minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Addoliad nos Fawrth yn ystod Pererindod y Côr i Rufain yn Eglwys San Clemente • Tuesday evening’s worship during the Choir Pilgrimage to Rome at the Basilica of San Clemente
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Sul Gwaddol Ganol Haf

Dydd Sul 25 Mehefin fydd ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn y Gadeirlan. Bydd yn gyfle i ddathlu ein bywyd ar y cyd, i nodi diwedd ein blwyddyn gorawl wrth i ni ffarwelio â rhai o’n Coryddion ac Ysgolheigion y Gân, i godi arian ar gyfer Ambiwlans Ioan Sant Cymru yn ystod eu penwythnos codi arian cenedlaethol, ac i lansio urdd Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant fel cymuned o’r rhai o bell ac agos sydd am gefnogi bywyd, cerddoriaeth a thystiolaethu’r Gadeirlan.

Yn ogystal â’n Cymun Bendigaid rheolaidd ar fore Sul, cynhelir cinio bwffe yng Ngardd y Deondy, dan ofal yr Is-Ddeon, a gwahoddir pawb yn gynnes iawn i’w fynychu.

Am 2.00pm, bydd Harry Sullivan, Ysgolhaig yr Organ, yn canu’r organ yn ei ddatganiad olaf cyn iddo ymadael â’r Gadeirlan. Bydd ei ddatganiad yn cynnwys gweithiau ar gyfer yr organ wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth cerddorfaol, gan gynnwys Rhagarweiniad, Passacaglia a Ffiwg gan Healey Willan.

Gyda’r hwyr, am 6.00pm, bydd ein Cyngerdd Dewch i Ganu Ganol Haf yn gyfle i leisiau ychwanegol ymuno â Chôr y Gadeirlan i ganu Gloria Vivaldi, a Rejoice in the Lamb gan Britten. Dylai cantorion sydd am ymuno â’r Côr ymuno â’r ymarfer yn y Gadeirlan am 3.00pm; darperir sgorau o’r gerddoriaeth, gyda ffi canu’n £10. Mae mynediad i’r Cyngerdd Dewch i Ganu Ganol Haf yn £5, gyda phlant am ddim. Dilynir y cyngerdd gan Dderbyniad Gwin i gantorion a’r gynulleidfa yng Ngardd y Deondy.

Gwnewch nodyn o’n Sul Gwaddol Ganol Haf yn eich dyddiadur, ac ymestymwch y gwahoddiad i ffrindiau a chymdogion i ymuno â ni am ddiwrnod hapus.


Pererindod i Rufain

Mae ein Hysgolheigion y Gân wedi dychwelyd i Fangor yn dilyn pererindod lwyddiannus a bendithiol i Rufain yr wythnos ddiwethaf. Gwelodd y bererindod ni’n addoli yn eglwysi Anglicanaidd Rhufain ac mewn dwy o eglwysi Catholig hynaf y ddinas – a braf oedd clywed cymysgedd o destunau Lladin, Saesneg a Chymraeg yn cael eu canu gan yr Ysgolheigion yn y mannau prydferth a sanctaidd hyn. Ceir adroddiad llawnach yn y rhifyn sydd i ddod o Fuchedd Bangor.


Cyn...
...a wedyn

Gwaith cadwraeth

Rydym wrth ein bodd hefo’r llusernau newydd uwchben Drysau Cadfan a Seiriol y Gadeirlan, wedi’u dylunio a’u gofannu i olynnu’r hen lusernau oedd wedi rhydu y tu hwnt i fedru eu hatgyweirio. 

Mae arwynebau mewnol drysau’r Gadeirlan hefyd wedi’u caboli’n ofalus yr wythnos hon.

Maent yn ffurfio camau olaf ein rhaglen gadwraeth 2022/2023 fu’n canolbwyntio ar waith maen a drysau’r Gadeirlan.


Cyfarfod Cynulledifaol

Cynhelir ein Cyfarfod Cynulleidfaol nesaf, gyda ffocws ar gyllid y Gadeirlan, nos Iau 6 Gorffennaf am 6.30pm.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Mid-Summer Foundation Sunday

Sunday 25 June will be our Mid-Summer Foundation Sunday at the Cathedral. It will be an opportunity to celebrate our Cathedral life, to mark the end of our choral year as we say farewell to some of our Choristers and Choral Scholars, to raise money for St John Ambulance Cymru during their national fundraising weekend, and to launch the Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral as a community of those far and wide who want to support the life, music and witness of the Cathedral.

In addition to our regular Sunday morning Eucharists, a buffet lunch will be held in the Deanery Garden, hosted by the Sub-Dean, to which all are invited.

At 2.00pm, Harry Sullivan, our Organ Scholar, will give his final organ recital at the Cathedral. The recital will focus on orchestrally-inspired works for organ, including Healey Willan’s Introduction, Passacaglia and Fugue.

In the evening, at 6.00pm, our Midsummer Come & Sing Concert will be an opportunity for additional voices to join our Cathedral Choir to sing Vivaldi’s Gloria and Britten’s Rejoice in the Lamb. Singers wanting to join the chorus should join the rehearsal in the Cathedral at 3.00pm; scores of the music will be provided, with a singer’s fee of £10. Admission to the Midsummer Come & Sing Concert is £5, with children for free. The concert will be followed by a Drinks Reception for singers and the audience in the Deanery Garden.

Please make a note of our Mid-Summer Foundation Sunday in your diary, and please consider inviting friends to join us for what will be a happy day.


Pilgrimage to Rome

Our Choral Scholars have returned to Bangor following a successful and blessed pilgrimage to Rome this past week. The pilgrimage saw us worshipping in Rome’s Anglican churches and in two of the oldest Catholic churches in the city – and it was wonderful to hear a mixture of Latin, English and Welsh texts sung by the Scholars in these beautiful and holy places. A fuller report can be found in the forthcoming issue of Buchedd Bangor.


Before...
...and after

Conservation works

We’re very pleased with the new lanterns above the Cadfan and Seiriol Doors of the Cathedral, designed and forged to replicate the old lanterns which had rusted beyond repair. 

The interior surfaces of the Cathedral’s doors have also been lovingly polished this week.

These form the final stages of our 2022/2023 programme of conservation works to the Cathedral’s masonry and doorways.


Congregational Meeting

Our next Congregational Meeting, with a focus on Cathedral finances, takes place on Thursday 6 July at 6.30pm.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.