minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Ffilmio rhaglen Dydd y Pasg Dechrau Canu Dechrau Canmol ddydd Sadwrn | Filming the Easter Day episode of Dechrau Canu Dechrau Canmol
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dechrau Canu Dechrau Canmol

Cafodd Côr y Gadeirlan ddiwrnod hir ddydd Sadwrn, yn cyfrannu at y recordiad o raglen Sul y Pasg Dechrau Canu Dechrau Canmol. Rydym yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled.


Dewch i Ganu

Ddydd Sadwrn nesaf cynhelir ein diwrnod Dewch i Ganu Croeshoeliad Stainer yn y Gadeirlan. Ceir manylion yn Buchedd Bangor.


Urddwisgoedd a bendithion Laetare

Yn ystod dau dymor dwys blwyddyn yr Eglwys, yr Adfent a’r Grawys, mae dydd Sul tua canol y tymor yn cael ei neilltuo ar gyfer rhywfaint o “adfywiad”, gyda’r litwrgi ychydig yn llai llym na’r arfer. 

Mae’n draddodiadol i’r urddwisgoedd ar y Suliau hynny, trydydd yr Adfent (Gaudete) a’r bedwaredd Garawys (Laetare), fod o liw rhosyn, yn lle’r fioled ddyfnach arferol, ac mae urddwisgoedd o liw rhosyn newydd yn cael eu gwisgo gan y gweinidogion heddiw yn y Cymun Bendigaid ar Gân a’r Choral Holy Eucharist. 

Ar Bedwerydd Sul y Grawys, rydym hefyd yn bendithio ac yn dosbarthu blodau fel arwydd o’r cariad cynhaliol a gawn gan deulu a ffrindiau, a bendithiwn a rhannwn deisen Rawys – melyster olaf cyn difrifwch yr wythnosau diwethaf a dyfodiad Dioddefaint Crist.

Dad nefol, edmygodd dy Fab Iesu Grist flodau’r maes a’n dysgu i’w hefelychu trwy ymddiried yn dy gariad. Bendithia’r blodau hyn. Derbyn hwy’n bersawr melys, a llanw galonnau’r rhai sy’n eu derbyn â’th gariad diderfyn. Caniatâ hyn er mwyn yr un Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Dad nefol, dy Fab lesu Grist a gymerodd dorthau haidd a physgod, gan borthi’r tyrfaoedd, cymaint ag a fynnent. Bendithia’r deisen Rawys hon, fel y byddo’n arwydd i ni o’r cariad a’r gofal a gawsom gan ein mamau daearol, trwyddynt y rhoddaist i ni fywyd; o gariad a gofal Sacramentau’r Eglwys trwy ba rai y cawn ein haileni a’n meithrin yng Nghrist; a’r cariad a’r gofal a gawn yn fythol ym Mair Mam Duw, sy’n gweddïo drosom â chariad mynwesol. Caniatâ hyn er mwyn yr un Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.

Llyfrau’r Grawys

Mae’r Grawys yn gyfnod i astudio a myfyrio. Mae’n amser da felly i ail-lansio gwerthiant llyfrau yn y Gadeirlan, gan ein hannog ni i gyd i godi llyfr a neilltuo peth amser i ddarllen a gweddïo. Mae pedwar llyfr gan awduron lleol a rhyngwladol, a ddewiswyd ar gyfer y cyfnod hwn, mewn stoc.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

Athro’r Beibl Hebraeg a Chrefydd Hynafol ym Mhrifysgol Caerwysg yn archwilio sylwedd Duw – ei gorff o’i goryn i’w sawdl. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

Canon Trigiannol Cadeirlan Aberhonddu yn ein gwahodd i gerdded gydag ef yn yr Appalachiaid, Norwy, Gwlad yr Iâ, yr Alpau a mynyddoedd Cymru wrth iddo fyfyrio ar hanes, llên gwerin, barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

On o’n meddylwyr a’n hawduron pwysicaf yn rhannu portreadau eang o bobl drwy gydol hanes sydd wedi ceisio atebion yn y tywyllwch – llyfr ar gyfer ein dyddiau ni. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

Y bardd (a’n pregethwr ar Sul y Dioddefaint) yn ymuno a’r artist i roi cipolwg i ni o sut y gwelsant y byd yng nghysgod Cofid a Brexit. £12.50


Y diweddar Tra Pharchg Trevor Evans | The late Very Revd Trevor Evans

Darlithoedd cyhoeddus

Mae’n bleser gennym lansio pedair darlith gyhoeddus flynyddol newydd am y tro cyntaf eleni, pob un ohonynt yn cael eu cynnal er cof am ffigurau pwysig o fywyd y Gadeirlan a’r esgobaeth. Mae pob un o’r darlithoedd yn dechrau am 6.30pm, gyda Gosber ar Gân o’i flaen am 5.30pm a derbyniad gwin o 6pm.

5 Mai
Darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru

Yr Athro Richard Wyn Jones
Pam fod Llafur yn ennill eto ac eto ac eto? Deall canrif o lwyddiant etholiadol yng Nghymru

19 Mai
Darlith Goffa y Tra Pharchg Trevor Evans ar Genhadaeth ac Efengylu

Y Parchg Ganon Mark Clavier
Anglicaniaid bwriadol, nid Anglicaniaid hap a damwain: Yr hyn y gall Anglicaniaid byd-eang ei ddysgu inni am weinidogaeth a chenhadaeth

13 Hydref
Darlith Goffa y Parchg Ddr Margaret Thrall ar Ddiwinyddiaeth a’i Arfer

Y Parchg Jarel Robinson Brown
O Calchedon i Minneapolis: Crist a’r corff Du anghaffaeladwy

27 Hydref
Darlith Goffa y Gwir Barchg Anthony Crockett ar Eglwysoleg a Hanes yr Eglwys

Canon Janet Gough
Beth yw’r ots gennyf i am y Fictoriaid? George Gilbert Scott a phensaernïaeth eglwysig Fictoraidd


Datganiadau Paned

11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

31 Mawrth | Samuel Teague | Tenor
Yn gyn Ysgolhaig Corawl yn y Gadeirlan ac yn Glerc Lleyg presennol yn Rhydychen, rydym yn croesawu Samuel Taegue yn ôl i’r Gadeirlan.


Clas

Fforwm Zoom a, 6.30pm i ddysgu, trafod a myfyrio.

4 Ebrill
Rhagflas o ddefodau’r Wythnos Fawr a’r Tridiau Sanctaidd

Buchedd Bangor

Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


Dechrau Canu Dechrau Canmol

The Cathedral Choir has a long day on Saturday, contributing to the recording of the Easter Day episode of S4C’s Dechrau Canu Dechrau Canmol. We’re grateful to them for their hard work.


Come and Sing

Next Saturday sees our Come and Sing Stainer’s Crucifixion day held at the Cathedral. There are full details in Buchedd Bangor.


Laetare vestments and blessings

During the two solemn seasons of the Church’s year, Advent and Lent, on Sunday near the middle of the season is set aside for some “refreshment”, with the liturgy a little less austere. 

It is traditional for the vestments on those Sundays, the third of Advent (Gaudete) and the fourth of Lent (Laetare), to be of a rose colour, instead of the usual deeper violet, and new rose vestments are worn by the ministers today at the Cymun Bendigaid ar Gân and the Choral Holy Eucharist. 

On this, the Fourth Sunday of Lent, we also bless and distribute flowers as a sign of the sustaining love we receive from family and friends, and we bless and share simnel cake – a last taste of sweetness before the solemnity of the last few weeks of Lent and the coming of Christ’s Passion.

Heavenly Father, your Son Jesus Christ admired the flowers of the field and taught us to imitate them by trusting in your love. Bless these flowers. Accept them as a sweet fragrance, and fill the hearts of those who receive them with your love. Grant this for the sake of the same, even Jesus Christ our Saviour. Amen.
Heavenly Father, your Son Jesus Christ took loaves and fish, and fed the crowds, as much as they wanted. Bless this simnel cake, that it may be a sign to us of the love and care that we have received from our earthly mothers through whom you gave us life; the love and care that we receive from the Sacraments of the Church by which we are reborn and nurtured in Christ; and the love and care that is ours in Mary the Mother of God, who prays for us with a tender, endless love. Grant this for the sake of the same, even Jesus Christ our Saviour. Amen.

Lent books

Lent is a time for study and reflection. It’s therefore a good time to relaunch the sale of books at the Cathedral, encouraging us all to pick up a book and put aside some time to read and pray. Four books by local and international authors, chosen for this time, are in stock.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

The Professor of Hebrew Bible & Ancient Religion at the University of Exeter explores the substance of God – Yahweh’s body, from top to bottom. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

The Canon Residentiary of Brecon Cathedral invites us to walk with him in the Appalachians, Norway, Iceland, the Alps and around Wales as he reflects on history, folklore, poetry, philosophy and theology. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

One of our most important thinkers and writers share wide-ranging portraits of people throughout history who have sought answers in dark times – a book for our times today. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

A poet (and our preacher on Passion Sunday) teams up with an artist to give us a glimpse of how they saw the world in the shadow of Covid and Brexit. £12.50


Y Parchg Ganon | The Revd Canon Mark Clavier

Public lectures

We’re delighted to be hosting four new annual public lectures for the first time this year, each of them held in memory of impoertant figures from the life of the Catherdral and the diocese. 

Each of the lectures begins at 6.30pm, preceded by Choral Evensong at 5.30pm and a wine reception from 6pm.

5 May
The Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History and Culture

Professor Richard Wyn Jones
Why does Labour win again and again and again? Understanding a century of electoral success in Wales

19 May
The Very Revd Trevor Evans Memorial Lecture in Mission and Evangelism

The Revd Canon Mark Clavier
Anglicans by intention rather than by accident: What global Anglicans can teach us about ministry and mission

13 October
The Revd Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology and Praxis

The Revd Jarel Robinson Brown
From Chalcedon to Minneapolis: Christ and the elusive Black body

27 October
The Rt Revd Anthony Crockett Memorial Lecture in Ecclesiology and Church History

Canon Janet Gough
What have the Victorians ever done for us? George Gilbert Scott and Victorian church architecture


Coffee-break Recitals

11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

31 Mawrth | Samuel Teague | Tenor
A former Choral Scholar at the Cathedral and current Lay Clerk in Oxford, we welcome Samuel Taegue back to the Cathedral.


Clas

A fortnightly Zoom forum at 6.30pm to learn, discourse and reflect.

4 April
A preview of Holy Week and the Sacred Triduum


Buchedd Bangor

The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.