan bwysig arall o fywyd addolgar y Gadeirlan. Yn ystod misoedd yr haf, tra bod ein lluoedd corawl yn lleihau, offrymir Gosber ar Gân yn wythnosol am 3.30pm ar brynhawn Sul. O’r wythnos hon hyd at ddychweliad y Côr llawn, mae ein Gosber ar Gân yn ystod yr wythnos yn cael eu gohirio. Dywedir Hwyrol Weddi bob dydd Iau am 5.30pm.

Gwnewch yn fawr o’r addoliad rheolaidd yma. Mae dathliadau 12.30pm y Cymun yn ystod yr wythnos yn cynnig ennyd dawel, fyfyriol yng nghanol y dydd. Mae croeso mor gynnes yn Eglwys y Groes ym Masgeirchen ar ddydd Iau, gan gynnwys te ar ôl y gwasanaeth. Ac mae ein Gosber ar Gân ar y Sul yn hardd ac yn fyfyriol.


Lluniau

Rydym yn ddiolchgar i Dave Custance, cyfaill i’r Gadeirlan, am dynnu lluniau o du mewn a thu allan y Gadeirlan. Bydd peth o’i waith yn cael ei ddefnyddio ar gloriau ein llyfrynnau addoli ar y Sul dros fisoedd yr haf.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

13 Gorffennaf | Yingjie Hui | Clarinét

Mae Yingjie yn fyfyriwr ôl-raddedig sy’n astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a bydd yn perfformio repertoire yn seiliedig ar idiomau gwerin Saesneg.

20 Gorffennaf | Pedwarawd y Fenai | Pedwarawd Llinynnol

Mae pedwarawd o chwaraewyr o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Byddant yn perfformio Pedwarawd “Americanaidd” enwog Dvorak.


Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn gymdeithas newydd y’i hadeiledir ar dir hynafol, cysegredig. O’i lansiad ar ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn 2023, rydym yn gobeithio y bydd y Cyd-Bererinion yn tyfu’n gymuned o’r rhai pell ac agos sydd am gerdded gyda ni fel rhan o gymuned Cadeirlan Deiniol Sant ac i gefnogi ac annog ein taith i’r dyfodol trwy weddi, cwmnïaeth a chodi arian. Darllenwch ragor fan hyn.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


At the Ordination service

Weekday worship over the summer months

At the heart of our weekday worship here at the Cathedral and in Eglwys y Groes is the celebration of the Eucharist. The Eucharist is celebrated daily at the Cathedral at 12.30pm, every day from Monday to Saturday; and weekly at Eglwys y Groes, on Thursdays at 2.00pm. We are very grateful to members of the Cathedral’s College of Priests for their faithfulness at the Altar-Table.

The offering of prayer and praise at Choral Evensong is another important component of the Cathedral’s worshipping life. During the summer months, while our choral forces are reduced, Choral Evensong is offered weekly at 3.30pm on Sunday afternoons. From this week until the return of the full Choir, our weekday Choral Evensongs are suspended. Evening Prayer will be said every Thursday at 5.30pm.

Please make the most of the regular round of worship here. The 12.30pm weekday celebrations of the Eucharist are a quiet, meditative moment in the middle of the day. There is such a warm welcome at Eglwys y Groes in Masgeirchen on Thursdays, including afternoon tea after the service. And our Sunday Choral Evensongs are beautiful and reflective.


Photographs of the Cathedral

We are grateful to Dave Custance, a friend of the Cathedral, for taking photographs of the Cathedral’s interior and exterior. Some of his work will be used on the covers of our Sunday worship booklets over the summer months.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

13 July | Yingjie Hui | Clarinet

Yingjie is a post-graduate student studying music at Bangor University, and will perform a repertoire centered on English folk idioms.

20 July | Menai Quartet | String Quartet

The Menai String Quartet is made up of players from the Bangor University Symphony Orchestra. They will be performing Dvorak’s famous “American” Quartet.


The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor

The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor is a new association built on ancient, sacred ground. From its launch on our Midsummer Foundation Sunday in 2023, we hope that the Pilgrim-Friends will grow into a community of those far and wide who want to walk with us as part of the community of Saint Deiniol’s Cathedral and to support and encourage our journey into the future by prayer, companionship and giving. Read more about the Pilgrim-Friends here.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.