minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Coffáu Ei Diweddar Fawrhydi’r Frenhines Elisabeth II

Mae gan y Gadeirlan rôl bwysig yn ystod y cyfnod hwn o Alaru Cenedlaethol wrth gefnogi ein cymunedau, ein dinas a’n siroedd i goffáu Ei Diweddar Fawrhydi ac i nodi’r teyrnasiad newydd,

Mae drysau’r Gadeirlan wedi bod ar agor yn hirach nag arfer y dyddiau diwethaf hyn, ac mae llawer wedi dod i arwyddo’r Llyfrau Coffa ac i oleuo canhwyllau. Rydym yn ddiolchgar i bawb y bu eu hymdrechion yn fodd i ddathlu Cymun Dros y Meirw dros Ei Diweddar Fawrhydi ar nos Wener, lle y canodd y Côr osodiad Fauré o’r Requiem.

Cynhelir Gwasanaeth Coffa swyddogol y Sir a’r Esgobaeth, lle bydd Ei Fawrhydi’r Brenin yn cael ei gynrychioli gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi dros Wynedd, yma ddydd Sul nesaf 18 Medi, am 4.30pm. I fod yn sicr o sedd, cofrestrwch yma.

Y Sul hwn, bydd yr Archesgob yn arwain gweddïau yn y Choral Holy Eucharist, cyn gadael i gymryd rhan yn Seremoni’r Cyhoeddi yng Nghastell Caernarfon y prynhawn yma; a bydd camerâu ITV yn bresennol i recordio rhannau o’r gwasanaeth. Bydd yr Esgob yn arwain gweddïau yn y Gosber heno.


Gwaith ein tîm clywedol yng Nghadeirlan Guildford

System glywedol

Mae’r gwaith i osod system glywedol newydd yn y Gadeirlan bron â’i orffen, a chawn fendithio’r offer newydd yr wythnos nesaf.Eglwys y Groes

Rydym yn falch iawn bod gwasanaeth canol wythnos yn ailddechrau yn Eglwys y Groes am 2 o’r gloch bob dydd Iau.


Cyfarfod Cynulleidfaol

Cynhelir Cyfarfodydd Cynulleidfaol yn y Gadeirlan am 6.30pm, ar ôl Gosber (am 5.30pm) ar y dyddiau canlynol: 29 Medi, 8 Rhagfyr.


Cylchu Cymru

Mae’r Doethur Gareth Evans-Jones, Darlithydd mewn Diwinyddiaeth yn y Brifysgol a ffrind i’r Gadeirlan, yn lansio ei lyfr diweddaraf yn croniclo ei bererindod o amgylch arfordir Cymru, yn Pontio nos Iau yma 15 Medi am 7pm. Mae croeso i bawb.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

15 Medi | Martin Brown | Organ

Mae Martin Brown, Organydd y Gadeirlan, yn dathlu dychweliad organ y Gadeirlan ar ôl gwaith atgyweirio hanfodol dros fisoedd yr haf.


Camau Bach

Ar ddydd Mawrth 20 Medi byddwn yn lansio grŵp plant bach wythnosol newydd yma yn y Gadeirlan, o’r enw Camau Bach. I’w gynnal o 9am hyd 10.30am bydd y grŵp yn rhoi lle i rieni a gofalwyr sydd â phlant cyn oed ysgol gyfle i eistedd, sgwrsio a mwynhau paned gydag eraill. Bydd yr Ymwelwyr Iechyd lleol yn ymuno â ni bob wythnos i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r rhieni. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm gwirfoddoli Camau Bach, yn helpu i wneud paneidiau o de ac i sgwrsio â rhieni a gofalwyr, ytn wythnosol neu’n ar rota llai aml na hynny, siaradwch â Naomi Wood.


Buchedd Bangor

Pedwerydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r fisoedd yr haf. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


Commemorating Her Late Majesty Queen Elizabeth II

The Cathedral has an important role during this period of National Mourning in supporting our communities, our city and our counties to commemorate Her Late Majesty and to mark the new reign.

The Cathedral’s doors have been open for longer than usual these past few days, and many have come to sign the Commemoration Books and the light candles. We are grateful to all whose efforts enabled up to celebrate a Requiem Eucharist for Her Late Majesty on Friday evening, at which the Choir sang Fauré’s setting.

The official County & Diocesan Memorial Service, at which His Majesty The King will be represented by His Majesty’s Lord-Lieutenant for Gwynedd, will take place here next Sunday 18 September, at 4.30pm. To be sure of a seat, please book here.

This Sunday, the Archbishop will lead prayers at the Choral Holy Eucharist, before leaving to participate in the Proclamation Ceremony at Caernarfon Castle this afternoon; and ITV cameras will be present to record parts of the service. The Bishop will lead prayers at Evensong this evening.


Our AV system partner's work elsewhere

Audio-visual system

The work to install a new audio-visual system in the Cathedral is almost finished, and we will bless the new equipment next week.Eglwys y Groes

We are delighted that a mid-week service recommences at Eglwys y Groes at 2pm every Thursday.


Congregational Meetings

Congregational Meetings will take place in the Cathedral at 6.30pm, after Evensong (at 5.30pm) on the following days: 29 September, 8 December.


Cylchu Cymru

Dr Gareth Evans-Jones, a Lecturer in Theology at the University and a friend of the Cathedral, is launching his newest book chronicling his pilgrimage around the Welsh coastline, in Pontio this Thursday 15 September at 7pm. All are welcome.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

15 September | Martin Brown | Organ

Martin Brown, our Organist, celebrates the return of the Cathedral organ to full strength following some essential repair work over the summer months.


Camau Bach

On Tuesday 20 September we will be launching a new weekly toddler group here at the Cathedral, called Camau Bach (Baby Steps). Running from 9am until 10.30am, the group will provide parents and carers with pre-school aged children a space to sit, chat and enjoy a cuppa alongside others. The local Health Visitors will be joining us each week to offer support and advice for the parents. If you would like to be a part of the Camau Bach volunteer team, helping make cups of tea and chatting with the parents and carers, either on a weekly or more occasional basis, please speak to Naomi Wood.


Buchedd Bangor

The fourth edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This fourth edition is a companion to the summer months. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.