minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Astudiaeth nos Fercher y Grawys


“Cofia dy gyfamod byth”

Dirnad hynt y berthynas Gristnogol-Iddewig


21 Chwefror, 6 Mawrth a 20 Mawrth am 6.00pm ar Zoom


Mae'r berthynas rhwng Cristnogaeth ac Iddewiaeth yn ddwys, yn goeth ac yn gymhleth. Bydd ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn amlygu sut y gall Cristnogion, yn arbennig, adnabod ac amgyffred y berthynas honno.

Mae’r Grawys yn amser teimladwy i fyfyrio ar y berthynas rhwng Cristnogaeth ac Iddewiaeth, gan fod yr Wythnos Fawr yn aml wedi bod yn foment o elyniaeth tuag at Iddewiaeth.

Bydd ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn archwilio sut y gall Cristnogion ddyfnhau ein dealltwriaeth o Iddewiaeth, addysgu ein hunain am wrth-Iddewiaeth Gristnogol, a chamu i ddyfodol ffrwythlon o gydweithio rhyng-ffydd.


Wedi’u cynllunio i gynnull astudiaeth yn ystod y Grawys i’n cymuned yn y Gadeirlan, mae croeso cynnes i bawb yn y sesiynau o bob cwr o Esgobaeth Bangor, yr Eglwys yng Nghymru, a thu hwnt. 

Mae’r Grawys yn dymor wedi ei nodi nid yn unig gan ymwrthod a chan haelioni ond hefyd gan astudrwydd mewn gweddi a myfyrdod. Ein gobaith yw y bydd ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn gyfle ar gyfer ffurfiant ysbrydol ym maes hanfodol a chyfredol y berthynas Gristnogol-Iddewig. 

Os ydych yn ystyried mynychu’r sesiynau ond heb fod yn rhan reolaidd o gymuned y Gadeirlan, cofrestrwch eich diddordeb ar-lein, er mwyn sicrhau y byddwch yn derbyn manylion mewngofnodi Zoom ar gyfer y sesiynau.


Astudiaeth mewn partneriaeth â Chyngor y Cristnogion a’r Iddewon

Avigail Simmonds-Rosten • Un o arweinwyr yr astudiaeth • One of the study leaders

Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cyd-weithio â Chyngor y Cristnogion a’r Iddewon i gyflwyno ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys eleni.

Wedi’i sefydlu ym 1942, yng nghanol erchyllderau’r Ail Ryfel Byd a'r Holocost, gan yr Archesgob William Temple a'r Prif Rabi Joseph Hertz, Cyngor y Cristnogion a’r Iddewon yw’r prif fforwm Prydeinig ar gyfer ymgysylltiad Cristnogol-Iddewig. Mae’r Cyngor yn rhoi cyfle i Iddewon a Christnogion gyfarfod, i rannu syniadau, i ddysgu am ei gilydd, ac i gyfrannu i’r fenter o adeiladu cymdeithas gryfach a mwy goddefgar. Mae’r Cyngor yn darparu addysg Holocost bwrpasol ar gyfer y gymuned Gristnogol, yn cefnogi myfyrwyr prifysgol trwy ei Raglen Arweinyddiaeth Campws, yn cynnull Rhwydwaith Gweithredu Rabïaid a Chlerigion, ac yn cydlynu agenda gweithredu cymdeithasol gynhwysfawr.

Bydd dau siaradwr o dîm cenedlaethol Cyngor y Cristnogion a’r Iddewon yn arwain sesiynau’n hastudiaeth nos Fercher y Grawys.

Mae dirfawr angen cymod ac iachâd ar ein byd drylliedig, briwedig. Gall pob un ohonom gyfrannu at yr achos drwy feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’n hanes, ein diwinyddiaeth a’n cymdogion. Rwyf am ganmol y bartneriaeth rhwng Cadeirlan Deiniol Sant a Chyngor y Cristnogion a’r Iddewon, a’ch annog i gyfranogi o astudiaeth, myfyrdod a gweddi dros gymod ac iachâd y Grawys hwn.

Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru

Ymunwch â ni ar Zoom

Cynhelir y sesiynau ar Zoom, a byddant yn para awr. Bydd manylion mewngofnodi Zoom yn cael eu dosbarthu i aelodau rhestr bostio “O’r Darllenfa” y Gadeirlan ac i fynychwyr cofrestredig ar ddiwrnod y sesiynau.

Darlith Goffa Margaret Thrall yn 2024

Rydym yn falch iawn y bydd y Dr James Roberts hefyd yn ymuno â ni yn y Gadeirlan i draddodi Darlith Goffa Margaret Thrall eleni, gan adeiladu ar gynnwys ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys. Bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ar nos Iau 2 Mai am 6.30pm, a’i ffrydio ar sianel YouTube y Gadeirlan.

Cymraeg

Lent Wednesday study


“You remember your covenant forever”

Discerning a path for Christian-Jewish relations


21 February, 6 March and 20 March at 6.00pm on Zoom


The relationship between Christianity and Judaism is profound, beautiful and complex. Our Lent Wednesday study will highlight how Christians, particularly, can enter into an exploration of this relationship.

Lent is a poignant time to reflect on the relationship between Christianity and Judaism, as Holy Week has often been a moment of increased hostility towards Judaism.

Our Lent Wednesday study will explore how Christians can deepen our understanding of Judaism, educate ourselves about Christian anti-Judaism, and move forward into a fruitful future of interfaith collaboration.


Designed for our Cathedral community’s Lenten study, the sessions are open to all from across the Diocese of Bangor, the Church in Wales, and beyond. 

Lent is season marked not only by abstinence and generosity, but also by an attentiveness in prayer and reflection, and our hope is that our Lent Wednesday study will offer to many an opportunity for spiritual formation in the vital and current arena of Christian-Jewish relations. 

If you’re considering attending the sessions, and are not part of our regular Cathedral community, please register your interest online, which will ensure that you’ll receive Zoom log-in details for the sessions.


A study organized in partnership with the Council of Christians and Jews

Dr James Roberts • Un o arweinwyr yr astudiaeth • One of the study leaders

We are delighted to have been able to work in partnership with the Council of Christians and Jews to deliver this year’s Lent Wednesday study.

Founded in 1942, at the height of the Second World War and the Holocaust, by Archbishop William Temple and Chief Rabbi Joseph Hertz, the Council of Christians and Jews is the leading British forum for Christian-Jewish engagement. The Council has provided an opportunity for Jews and Christians to meet, to share ideas, learn about one another, and contribute to the endeavour of building a stronger, more tolerant society. The Council provides bespoke Holocaust education for the Christian community, supports university student leaders through its Campus Leadership Programme, convenes the Rabbi-Clergy Action Network, and coordinates a comprehensive social action agenda.

Two speakers from the Council of Christians and Jews’s national team will lead our Lent Wednesday study sessions. 

Our aching, broken world is in desperate need of reconciliation and healing across ancient boundaries. We can all play our own part by gaining a deeper understanding of our history, our theology and our neighbours. I want to commend the partnership between Saint Deiniol’s Cathedral and the Council of Christians and Jews, and to encourage you to participate in study, reflection and prayer for reconciliation and healing this Lent.

The Most Revd Andrew John, Archbishop of Wales

Join us on Zoom

The sessions take place on Zoom, and will last an hour. Zoom log-in details will be circulated to members of the Cathedral’s “From the Lectern” mailing list and to registered attenders on the day of the sessions.

The 2024 Margaret Thrall Memorial Lecture

We are delighted that one of the study leaders, Dr James Roberts, will also be joining us at the Cathedral to deliver the 2024 Margaret Thrall Memorial Lecture, building on the content of the Lent Wednesday study. The lecture will be delivered at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor on Thursday 2 May at 6.30pm, and streamed on the Cathedral’s YouTube channel.