minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Naw Llith a Charol y Canhwyllau

Ar ddiwedd dathliadau’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio gyda Mair, Joseff a’r plentyn i Gaersalem, ar gyfer defod olaf y tymor, gan ddal y golau o’n blaenau, a chan weddïo yng ngoleuni’r fflam dros bopeth a fydd.

Tymor y Nadolig, a’r bennod nesaf

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

Mae Dygwyl Fair y Canhwyllau yn nodi diwedd y Nadolig. I ni yn y Gadeirlan ac ym Mro Deiniol, mae hefyd yn nodi diwedd cyfnod hwy, fu’n ymestyn o Sul yr Adfent hyd yr hwyr heno, pan y bu inni geisio, mewn addoliad, astudiaeth, cerdd a gweddi, nesáu at y Duw sydd bob amser gyda ni, a chroesawu eraill i ymuno â ni ar y bererindod. 

Mae fy niolch i bawb o bob rhan o deulu’r Gadeirlan sydd wedi rhoi mor hael o’u doniau i wneud hon yn daith deilwng i’r gymuned gyfan.

Yr wythnos nesaf, mae pennod newydd yn dechrau, wrth inni ddechrau tymor sy’n ein harwain i mewn i’r Grawys, a’i benllanw yn yr Wythnos Fawr. Byddwn yn nodi’r dechrau newydd gyda rhifyn newydd o Buchedd Bangor, ein cylchgrawn, a chyfres newydd o bregethau, wrth inni gwblhau heddiw ein cyfres yn astudio’r Ysgrythurau. Edrychaf ymlaen at bopeth sydd o’n blaen.


Cydymdeimlad

Ymestynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar farwolaeth sydyn ei wraig. Mae gwasanaethu cenedl yn alwedigaeth drom, ac yn un sy’n gosod pwysau dwys ar ysgwyddau’r sawl sy’n gwasanaethu, ac ar eu teuluoedd. Gweddïwn yma’n feunyddiol dros y rhai sy’n llywodraethu ein cenhedloedd, a gweddïwn yr wythnos hon hefyd am orffwys tragwyddol enaid Mrs Drakeford yn llewyrch y goleuni gwastadol hwnnw, gyda’r holl ffyddloniaid ymadawedig.


Trwyddedau parcio

Mae trwyddedau parcio newydd, sydd eu hangen ar gyfer defnyddio maes parcio’r Gadeirlan ar ddiwrnodau heblaw dydd Sul o ddechrau mis Chwefror, ar gael wedi gwasanaethau heddiw. Gwerthfawrogir cyfraniad rhodd hael tuag at gronfeydd y Gadeirlan.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

2 Chwefror | Strafagansa Soprano

Mae Ysgolheigion y Gân Soprano o Gôr y Gadeirlan yn cyflwyno datganiad disglair gyda pherfformiadau’n deilwng o’r “diva” – ond oes na Garyl Parry Jones yn eu mysg?

9 Chwefror | Martin Brown | Organ

Organydd y Gadeirlan, Martin Brown, sy’n dychwelyd unwaith eto i’w offeryn cartref i’n swyno gyda datganiad amrywiol o ffefrynnau’r organ.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i’r Advent a'r Nadolig. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


Nine Lessons & Carols of Candlemas

At the end of Christmastide’s celebrations, join us this evening at 6pm as we travel with Mary, Joseph and the Christ child to Jerusalem, for the final observance of the season, holding the light ahead of us, and praying by the candle’s flame for all that will be.


Christmastide, and the weeks ahead

The Sub-Dean writes:

Candlemas Day marks the end of Christmastide. For us at the Cathedral and in Bro Deiniol, it also marks the end of a long period, stretching from Advent Sunday until this evening, when we have sought, through worship, study, music and prayer to draw nearer to the God who is always with us, and to welcome others to make the same journey alongside us. 

My thanks go to all across the Cathedral family who have given of themselves so generously to make this a worthy journey for the whole community.

Next week, a new chapter begins, as we begin a season that leads us into Lent, and its culmination at Holy Week. We will mark the new start with a new edition of Buchedd Bangor, our magazine, and a new sermon series, as we complete today our series studying the Scriptures. I look forward to all that lies ahead.


Sympathy

We extend our deepest sympathy to the First Minister, Mark Drakeford, on the sudden death of his wife. Public service is a high calling, and one which makes great demands on those who serve, and on their families. We pray here daily for those who govern our nations, and will pray this week also for the repose of the soul of Mrs Drakeford with all the faithful departed.


Parking permits

New parking permits, required for use of the Cathedral car park on days other than Sunday from the beginning of February, are available at the end of today’s servics. A generous donation towards the Cathedral’s funds is appreciated.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

2 February | Soprano Extravaganza

The Soprano Choral Scholars from the Cathedral Choir present a glittering recital of arias with diva-worthy performances, but will any of them be crowned “Queen of the Night”?

9 Februrary | Martin Brown | Organ

The Cathedral Organist, Martin Brown, returns once again to his home instrument to delight us with a varied recital of organ favourites.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Advent and. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.