minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Trefniant blodau Bwrdd yr Allor yr wythnos hon | This week's Nave Altar-Table flower arrangement
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Amanda yn gweithio'n galed ar y dasg o atgyweirio ac ail-baentio Drws y Gogledd | Amanda working hard on the task of repairing and repainting the North Door

Dydd Mercher y Lludw

Dydd Mercher y Lludw, 22 Chwefror, yw dechrau’r Grawys. Dethlir dau Gymun Bendigaid ar Gân yn ddwyieithog yn y Gadeirlan am 12.30pm a 6.00pm, pan y bydd y Canon dros Fywyd Cynulleidfaol yn pregethu. Caiff lludw ei arddodi yn y ddau wasanaeth. Mae Dydd Mercher y Lludw yn ddiwrnod arwyddocaol a sanctaidd yn y flwyddyn Gristnogol. Gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol yn un o’r ddau wasanaeth.


Cymanfa Gŵyl Ddewi

Byddwn yn dathlu gŵyl ein nawddsant cenedlaethol gyda Chymanfa yn y Gadeirlan am 6pm. Bu ein gwasanaethau Naw Llith a Charol yng ngolau cannwyll yn ystod yr Adfent a’r Nadolig yn achlysuron hynod boblogaidd a theimladwy. Gwnewch bob ymdrech i nodi’r diwrnod pwysig hwn drwy addoliad yn y Gadeirlan.


Clwb Cwyr y Gysegrfa

Mae criw bychan, wedi ei gynnull gan un o Ysgolheigion y Gân, Aine Guy, am gwrdd cyn y Grawys ac eto cyn y Pasg i loywi llestri a chanwyllbrennau arian a phres y Gaderilan. Cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Gadeirlan am 11am ddydd Gwener 17 Chwefror, gan orffen mewn pryd ar gyfer y Cymun dyddiol am 12.30pm. Bydd cwyr, cadachau, menig, te a choffi yn cael eu darparu! Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno, ac mae Aine yn hapus i ddarparu rhagor o fanylion ar aine.guy@btinternet.com.


Trwyddedau parcio

Mae trwyddedau parcio 2023 nawr eu hangen ar gyfer defnyddio maes parcio’r Gadeirlan ar ddiwrnodau heblaw dydd Sul. Maent ar gael wedi gwasanaethau heddiw. Gwerthfawrogir cyfraniad rhodd hael tuag at gronfeydd y Gadeirlan.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

16 Chwefror | Joe Cooper | Bas

Mae’r Cyfarwyddwr Cerdd, Joe Cooper, yn dangos ei lais gyda datganiad caneuon bas, gan gynnwys y Caneuon Olaf gan Ralph Vaughan Williams ac ariâu o Ddioddefaintau Bach.

23 Chwefror | Sam a Christina Hutchinson-Rogers | Clarinét a Ffliwt

Mae’n Coryddion Sam a Christina yn cyflwyno datganiad hanner-tymor yn dangos eu sgiliau ar eu hofferynnau eraill, gan gynnwys perfformiad o’r Concerto i’r Clarinet gan Mozart.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i'r Gesimáu a'r Grawys. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


Mae'r gwaith o atgyweirio ac ail-baentio Drws y Gogledd yn parhau | The work of repairing and repainting the North Door continues

Ash Wednesday

Ash Wednesday, 22 February, marks the beginning of Lent. Two Choral Holy Eucharists, at which the Canon for Congregational Life will preach, will be offered at the Cathedral at 12.30pm and 6.00pm. Ashes wikll be imposed at the two services. Ash Wednesdy is a significant and holy day. Please make every effort to be present at one of the two services.


Saint David’s Day Carol Service

We will be marking the festival our national patron saint with a Carol Service at the Cathedral at 6pm. Our candlelit services during Advent and Christmastide proved hugely popular and very moving occasions. Please make every effort to mark this important day in worship at the Cathedral.


Sacristy Silver Guild

A small group, convened by one of our Choral Scholars, Aine Guy, is to meet before Lent and again before Easter to polish the Cathedral’s silver and brass vessels and candlesticks. The first meeting takes place in the Cathedral at 11am on Friday 17 February, finishing in time for the 12.30pm daily Eucharist. Polish, cloths, gloves, tea and coffee will be provided! There’s a warm welcome for anyone to join in, and Aine is happy to provide further details on aine.guy@btinternet.com.


Parking permits

2023 parking permits are now required for use of the Cathedral car park on days other than Sunday. They are available at the end of today’s servics. A generous donation towards the Cathedral’s funds is appreciated.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

16 February | Joe Cooper | Bass

Director of Music Joe Cooper shows off his voice with a recital of bass songs including the Last Songs by Ralph Vaughan Williams and arias from the Bach Passions.

23 Februrary | Sam & Christina Hutchinson-Rogers | Clarinet & Flute

Choristers Sam and Christina present a half-term recital displaying their skills on their other instruments, including a performance of Mozart’s Clarinet Concerto.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Gesimatide and Lent. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.