minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Edrych yn ôl o Bont Menai ar y cymal cyntaf o lwybr pererindod newydd i'r Gadeirlan | Looking back from the Menai Bridge on the first leg of a new pilgrim's path to the Cathedral
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Bu'n wych cael Iestyn gyda ni ar brofiad gwaith yr wythnos hon. Penllanw’r wythnos oedd taith arbrofol ar ein llwybr pererinion newydd o’r siambr gladdu ym Mryn Celli Ddu ar Ynys Môn ar hyd llwybr yr arfordir, gan orffen yn y Gadeirlan. Cawn fwy o newyddion am y llwybr pererinion maes o law! Diolch i Iestyn am ei gwmni a’i dywysu.


Cantorion ar daith

Mae’n bleser gennym groesawu’r St Christopher Chorale i ganu yn y Choral Holy Eucharist ac yn y Gosber ar Gân heddiw. Da i ni yw cael cwmni cantorion ar daith dros fisoedd yr haf, a braf yw eu croesawu i ganol patrwm ein bywyd litwrgaidd yma yn y Gadeirlan.


Cinio Dewch a Rhannu

Cynhelir ein Cinio Dewch a Rhannu nesaf am 12.15pm, yn dilyn y Choral Holy Eucharist, ar Ddygwyl Fair yn Awst, Dydd Sul 13 Awst. Mae’n Cinio Dewch a Rhannu yn gyfle am sgwrs, difyrrwch, croeso a charedigrwydd. Gwahoddir pawb; ac os hoffech awgrymiadau am fwyd i’w ddwyn, siaradwch â Canon Jane Coutts.


Addoliad yn ystod yr wythnos dros fisoedd yr haf

Wrth galon ein haddoliad yn ystod yr wythnos yma yn y Gadeirlan ac yn Eglwys y Groes y mae dathlu’r CYmun. Dethlir y Cymun yn ddyddiol yn y Gadeirlan am 12.30pm, bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn; ac yn wythnosol yn Eglwys y Groes, ar ddydd Iau am 2.00pm.

Mae’r offrwm o weddi a mawl yn y Gosber ar Gân yn rhan bwysig arall o fywyd addolgar y Gadeirlan. Yn ystod misoedd yr haf, tra bod ein lluoedd corawl yn lleihau, offrymir Gosber ar Gân yn wythnosol am 3.30pm ar brynhawn Sul, tra bo’n Gosber ar Gân ar nosweithiau’r wythnos wedi eu gohirio. Dywedir Hwyrol Weddi bob dydd Iau am 5.30pm.

Gwnewch yn fawr o’r addoliad rheolaidd yma. Mae dathliadau 12.30pm y Cymun yn ystod yr wythnos yn cynnig ennyd dawel, fyfyriol yng nghanol y dydd. Mae croeso mor gynnes yn Eglwys y Groes ym Masgeirchen ar ddydd Iau, gan gynnwys te ar ôl y gwasanaeth. Ac mae ein Gosber ar Gân ar y Sul yn hardd ac yn fyfyriol.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

20 Gorffennaf | Pedwarawd y Fenai | Pedwarawd Llinynnol

Mae pedwarawd o chwaraewyr o Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Byddant yn perfformio Pedwarawd “Americanaidd” enwog Dvorak.


Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn gymdeithas newydd y’i hadeiledir ar dir hynafol, cysegredig. O’i lansiad ar ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn 2023, rydym yn gobeithio y bydd y Cyd-Bererinion yn tyfu’n gymuned o’r rhai pell ac agos sydd am gerdded gyda ni fel rhan o gymuned Cadeirlan Deiniol Sant ac i gefnogi ac annog ein taith i’r dyfodol trwy weddi, cwmnïaeth a chodi arian. Darllenwch ragor fan hyn.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


It was wonderful having Iestyn with us on work experience this past week. We ended the week exploring our new pilgrim’s way from the Neolithic chamber at Bryn Celli Ddu on Anglesey along the coastal path, and ending up at the Cathedral. More news about the pilgrim’s way will follow soon! Many thanks to Iestyn for his company and his intrepidness.


Visiting Choir

We are delighted to welcome the St Christopher Chorale to sing at the Choral Holy Eucharist and at Choral Evensong today. It is a great gift to us to have the company of visiting singers over the summer months, and it is good to welcome them into the pattern of our liturgical life here at the Cathedral.


Bring & Share Lunch

Our next Bring & Share Lunch will take place at 12.15pm, following the Choral Holy Eucharist, on the Festival of Mary the Mother of God, Sunday 13 August. Our Bring & Share Lunches are an opportunity for conversation, conviviality, welcome and kindness. All are invited; and if you would like suggestions about food to bring, please speak to Canon Jane Coutts.


Weekday worship over the summer months

At the heart of our weekday worship here at the Cathedral and in Eglwys y Groes is the celebration of the Eucharist. The Eucharist is celebrated daily at the Cathedral at 12.30pm, every day from Monday to Saturday; and weekly at Eglwys y Groes, on Thursdays at 2.00pm.

The offering of prayer and praise at Choral Evensong is another important component of the Cathedral’s worshipping life. During the summer months, while our choral forces are reduced, Choral Evensong is offered weekly at 3.30pm on Sunday afternoons, while our our weekday Choral Evensongs are suspended until the full Choir’s return. Evening Prayer will be said every Thursday at 5.30pm.

Please make the most of the regular round of worship here. The 12.30pm weekday celebrations of the Eucharist are a quiet, meditative moment in the middle of the day. There is such a warm welcome at Eglwys y Groes in Masgeirchen on Thursdays, including afternoon tea after the service. And our Sunday Choral Evensongs are beautiful and reflective.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

20 July | Menai Quartet | String Quartet

The Menai String Quartet is made up of players from the Bangor University Symphony Orchestra. They will be performing Dvorak’s famous “American” Quartet.


The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor

The Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor is a new association built on ancient, sacred ground. From its launch on our Midsummer Foundation Sunday in 2023, we hope that the Pilgrim-Friends will grow into a community of those far and wide who want to walk with us as part of the community of Saint Deiniol’s Cathedral and to support and encourage our journey into the future by prayer, companionship and giving. Read more about the Pilgrim-Friends here.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.