O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...
Adfent brysur a buddiol
Ysgrifenna’r Is-Ddeon:
Bu’r Adfent yn brysur yma yn y Gadeirlan ac Eglwys y Groes.
Rydym wedi croesawu llu o ysgolion, elusennau, corau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol sydd dros y trothwy ar gyfer eu gwasanaethau carolau; rydym wedi codi arian i Shelter Cymru, ein Helusen Nadolig 2023, yn ogystal â chefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn y Dwyrain Canol, ac rydym wedi casglu rhoddion Nadolig arbennig i Fanc Bwyd y Gadeirlan; rydym wedi cadw Adfent ysbrydol wyliadwrus, gan ddechrau gyda Defod Hwyrol ysblennydd lle y canwyd Gwylnos Rachmaninoff; rydym eisoes wedi croesawu cannoedd o bobl i’n defodau Nadolig ein hunain mewn gwasanaethau Naw Llith a Charol gorlawn ac i wasanaethau’r preseb; rydym hyd yn oed wedi gorfod delio â polyn fflag a gwympwyd gan y storm; ac mae llawer mwy i ddod eto wrth inni aros ar ddefodau Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
Nid oes dim o hyn yn digwydd heb haelioni, ewyllys da a gwaith caled ar ran tîm o gydweithwyr a’r gymuned gyfan.
Rydw i mor ddiolchgar i bawb am eu hymrwymiad a’u ffyddlondeb; ac i bawb, dymunaf Nadolig llawen a bendithiol.
Y Dolig hwn yng Nghadeirlan Deiniol Sant
24 Rhagfyr 2023 am 11.00pm
Cymun Canol Nos y Nadolig
Ymunwch â ni ar gyfer ein dathliad cyntaf o’r Nadolig yng ngolau cannwyll yn hwyr ar Noswyl Nadolig, a chôr y Gadeirlan yn arwain y carolau a’r canu.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.
25 Rhagfyr 2023 am 11.00am
Cymun Bendigaid Bore Nadolig
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cymun llawen ar fore Nadolig, dan arweinyddiaeth Archesgob Cymru, ac wedi ei ddilyn gan dderbyniad gwin i ddathlu.
Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.
Buchedd Bangor
Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
This Sunday and the week ahead...
A busy, productive Advent
The Sub-Dean writes:
Ours has been a busy Advent here at the Cathedral and Eglwys y Groes.
We’ve welcomed a multitude of schools, charities, community choirs and voluntary organizations over the threshold for their carol services; we’ve raised funds for Shelter Cymru, our 2023 Christmas Charity, as well as to support the work of Christian Aid in the Middle East, and we’ve collected special Christmas donations for the Cathedral Foodbank; we’ve kept a spiritually watchful Advent, beginning with a spectacular Evening Liturgy at which Rachmaninoff’s Vespers was sung; we’ve already welcomed hundreds of people to our own Christmas observances at very well-attended Nine Lessons & Carols services and at crib services; we’ve even had to deal with a storm-felled flagpole; and there is much more to yet come as we anticipate the liturgies of Christmas Eve and Christmas Day.
None of this happens without generosity, good will and hard work on the part of a team of colleagues and a community as a whole.
I’m so very grateful to all for their commitment and faithfulness; and to all, I wish a merry and blessed Christmastide.
This Christmas at Saint Deiniol's Cathedral
24 December 2023 at 11.00pm
Midnight Mass
Join us for our first celebration of Christmas, by candlelight, late on Christmas Eve, with the Cathedral Choir leading the carols and music.
This bilingual service will last about an hour.
25 December 2023 at 11.00am
The Holy Eucharist of Christmas Morning
Join us for our joyful Communion on Christmas morning, led by the Archbishop of Wales, and followed by a celebratory drinks reception.
This bilingual service will last about an hour.
Buchedd Bangor
Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.