minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Hysbys wythnosol


Gosber ar Gân

Rydym yn falch iawn y byddwn, o ddydd Sul nesaf 31 Hydref, Gŵyl yr Holl Saint, yn ailgychwyn offrymu Gosber ar Gân er gogoniant i Dduw bob dydd Sul am 3.30pm. Mae’n deyrnged i ymdrechion y Côr, a’n Cyfarwyddwr Cerdd a’i gydweithwyr, ein bod yn gallu ail-ddechrau mor fuan. 

Bydd Gosber ar Gân yn cael ei offrymu yn seddau’r Cwîr a’r Seintwar, a bydd yn dilyn ffurf hynafol a chyfarwydd y oedfa honno, gyda’r darlleniadau, yr anthemau a’r gweddïau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Cefnogwch y gwasanaethau hyn gyda’ch presenoldeb, a dewch â ffrindiau gyda chi i rannu yn yr addoli cyfoethog hyn.


Cyflwyno’r Wenwisg i Goryddion a Sefydlu Ysgolheigion y Gân

Yn ystod y Cymun Bendigaid ar Gân a’r Choral Holy Eucharist ddydd Sul nesaf 31 Hydref, Gŵyl yr Holl Saint, bydd Coryddion iau sydd wedi ymuno â’r Côr yn ddiweddar yn derbyn eu Gwenwisg yn ffurfiol, a bydd ein deg Ysgolhaig y Gân newydd yn cael eu sefydlu yn eu hysgoloriaethau. Cadwch weinidogaeth y Côr, a’i aelodau newydd yn arbennig, yn eich gweddïau.


Ras

Mae Hanner Marathon Bangor yn cael ei gynnal ddydd Sul nesaf 31 Hydref, Gŵyl yr Holl Saint. Mae llwybr y ras yn pasio’r Gadeirlan, ac er nad oes unrhyw ffyrdd yn cau, mae’r trefnwyr am inni fod yn ymwybodol o’r ffaith y bydd rhedwyr ar hyd y llwybr rhwng tua 10am ac 11.30am.


Bedydd Esgob

Bydd yr Esgob yn gweinidogaethu Bedydd Esgob yng Ngwylnos y Pasg a Chymun Cyntaf y Pasg, i’w ddathlu yn y Gadeirlan am 8pm ddydd Sadwrn 16 Ebrill 2022. 

Mae Bedydd Esgob yn gam ar ein pererindod bersonol o ffydd, gobaith a chariad. Mae’n nodi ymrwymiad ar ein rhan ni, a amlygir drwy’r astudio, y gweddïo a’r ymddiddan y mae ymgeiswyr yn eu profi fel paratoad ar gyfer Bedydd Esgob. Ond, y tu hwnt i’n hymdrechion ein hunain, mae Bedydd Esgob hefyd yn sicrwydd sacramentaidd bod Duw wedi ein galw yn ôl henw, ac yn eneiniad arnom o ddoethineb, grym a gwybodaeth yr Ysbryd Glân. 

Bydd y gwaith o baratoi ymgeiswyr ar gyfer Bedydd Esgob yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd. Os hoffech chi archwilio’r posibilrwydd o gael eich Cadarnhau drwy Fedydd Esgob, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Defodau mis Tachwedd

  • Rhowch y Cymun Bendigaid ar Gân Dros y Meirw, am 5.30pm ddydd Iau 4 Tachwedd, pan fyddwn yn cadw Coffadwriaeth yr Holl Eneidiau, yn eich dyddiaduron. Caiff y Cymun ei gynnig dros yr holl ffyddloniaid ymadawedig; ond bydd unigolion yn cael eu cofio yn ôl eu henw yn ystod yr ymbiliau. Ychwanegwch enwau at y rhestr yng nghefn Corff yr Eglwys neu arlein yma.
  • Sylwch hefyd, ar Sul y Cofio 14 Tachwedd, bod ein gwasanaethau Cymun corawl yn cael eu disodli gan Wasanaeth Coffa am 10am, a fydd yn diweddu wrth y Gofeb.

O’r Adfent hyd Gŵyl Fair y Canhwyllau

Ar Ŵyl Crist y Brenin, byddwn yn cyhoeddi rhifyn cyntaf ein cylchgrawn, Buchedd Bangor. Bydd yn cynnwys manylion llawn y dyefodau i’w hoffrymu a’u dathlu o Sul yr Adfent (28 Tachwedd) hyd Ŵyl Fair y Canhwyllau (30 Ionawr).

Yn y cyfamser, gwnewch nodyn o’r dair defod yng ngolau cannwyll a gynhelir ar nosweithiau Sul yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd Gosber ar Gân yn cael ei offrymu ar y Suliau hyn.

Defod y Goleuni

Llithoedd a Charolau’r Adfent
yng Ngolau Cannwyll
28 Tachwedd am 5.30pm

Defod Gobaith

Llithoedd a Charolau’r Nadolig
yng Ngolau Cannwyll
19 Rhagfyr am 5.30pm

Defod Sancteiddrwydd

Llithoedd a Charolau’r Ystwyll
yng Ngolau Cannwyll
9 Ionawr am 5.30pm


Goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau

Yn anffodus, mae trafferthion cyflenwi wedi’n gorfodi i ohirio dechrau’r gwaith i adnewyddu’r goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau, gan osod gwifrau newydd. Ein gobaith yw y gall y gwaith ddechrau yn ystod ail wythnos mis Tachwedd.


Plant a theuluoedd ifanc

Ceir gweithgareddau a chrefftau yn ystod y Cymun Bendigaid ar Gân bob dydd Sul yng Nghapel Mair, ar gyfer unrhyw blant hyd at 11 oed. Mae ein Gweinidog Teulu i ffwrdd y Sul hwn, felly nid oes staff yng Nghapel Mair fel y byddai fel arfer. Fodd bynnag, mae adnoddau ar gyfer plant a theuluoedd ifanc yno – felly gwnewch ddefnydd o’r gofod yn ôl eich dymuniad. Os gallwch chi helpu fel aelod o’r Tîm Gweinidogaeth Teulu yn y Gadeirlan, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Llyfryn Hydref 2021

Mynnwch gopi o’r llyfryn Hydref 2021, sy’n cynnwys llythyr oddi wrth yr Is-Ddeon, cynlluniau am y misoedd nesaf, apeliadau am gymorth, ac amlinelliad o’n defodau tan Ŵyl Crist y Brenin.


Ar y Sul

Mae'n patrwm addoli yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar y Sul fel a ganlyn:

  • dathliad o’r Holy Eucharist am 8.15am (oedfa Saesneg)
  • dathliad o’r Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am (yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Gymraeg)
  • dathliad o’r Choral Holy Eucharist am 11am (eto, yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Saesneg)
  • offrymiad o’r Gosber ar Gân | Choral Evensong am 3.30pm (yn draddodiadol, yn ddirdynnol ac yn gerddorol yn Seddi'r Cwîr a'r Seintwar; oedfa ddwyieithog).

Caiff paned ei weini rhwng y Cymun 9.15am ac 11am – gyda gwahoddiad i aros ar ôl y Cymun 9.15am, neu ddod yn gynnar ar gyfer y Cymun 11am; bydd diodydd oer yn cael eu gweini ar ôl y Cymun 11am.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Atgyweirio hanfodol

Dros y misoedd i ddod, rydym yn wynebu costau atgyweirio sylweddol iawn. 

Bydd angen i ni wario £22,000 ar waith iechyd a diogelwch brys – disodli rhai gwifrau trydanol hynafol, gosod mân daclau golau newydd, a diogelu’r adeilad gyda system canfod tân. 

Bydd angen i ni hefyd wario £18,000 ychwanegol ar waith strwythurol a gwaith adfer – gan atal treiddiad dŵr niweidiol pellach yn Nhŵr Skeffington a Thŵr Scott, ailaddurno wal yr eil ddeheuol, ac ail-baentio wynebau’r cloc a drysau’r Gadeirlan. 

Bydd yr atgyweiriadau hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer prosiect mwy i warchod ac adnewyddu Cadeirlan Deiniol Sant wrth inni baratoi i dathlu ein penblwydd yn fileniwm a hanner maes o law. 

Os gallwch chi helpu gyda rhodd arbennig, waeth pa mor fawr neu fach, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Weekley notices


Choral Evensong

We are delighted that, from next Sunday 31 October, the Feast of All Saints, we will recommence the offering of Evensong to God’s glory every Sunday at 3.30pm. It is a tribute to the efforts of the Choir, and of our Director of Music and his colleagues, that we are able to recommence this offering. 

Choral Evensong will be offered in the Quire and Presbytery stalls, and will follow the ancient and familiar form of the Office, with the readings, anthems and prayers offered bilingually. Please support these services with your presence, and bring friends along to share in this enriching act of worship.


Presentation of Chorister Surplices and Induction of Choral Scholars

During the Cymun Bendigaid ar Gân and the Choral Holy Eucharist next Sunday 31 October, the Feast of All Saints, Choristers who have recently joined the Choir will formally be presented with the Surplices, and our ten new Choral Scholars will be inducted into their scholarships. Please keep the ministry of the Choir, and of its new members in particular, in your prayers.


Runners

The Bangor Half Marathon is taking place next Sunday 31 October, the Feast of All Saints. The route passes the Cathedral, and though there are no road closures, the organizers have wanted us to be aware of the fact that there will be runners along the route from about 10am to 11.30am.


Confirmation

The Bishop will minister Confirmation at the Easter Vigil and First Eucharist of Easter, to be celebrated at the Cathedral at 8pm on Saturday 16 April 2022. 

Confirmation is a step along our personal pilgrimage of faith, hope and love. It marks a commitment on our part, made manifest in the study, prayer and conversation that candidates for Confirmation undertake as preparation for their Confirmation. But, beyond our own efforts, Confirmation is also a sacramental assurance that God has called us by name, and an invocation upon us of the wisdom, power and knowledge of the Holy Spirit. 

The preparation of candidates for Confirmation will commence in the New Year. If you would like to explore the possibility of being Confirmed, please speak to a member of the Cathedral team.


Observances in November

  • Please place the Choral Holy Eucharist of Requiem, at 5.30pm on Thursday 4 November, when we will be keeping the Commemoration of All Souls, in your diaries. The Eucharist will be offered for all the faithful departed; but individuals will be remembered by name during the intercessions. Please add names to the list at the back of the Nave or online here.
  • Please also note that, on Remembrance Sunday 14 November, our choral Eucharist services are replaced by a 10am Service of Remembrance, which will conclude at the War Memorial.

Advent to Candlemas

On the Feast of Christ the King, we will be publishing the first edition of our magazine, Buchedd Bangor. It will contain full details of observances from Advent Sunday (28 November) to Candlemas (30 January).

In the meantime, please make a note of the three Sunday evening candle-lit ceremonies that will take place during this period. Choral Evensong will not be offered on these Sundays.

A Ceremony of Light

Advent Lessons and Carols
by Candlelight
28 November at 5.30pm

A Ceremony of Hope

Christmas Lessons and Carols
by Candlelight
19 December at 5.30pm

A Ceremony of Holiness

Epiphany Lessons and Carols
by Candlelight
9 January at 5.30pm


Lighting in the Nave and Aisles

Unfortunately, supply-chain issues mean that we have been forced to delay the start of works to replace the light fittings in the Nave and the Aisles, supported by new wiring. Our hope is that these works can now commence during the second week of November.


Children and young families

Our aim is to offer activities and crafts during the Choral Holy Eucharist every Sunday in the Lady Chapel, for any children up to the age of 11. Our Family Minister is away this Sunday, so the Lady Chapel is not staffed as it usually would be. However, there are resources for children and young families there – so please make use of the space as you wish. If you are able to help as a member of the Family Ministry Team at the Cathedral, please speak to a member of the Cathedral team.


Autumn 2021 booklet

Be sure to get a copy of the Autumn 2021 booklet, which includes a letter from the Sub-Dean, plans for the coming months, appeals for help, and an outline of our observances until the Feast of Christ the King.


On Sundays

Our pattern of worship at Saint Deiniol’s Cathedral consists of:

  • a celebration of the Holy Eucharist at 8.15am (quietly in the Presbytery; an English-language service)
  • a celebration of the Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am (joyfully, colourfully and musically in the Nave; a Welsh-language service)
  • a celebration of the Choral Holy Eucharist at 11am (again, joyfully, colourfully and musically in the Nave; an English-language service)
  • an offering of Gosber ar Gân | Choral Evensong at 3.30pm (traditionally, atmospherically and musically in the Quire & Presbytery Stalls; a bilingual service)

Coffee and tea are served between the 9.15am and 11am Eucharist – please stay after the 9.15am Eucharist, or come early for the 11am Eucharist; a drinks reception follows the 11am Eucharist.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Vital repairs

Over the months ahead, we’re facing very substantial repair costs. 

We will need to spend £22,000 on urgent health and safety work – replacing some ancient electrical wiring, installing new light fittings, and protecting the building with a fire detection system. 

We will also need to spend another £18,000 on structural and restoration work – preventing further damaging water penetration in the Skeffington Tower and the Scott Tower, redecorating the south aisle wall, and repainting the clock faces and the Cathedral doors. 

These repairs will pave the way for a bigger project to conserve and recondition Saint Deiniol’s Cathedral as we prepare to celebrate our millennium and a half anniversary. 

If you are able to help with a special donation, no matter how large or small, please speak to a member of the Cathedral team.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.