minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Gwasanaeth Esgobaethol a Sirol o Weddi a Diolchgarwch cyn Coroni Eu Marhwydi’r Brenin a’r Frenhines

Cynhelir ein gwasanaeth i weddïo dros a dathlu’r Coroni am 6.00pm nos Sul 30 Ebrill. Bydd y Côr yn canu cerddoriaeth a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd mewn Coroniadau blaenorol, gan gynnwys Sadoc y Ffeiriad gan Handel ac I was Glad gan Parry. Mae croeso i bawb; mae mynediad am ddim, a gellir cadw sedd yma; bydd derbyniad gwin i ddilyn. Bydd y gwasanaeth yn cymryd lle ein Gsober ar Gân arferol ar brynhawn Sul.


Sul y Galw

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

Dathlwn y Sul hwn yn Sul y Galw – diwrnod y byddwn yn myfyrio ar ein galwad i ddefnyddio ein doniau i wasanaethu’r Eglwys a’r byd. Mae gwefan ein hesgobaeth a’n tudalen Facebook yn cynnwys cyfoeth o adnoddau a baratowyd o dan arweiniad ein Canon Secundus a allai danio fflam galwedigaeth ynom o’r newydd, a gadewch imi gymeradwyo’r rheini i chi. Mae Sul y Galw yn wahoddiad i fyfyrio o’r newydd ar alwedigaeth, ac mae’n hyfryd bod ymddiddan ar hyn o bryd â nifer o’r rhai o fewn cymuned y Gadeirlan sy’n dirnad galwad newydd i weinidogaethau lleyg ac ordeiniedig. Ond rwyf hefyd am fanteisio ar y cyfle’r Sul y Galw hwn i ddiolch i bawb o’n teulu ni yma yn y Gadeirlan ac yn Eglwys y Groes sydd eisoes yn rhoi o’u hunain i gefnogi’r Eglwys a’n cymunedau mewn ffyrdd mor gyfoethog a hael: Ein cerddorion, ein gweision Bwrdd yr Allor, ein darllenwyr a chynhyrchwyr ein llyfrynnau gwasanaeth, ein stiwardiaid a chroesawwyr a threfnwyr digwyddiadau, ein swyddogion ariannol, y rhai sy’n ffrydio ein gwasanaethau yn fyw, ein cabolwyr a’r rhai sy’n gofalu am ein hadeiladau, y rhai sy’n trefnu ein blodau, pawb sy’n gwirfoddoli ym Manc Bwyd y Gadeirlan, a’m cydweithwyr sy’n pregethu ac yn gweinidogaethu’r Sagrafennau yn ein plith – rydym wedi’n bendithio gan gymaint o alwedigaethau ffrwythlon ar hyn o bryd, a hebddynt byddai ein mawl i Dduw a’n gofal dros ein gilydd yn llawer mwy llwm. Fel cymuned, mae gennym lawer i ddiolch amdano – a gadewch inni fod yn sicr o gynnig y diolch hwnnw i’r rhai sy’n gweinidogaethu i ni. Ac os hoffech chi eich hun gamu ymlaen i gymryd mwy o ran yn ein bywyd ar y cyd, siaradwch â mi neu un o’m cydweithwyr.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

4 Mai | Jess Lawrence | Ffidil

Mae Jess yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Wrth iddi baratoi ar gyfer ei Datganiad Diwedd Gradd bydd yn rhoi cipolwg o’r gerddoriaeth wedi’i ysbyrdoli gan straeon ffantasi y mae hi wedi bod yn gweithio arni.

11 Mai | Jill Crossland | Piano

Mae Jill wedi perfformio ledled y byd ac efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei recordiadau cyflawn o Das Wohltemperierte Klavier gan Bach. Mae hi wedi recordio ar gyfer Warner Classics a Signum Classics.

Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Diocesan & County Service of Prayer and Thanksgiving before the Coronation of Their Majesties The King and Queen

Our service to pray for and mark the Coronation takes place on Sunday 30 April at 6.00pm. The Choir will sing music composed for and performed at previous Coronations, including Handel’s Zadok the Priest and Parry’s I was Glad. All are welcome. Entrance is free; seats can be reserved here; and drinks reception will follow. The service will replace our usual Sunday afternoon Choral Evensong.


Vocations Sunday

The Sub-Dean writes:

We keep this Sunday as Vocations Sunday – a day on which we reflect on our calling to use our gifts and talents to serve the Church and the world. Our diocesan website and Facebook page contain a wealth of resources prepared under the leadership of our Canon Secundus that might ignite in us anew the flame of vocation, and let me commend those to you. Vocations Sunday is an invitation to reflect anew on vocation, and it is wonderful to be in conversation at the moment with a number of those from within the Cathedral community who are discerning a new call to lay and ordained ministries. But I also want to take the opportunity of this Vocations Sunday to give thanks to all those from within our family here at the Cathedral and at Eglwys y Groes who already are giving of themselves to support the Church and our communities in such enriching and generous ways. Our musicians, our servers, readers and service-booklet administrators, our stewards and welcomers and events organizers, our book-keepers, those who live-stream our services, our polishers and those who care for our buildings, those who arrange our flowers, all who volunteer at the Cathedral Foodbank, and my colleagues who preach and minister the Sacraments in our midst – we are blessed by so many fruitful vocations at the moment, without which our worship of God and our care for one another would be much more threadbare. As a community, we have much for which to give thanks – and let us be sure to offer that thanks to those who minister to us. And if you yourself would like to step forward to become more involved in our common life, please do speak to me or one of my colleagues.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

4 May | Jess Lawrence | Violin

Jess is in her third year at Bangor University. As she prepares for her End of Degree Recital she will give us a sneak preview of the music inspired by fantasy stories that she has been working on.

11 May | Jill Crossland | Piano

Jill has performed all over the world and is perhaps best known for her complete recordings of Bach’s Well-Tempered Clavier. She has recorded for Warner Classics and Signum Classics.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.