minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Palmwydd Sul y Blodau | Palms at the Nave Altar-Table
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Manylyn o'r canwyllbrennau newydd ar Fwrdd yr Allor

Grant gan Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau

Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn grant hael o £22,000 gan Ymddiriedolaeth Cerdd y Cadeirlannau at ddibenion datblygu ein gweinidogaeth gerdd Gymraeg yn y Gadeirlan. 

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nifer o Ysgoloriaethau’r Gân yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod a fydd yn cyfuno canu corawl dwyieithog gyda gweithgareddau i gyfoethogi’n gweinidogaeth gerdd Gymraeg, gan gynnwys cynyddu arlwy gerddoriaeth Gymraeg y Côr, cynorthwyo’r di-Gymraeg gyda chanu a chyfathrebu yn Gymraeg, ac ymgysylltu ag allgymorth Cymraeg i ysgolion a sefydliadau cymunedol. Mae’n diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o baratoi’r cais.

Ceir mwy o fanylion am y buddsoddiad hael hwn fan hyn.


Cwmplin a Bendithiad y Sagrafen Fendigaid

Bu’n hoffrwm, am y tro cyntaf, o Gwmplin a Bendithiad y Sagrafen Fendigaid am 10.00pm nos Fercher yn llwyddiant. Da fyddai rhannu’r newyddion am y gwasanaeth hwn gyda’r rhai a fyddai’n werthfawrogi gwasanaeth fin nos myfyriol. Mae drysau’r Gadeirlan ar agor o 9.00pm.


Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi Y Frenhines

Byddwn yn dathlu’r Jiwbilî Platinwm mewn nifer o ffyrdd yn y Gadeirlan.

Ddydd Iau hwn, 2 Mehefin, o 2pm tan 4pm, bydd Te Parti’r Jiwbilî yng Nghorff yr Eglwys yn cynnwys cyfoeth o weithgareddau i blant, a chacen a phaned i bawb.

Am 5.30pm bnawn Lau, offrymir Gosber ar Gân â Diolchgarwch am y Jiwbilî, gydag Archesgob Cymru ac Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn bresennol. A hithau’n ddathliad cenedlaethol Brydeinig o bwys, da yw i ni yma gynnal y dathlu mewn gweddi ac addoliad, a da fyddai cynulledifa deilwng yn y gweddi a’r addoli hwnnw.

Ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin am 7.30pm, mae Côr y Gadeirlan yn cyflwyno cyngerdd sy’n cynnwys gweithiau “brenhinol” gan Handel, Parry, Walton a Mathias. Mae manylion llawn ar dudalen 45 yn Buchedd Bangor; a cheir tocynnau ar werth yma.


Enfys, un o fasgotiaid Hosbis Dewi Sant, yn y Gadeirlan | Enfys, one of St David's Hospice's mascots, at the Cathedral

Lleisiau Plant dros Wcráin ac Expo Gwirfoddolwyr

Braf yr wythnos ddiwethaf oedd croesawu plant o ysgolion lleol, ynghyd â’u rhieni a’u hathrawon, i’r Gadeirlan i ganu yn ein cyngerdd codi arian i’r Wcráin. Hyfryd hefyd oedd gweld cymaint o elusennau lleol ac achosion da yn cael eu cynrychioli yn yr Expo Gwirfoddolwyr ddydd Sadwrn. Diolch yn fawr i bawb o dîm y Gadeirlan a gefnogodd y digwyddiadau hyn.


Clas ar Zoom

Dydd Llun 6 Mehefin am 6.30pm

Mae’r dylunydd dodrefn o fri rhyngwladol, Luke Hughes, sy’n gweithio ar ddodrefn Corff yr Eglwys newydd ar gyfer y Gadeirlan, yn ymuno â ni i fyfyrio ar ei grefft aci sgwrsio am ein gynlluniau yn y Gadeirlan.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

2 Mehefin | Anastasia Zaponidou | Soddgrwth

Mae Anastasia, myfyriwr o Brifysgol Bangor, yn cyflwyno rhaglen o weithiau soddgrwth rhamantaidd wrth i ni ddechrau ein dathliadau Jiwbilî Platinwm.

9 Mehefin | Francesca Hook | Soprano

Mae Francesca ar hyn o bryd yn fyfyrwraig MA mewn Cerddoriaeth ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac wedi canu gyda Chôr y Gadeirlan. Bydd yn cyflwyno datganiad o weithiau o’r llwyfan a’r sgrîn.


Buchedd Bangor

Trydydd rhifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod tan ddiwedd Mehefin. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


A detail of the new candlesticks on the Nave Altar-Table

Cathedral Music Trust grant

We are delighted that the Cathedral has received a generous grant of £22,000 from the Cathedral Music Trust for the purposes of developing our Welsh-language music ministry. 

The grant will be used to support a number of Choral Scholarships during the coming academic year that will combine bilingual choral singing with activities to enrich our Welsh-language music ministry, including increasing the Choir’s repertoire of Welsh-language music, assisting non-Welsh speakers with singing and communicating in Welsh, and engaging in Welsh-language outreach with schools and community organisations. Many thanks to all who worked hard to prepare the grant application.

You can read more about this generous investment here.

Compline and Benediction of the Blessed Sacrament

Our offering of Compline and Benediction of the Blessed Sacrament at 10.00pm on Wednesdays began successfully this past week, and is now a part of our weekly worship offering. Please share news of this service with those who might value a reflective night-time service. The Cathedral doors are open from 9.00pm.


Her Majesty The Queen’s Platinum Jubilee

We will be celebrating the Platinum Jubilee in a number of ways at the Cathedral.

This Thursday 2 June from 2pm to 4pm, our Jubilee Tea Party in the Nave will include a wealth of activities for children, and cake and tea for all.

At 5.30pm this Thursday, Choral Evensong in Thanksgiving for the Jubilee will be offered, with the Archbishop of Wales and Her Majesty’s Lord Lieutenant in attendance. As we celebrate this significant landmark for the whole British nation, it is good that we are able to hold up our celebrations before God in worship and prayer. Please make every effort to join us on this evening to pray for our nations, for those who lead and serve us, and for the common good.

On Saturday 11 June at 7.30pm, the Cathedral Choir presents a concert featuring “royal” works by Handel, Parry, Walton and Mathias. There are full details on page 45 of Buchedd Bangor; and tickets can be bought here.


Goldie, poli-parot i'w ailgartrefu, yn y Gadeirlan | Goldie, a rescue parrot from Joan's North Wales Parrot Rescue, at the Cathedral

Children’s Voices for Ukraine concernt and the Volunteer Expo

It was good this past week to welcome into the Cathedral children from local schools, along with their parents and teachers, to sing at our fundraising concert for Ukraine. It was also wonderful to see so many local charities and good causes represented at the Volunteer Expo on Saturday. Many thanks to all from the Cathedral team who supported these events.


Clas on Zoom

Monday 6 June at 6.30pm

The furniture designer of international standing, Luke Hughes, who is working on new Nave furniture for the Cathedral, joins us to reflect on his craft and the talk about plans at the Cathedral.


Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

2 June | Anastasia Zaponidou | Cello

Anastasia, a student of Bangor University, presents a programme of romantic Cello works as we begin our Platinum Jubilee celebrations.

9 June | Francesca Hook | Soprano

Francesca is currently an MA in Music and Education student at Bangor University and has sung with the Cathedral Choir. Francesca will present a recital of works from the stage and screen.


Buchedd Bangor

The third edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This third edition is a companion to the period to the end of June. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.