minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Grist, Gwaredwr y Byd - yn y Gangell ar gyfer Gosber â Litani o Weddi dros Wcráin | Christ, the Saviour of the World - in the Chancel ahead of Evensong with a Litany of Prayer for Ukraine
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Trem yn ôl tua'r Cysegru o Esgobion newydd

a gynhaliwyd yn y Gadeiran ar 26 Chwefror

Arddodi dwylo yn y Cysegriad | The laying on of hands at the Consecration
Glanhau trylwyr cyn y Cysegriad | A thorough clean before the Consecration
Glanhau trylwyr cyn y Cysegriad | A thorough clean before the Consecration
Our Director of Music and the composer of a new Eucharist setting for the Consecration | Ein Cyfarwyddwr Cerdd a chyfansoddwr gosodiad newydd o'r Cymun ar gyfer y Cysegriad
Lletygarwch yn y Deondy wedi'r Cysegriad | Hospitality in the Deanery garden after the Consecration

Hysbys wythnosol


Llyfrau’r Grawys

Mae’r Grawys yn gyfnod i astudio a myfyrio. Mae’n amser da felly i ail-lansio gwerthiant llyfrau yn y Gadeirlan, gan ein hannog ni i gyd i godi llyfr a neilltuo peth amser i ddarllen a gweddïo. Mae pedwar llyfr gan awduron lleol a rhyngwladol, a ddewiswyd ar gyfer y cyfnod hwn, mewn stoc.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

Athro’r Beibl Hebraeg a Chrefydd Hynafol ym Mhrifysgol Caerwysg yn archwilio sylwedd Duw – ei gorff o’i goryn i’w sawdl. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

Canon Trigiannol Cadeirlan Aberhonddu yn ein gwahodd i gerdded gydag ef yn yr Appalachiaid, Norwy, Gwlad yr Iâ, yr Alpau a mynyddoedd Cymru wrth iddo fyfyrio ar hanes, llên gwerin, barddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

On o’n meddylwyr a’n hawduron pwysicaf yn rhannu portreadau eang o bobl drwy gydol hanes sydd wedi ceisio atebion yn y tywyllwch – llyfr ar gyfer ein dyddiau ni. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

Y bardd (a’n pregethwr ar Sul y Dioddefaint) yn ymuno a’r artist i roi cipolwg i ni o sut y gwelsant y byd yng nghysgod Cofid a Brexit. £12.50


Gosber ar Gân â Litani o Weddi dros Wcráin

Dydd Sul yma, 6 Mawrth, bydd y Gosber ar Gân am 3.30pm yn cynnwys Litani o Weddi dros bobl yr Wcráin a’r argyfwng yno, dan arweiniad Esgob Cynorthwyol Bangor.


Gorsafoedd y Groes

Bob dydd Mercher yn y Grawys, bydd Gorsafoedd y Groes yn cael eu gweddïo gyda cherddoriaeth yn y Gadeirlan. Gwnewch ymdrech i brofi’r ddefod deimladwy hon sy’n ein dwyn i galon Dioddefaint Crist.


Un o'n datganiadau diweddar | At one of our recent recitals

Casgliad

Dychwelwn y Sul hwn i gymryd casgliad yn ystod yr ail emyn. 

Os ydych yn rhoi drwy Ddebyd Uniongyrchol neu drwy daliad digyswllt, gallwch godi cerdyn i’w ollwng i’r plât er mwyn osgoi unrhyw lletchwithdod.


Gorchuddion wyneb, Cymun a’r Tangnefedd

  • Nid oes angen gorchuddion wyneb y tu mewn i’r Gadeirlan bellach. Bydd hyn yn cael ei groesawu gan lawer ohonom. Efallai y bydd rhai ohonom am barhau i wisgo gorchuddion wyneb am y tro. Wrth Gymuno heb orchudd gwyneb, dychwelwch at yr arferiad o ddweud “Amen” a bwyta’r Afrlladen Sagrafennol ar unwaith, cyn symud oddi wrth y Gweinidog.
  • Mae llacio yn y canllawiau hefyd yn caniatáu inni ddychwelyd i rannu’r Tangnefedd â llais a chyffyrddiad. Mae croeso i chi wneud hynny, tra hefyd yn bod yn ystyriol o’r rhai sy’n dymuno cadw pellter.
  • Nid yw canllawiau cenedlaethol yn caniatáu rhannu’r Gwaed Sagrafennol yn y Cymun ar hyn o bryd, ond gobeithiwn adfer Cymun yn y ddau fath yn ystod y Pasg.

Datganiadau Paned

11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

10 Mawrth | Simon Ogdon | Piano
Mae Clerc Lleyg y Gadeirlan a’r pianydd lleol Simon Ogdon yn eich gwahodd i ymuno ag ef ar “daith Ramantaidd”.

17 March | Henry Fairs | Organ
Mae’r organydd o fri rhyngwladol yn ymweld â Bangor.


Clas

Fforwm Zoom i ddysgu, trafod a myfyrio.

7 Mawrth
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs â Jordan Hillebert am fywyd a gwaith y diwinydd Henri de Lubac

21 Mawrth
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs ag Andrew Carroll Jones, Archddiacon Meirionnydd, am bererindod a’r seintiau Celtaidd


Buchedd Bangor

Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


A look back at the Consecration of new Bishops 

held at the Cathedral on 26 February

Yr orymdaith allan ar ddiwedd y Cysegriad | The procession out at the end of the Consecration
Glanhau trylwyr cyn y Cysegriad | A thorough clean before the Consecration
Addurdo â blodau cyn y Cysegru | Decorating with flowers before the Consecration
Rhai o aelodau'r Côr yn ymlacio ar ôl y Cysegru | Some members of the Choir relaxing after the Consecration
Urddwisgoedd newydd ar gyfer y Cysegriad | New vestments in time for the Consecration

Weekly notices


Lent books

Lent is a time for study and reflection. It’s therefore a good time to relaunch the sale of books at the Cathedral, encouraging us all to pick up a book and put aside some time to read and pray. Four books by local and international authors, chosen for this time, are in stock.

God: An Anatomy
Francesca Stavrakopoulou

The Professor of Hebrew Bible & Ancient Religion at the University of Exeter explores the substance of God – Yahweh’s body, from top to bottom. £14.50

A Pilgrimage of Paradoxes: A Backpacker’s Encounters with God and Nature
Mark Clavier

The Canon Residentiary of Brecon Cathedral invites us to walk with him in the Appalachians, Norway, Iceland, the Alps and around Wales as he reflects on history, folklore, poetry, philosophy and theology. £16.50

On Consolation: Finding Solace in Dark Times
Michael Ignatieff

One of our most important thinkers and writers share wide-ranging portraits of people throughout history who have sought answers in dark times – a book for our times today. £12.50

Rhwng Pla a Phla
Siôn Aled & Iwan Bala

A poet (and our preacher on Passion Sunday) teams up with an artist to give us a glimpse of how they saw the world in the shadow of Covid and Brexit. £12.50


Choral Evensong with a Litany of Prayer for Ukraine

This Sunday, 6 March, Choral Evensong at 3.30pm will include a Litany of Prayer for the people of Ukraine and the crisis these, led by the Assistant Bishop of Bangor.


Stations of the Cross

Every Wednesday in Lent, Stations of the Cross will be prayed with music at the Cathedral. Please make an effort to experience this moving observance of Christ’s Passion.


Un o'n datganiadau diweddar | At one of our recent recitals

Collections

We return this Sunday to taking a collection during the second hymn. 

If you give by Direct Debit or by contactless payment, you can pick up a card to drop into the plate to avoid any awkwardness.


Face coverings, Communion and the Peace

  • Face coverings are no longer required inside the Cathedral. This will be welcomed by many of us. Some of us may wish to continue to wear face coverings for the time being. When making your Communion without a face covering, please revert to the practice of replying “Amen” and consuming the Sacramental Host immediately, before moving away from the Minister.
  • A relaxation in guidelines also permit us to return to exchanging the Peace with voice and touch. Please feel invited to do so, while also being mindful of those who wish to matain a distance.
  • National guidelines do not permit sharing the Precious Blood in the Chalice at present, but we hope to restore Communion in both kinds during Eastertide.

Coffee-break Recitals

11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

10 March | Simon Ogdon | Piano
Cathedral Lay Clerk and local pianist Simon Ogdon invites you on a ‘a Romantic getaway’.

17 March | Henry Fairs | Organ
Internationally renowned organist Henry Fairs visits Bangor.


Clas

A fortnightly Zoom forum to learn, discourse and reflect.

7 March
The Sub-Dean in conversation with Jordan Hillebert about the life and work of the theologian Henri de Lubac

21 March
The Sub-Dean in conversation with Andrew Carroll Jones, the Archdeacon of Meirionnydd, about pilgrimage and the Celtic saints


Buchedd Bangor

The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.