minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Un o'n Canhwyllbrennau Adfent newydd, a fendithiwyd yn y Gosber ddydd Iau diwethaf | One of our new Advent Candelabra, blessed at Evensong last Thursday
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Defod Hwyrol yr Adfent

Cynhelir ein Defod Hwyrol ar Sul yr Adfent yng ngolau cannwyll am 6.00pm heno. Bydd y Côr yn canu symudiadau agoriadol mawreddog Gwylnos Sergei Rachmaninoff, wrth i ni, mewn cerddoriaeth, carol, gair a gweddi, baratoi ar gyfer llewyrch datguddiadol ein “Duw gyda ni.”


Lletygarwch y Gadeirlan a’r Gosber ar Gân yn ystod yr Adfent

Hyfryd yn ystod tymor yr Adfent yw croesawu cynifer o elusennau a sefydliadau i’r Gadeirlan yn ystod yr wythnos ac ar nosweithiau Sadwrn ar gyfer gwasanaethau carolau a chyngherddau Nadolig. Mae ein dyled yn fawr i gydweithwyr o dîm y Gadeirlan sy’n gweithio’n galed yr wythnosau hyn i symud dodrefn, i fod ar ddyletswydd yn hwyr yn y nos, ac i gynnig croeso cynnes i’n hymwelwyr.

Mae digwyddiadau o’r fath yn anochel yn cael effaith ar amserlen Gosber ar Gân yn ystod yr wythnos. Edrychwch ar y rhestrau am newidiadau wythnosol.


Cinio Dewch a Rhannu

Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, ar Drydydd Sul yr Adfent, 17 Rhagfyr.


Undeb y Mamau

Bydd y cyfarfod Undeb y Mamau nesaf yn Eglwys y Groes ar ddydd Llun 4 Rhagfyr, am 2.30pm. Bydd darlleniadau a charolau Adfent, a lluniaeth i ddilyn.


Atseiniau iaith yr Adfent

Agwedd ddwys ar ysbrydolrwydd tymor yr Adfent yw hiraeth am ddyfodiad Crist fel Meseia. Cawn yn aml fod hiraeth hwn yn cael ei fynegi drwy ddelwau ac iaith yr Hen Destament. Rhennir yr hiraeth hwn a thestun yr Hen Destament gan yr Eglwys a’r bobl Iddewig; a chan fod yr Ysgrythurau ym mhob traddodiad ar unwaith yn hen ac yn fyw, y mae i iaith ysgrythurol bob amser atseiniau cyfoes.

Fel pobl yr Eglwys, yn adleisio iaith y Proffwyd Eseia, yr ydym wedi canu ers tro am ddyfodiad Crist yn datod rhwymau Isräel; yr ydym wedi hen ddisgrifio’r ddinas nefol, ein cyfrchfan fythol y tu hwnt i amser, fel Jerusalem / Caersalem neu Seion. Ond gan nad yw’r iaith grefyddol honno’n perthyn i’r Eglwys yn unig, a chan ei bod yn iaith fyw heddiw, mae’n debyg y byddwn yr Adfent hwn yn clywed atseiniau gwrthdaro ac anghyfiawnderau presennol wrth i ni ganu a gweddïo yn ein ffyrdd traddodiadol ni.

Nid oes dianc rhag yr anghysur hwn. Ar adegau, ni allwn (ac ni ddylem) wneud mwy na pherchnogi yn dyner, yn barchus ac yn fyfyriol ein traddodiad a chyseinedd hen iaith yr Eglwys, tra’n sylwi hefyd ar y tensiynau a achosir wrth i’r un iaith gael ei defnyddio a’i byw, yn deilwng ac yn annheilwng, gan eraill. Wedi’r cwbl, mae natur ymgnawdoledig Crist yn golygu na chawn byth ddechreu dim â dalen wag, or newydd; mae yna bob amser hanes, ac nid yw ein ffydd, ein gobaith a’n cariad ni fyth yn bodoli ar eu pen eu hunain, ond wastad wedi’u cysylltu’n briodol ac yn ddwfn â holl ryfeddod a thrueni creadigaeth Duw.


Y Dolig hwn yng Nghadeirlan Deiniol Sant


Nos Fercher 20 Rhagfyr 2023
Nos Sadwrn 23 Rhagfyr 2023
am 6.00pm

Naw Llith a Charol y Nadolig

Ar drothwy’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio i Fethlehem, gyda darlleniadau traddodiadol a charolau yng ngolau cannwyll yn adrodd hanes genedigaeth Crist.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para ychydig llai nag awr.

Yn sgil poblogrwydd y ddefod y llynedd, rydym yn cynnig ein Naw Llith a Charol y Nadolig ddwywaith eleni, ar 20 a 23 Rhagfyr.


24 Rhagfyr 2023 am 11.00pm

Cymun Canol Nos y Nadolig

Ymunwch â ni ar gyfer ein dathliad cyntaf o’r Nadolig yng ngolau cannwyll yn hwyr ar Noswyl Nadolig, a chôr y Gadeirlan yn arwain y carolau a’r canu.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.


25 Rhagfyr 2023 am 11.00am

Cymun Bendigaid Bore Nadolig

Ymunwch â ni ar gyfer ein Cymun llawen ar fore Nadolig, dan arweinyddiaeth Archesgob Cymru, ac wedi ei ddilyn gan dderbyniad gwin i ddathlu.

Bydd y gwasanaeth dwyieithog hwn yn para tuag awr.


Mae mynediad i’r holl ddefodau hyn yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb. I fod yn siwr o’ch sedd, archebwch eich sedd am ddim arlein, neu rhowch eich enw i’r Stiwardiaid ar 3/10/17 Rhagfyr.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


The Evening Liturgy of Advent

Our Evening Liturgy of Advent Sunday will take place by candlelight at 6.00pm this evening. The Choir will sing the majestic opening movements of Sergei Rachmaninoff’s Vespers, as we, in music, carol, sacred word and prayer, prepare for and ponder the revelatory light of “God with us”.


Cathedral hospitality and Choral Evensong during Advent

It is wonderful during the season of Advent to welcome so many charities and organizations to the Cathedral on weekday and Saturday evenings for carol services and Christmas concerts. We owe a debt of gratitude to colleagues from the Cathedral team who work hard these weeks to move furniture, to be on duty late into the night, and to offer a warm welcome to our visitors.

Such events inevitable have an impact on our weekday schedule of Choral Evensong. Please consult the listings for weekly changes.


Bring and Share Lunch

Our next Bring & Share Lunch will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharist on the Third Sunday of Advent, 17 December.


Mothers’ Union

The next Mothers’ Union meeting will be at Eglwys y Groes on Monday 4 December, at 2.30pm. There will be Advent readings and carols, and refreshments to follow.

The resonances of the language of Advent

The Sub-Dean writes:

A profound aspect of the spirituality of the season of Advent is a longing for the coming of Christ as Messiah. We often find that longing expressed in the images and language of the Old Testament. That longing and those Old Testament texts are shared by the Church and the Jewish people; and because Scripture in every tradition is at once ancient and alive, scriptural language always has a contemporary resonance.

As the Church, echoing the language of the Prophet Isaiah, we have long sung of Christ’s coming as freeing a ransomed Israel; we have long described the heavenly city, our eternal home beyond time, as Jerusalem or Zion. But because that religious language does not belong to the Church alone, and because it lives today, we will doubtless this Advent hear resonances of current conflicts and injustices as we sing and pray in our traditional ways.

There is no getting away from this discomfort. At times, we can (and should) do no more than gently, reverently and reflectively own our tradition and the resonances of the ancient language of the Church, while also noticing the tensions caused as the same language is used and lived, worthily and unworthily, by others. The incarnate nature of Christ, after all, means that we never get to start anything with a blank sheet; there is always history, and our faith, hope and love never exist alone, but are properly and profoundly connected to the whole of the wonder and pity of God’s creation.


This Christmas at Saint Deiniol's Cathedral


Wednesday 20 December 2023
Saturday 23 December 2023
at 6.00pm 

Christmas Nine Lessons & Carols

On the threshold of Christmas, join us as we journey to Bethlehem, with traditional readings and carols by candlelight telling the story of Christ’s birth.

This bilingual service will last a little under an hour.

In light of the popularity of last year’s observance, we are offering our Christmas Nine Lessons & Carols twice this year, on 20 and 23 December.


24 December 2023 at 11.00pm

Midnight Mass

Join us for our first celebration of Christmas, by candlelight, late on Christmas Eve, with the Cathedral Choir leading the carols and music.

This bilingual service will last about an hour.


25 December 2023 at 11.00am

The Holy Eucharist of Christmas Morning

Join us for our joyful Communion on Christmas morning, led by the Archbishop of Wales, and followed by a celebratory drinks reception.

This bilingual service will last about an hour.


Entrance is free at all of these observances, and all are welcome. To be sure of a seat, reserve your seat for free online, or give your name to one of the Stewards on 3/10/17 December.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.