
O'r Ddarllenfa
Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol
Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Sul Gwaddol Ganol Haf
Dydd Sul 25 Mehefin fydd ein Sul Gwaddol Ganol Haf yn y Gadeirlan. Bydd yn gyfle i ddathlu ein bywyd ar y cyd, i nodi diwedd ein blwyddyn gorawl wrth i ni ffarwelio â rhai o’n Coryddion ac Ysgolheigion y Gân, i godi arian ar gyfer Ambiwlans Ioan Sant Cymru yn ystod eu penwythnos codi arian cenedlaethol, ac i lansio urdd Cyd-Bererinion Cadeirlan Deiniol Sant fel cymuned o’r rhai o bell ac agos sydd am gefnogi bywyd, cerddoriaeth a thystiolaethu’r Gadeirlan.
Yn ogystal â’n Cymun Bendigaid rheolaidd ar fore Sul, cynhelir cinio bwffe yng Ngardd y Deondy, dan ofal yr Is-Ddeon, a gwahoddir pawb yn gynnes iawn i’w fynychu.
Am 2.00pm, bydd Harry Sullivan, Ysgolhaig yr Organ, yn canu’r organ yn ei ddatganiad olaf cyn iddo ymadael â’r Gadeirlan. Bydd ei ddatganiad yn cynnwys gweithiau ar gyfer yr organ wedi’u hysbrydoli gan gerddoriaeth cerddorfaol, gan gynnwys Rhagarweiniad, Passacaglia a Ffiwg gan Healey Willan.
Gyda’r hwyr, am 6.00pm, bydd ein Cyngerdd Dewch i Ganu Ganol Haf yn gyfle i leisiau ychwanegol ymuno â Chôr y Gadeirlan i ganu Gloria Vivaldi, a Rejoice in the Lamb gan Britten. Dylai cantorion sydd am ymuno â’r Côr ymuno â’r ymarfer yn y Gadeirlan am 3.00pm; darperir sgorau o’r gerddoriaeth, gyda ffi canu’n £10. Mae mynediad i’r Cyngerdd Dewch i Ganu Ganol Haf yn £5, gyda phlant am ddim. Dilynir y cyngerdd gan Dderbyniad Gwin i gantorion a’r gynulleidfa yng Ngardd y Deondy.
Gwnewch nodyn o’n Sul Gwaddol Ganol Haf yn eich dyddiadur, ac ymestymwch y gwahoddiad i ffrindiau a chymdogion i ymuno â ni am ddiwrnod hapus.

Pererindod i Rufain
Mae Ysgolheigion y Gân yn gadael Bangor ar bererindod i Rufain y Sul yma ar ôl Gosber ar Gân yn prynhawn, gan ddychwelyd i Fangor ddiwedd yr wythnos. Edrychwn ymlaen at rannu newyddion am eu pererindod ar ein cyfryngau cymdeithasol ac yn rhifynnau’r dyfodol o “O’r Ddarllenfa” a “Buchedd Bangor”. Cynahliwch eu pererindod yn eich gweddïau.
Yn sgil y bererindod, nid yw Gosber ar Gân yn cael ei offrymu yn y Gadeirlan ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau yr wythnos hon.
Pregethwyr gwadd
Y Sul hwn rydym yn croesawu dau bregethwr gwadd i’r Gadeirlan – y Parchg Llywelyn Moules-Jones, cyn Gurad yn y Gadeirlan ac sydd bellach yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen, am 9.15am, a’r Canon Jeremy Davies, Canon Emeritws Cadeirlan Caersallog, am 11.00.
Cyfarfod Cynulledifaol
Cynhelir ein Cyfarfod Cynulleidfaol nesaf, gyda ffocws ar gyllid y Gadeirlan, nos Iau 6 Gorffennaf am 6.30pm.
Buchedd Bangor
Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.
Cefnogaeth
Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol
Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
From the Lectern
The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol
This Sunday and the week ahead...


Mid-Summer Foundation Sunday
Sunday 25 June will be our Mid-Summer Foundation Sunday at the Cathedral. It will be an opportunity to celebrate our Cathedral life, to mark the end of our choral year as we say farewell to some of our Choristers and Choral Scholars, to raise money for St John Ambulance Cymru during their national fundraising weekend, and to launch the Pilgrim-Friends of Saint Deiniol’s Cathedral as a community of those far and wide who want to support the life, music and witness of the Cathedral.
In addition to our regular Sunday morning Eucharists, a buffet lunch will be held in the Deanery Garden, hosted by the Sub-Dean, to which all are invited.
At 2.00pm, Harry Sullivan, our Organ Scholar, will give his final organ recital at the Cathedral. The recital will focus on orchestrally-inspired works for organ, including Healey Willan’s Introduction, Passacaglia and Fugue.
In the evening, at 6.00pm, our Midsummer Come & Sing Concert will be an opportunity for additional voices to join our Cathedral Choir to sing Vivaldi’s Gloria and Britten’s Rejoice in the Lamb. Singers wanting to join the chorus should join the rehearsal in the Cathedral at 3.00pm; scores of the music will be provided, with a singer’s fee of £10. Admission to the Midsummer Come & Sing Concert is £5, with children for free. The concert will be followed by a Drinks Reception for singers and the audience in the Deanery Garden.
Please make a note of our Mid-Summer Foundation Sunday in your diary, and please consider inviting friends to join us for what will be a happy day.

Pilgrimage to Rome
Our Choral Scholars depart Bangor on a pilgrimage to Rome this Sunday, following Choral Evensong, returning to Bangor at the end of the week. We look forward to sharing news of their pilgrimage on our social media and in future editions of “From the Lectern” and “Buchedd Bangor”. Please hold their pilgrimage in your prayers.
Choral Evensong is not sung at the Cathedral on Monday, Tuesday and Thursday this week.
Visiting preachers
This Sunday we welcome two visiting preachers to the Cathedral – the Revd Llywelyn Moules-Jones, a former Curate at the Cathedral and now Ministry Area Leader of Bro Dwynwen, at 9.15am, and Canon Jeremy Davies, Canon Emeritus of Salisbury Cathedral, at 11.00am.
Congregational Meeting
Our next Congregational Meeting, with a focus on Cathedral finances, takes place on Thursday 6 July at 6.30pm.
Buchedd Bangor
This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.
Support
All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.
Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol
Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.