minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Hysbys wythnosol


Gosber ar Gân

Byddwn, o heno mlaen, yn offrymu Gosber ar Gân er gogoniant i Dduw bob dydd Sul am 3.30pm. Cefnogwch y gwasanaethau hyn gyda’ch presenoldeb, a dewch â ffrindiau gyda chi i rannu yn yr addoliad cyfoethog hwn.


Bedydd Esgob

Bydd yr Esgob yn gweinidogaethu Bedydd Esgob yng Ngwylnos y Pasg a Chymun Cyntaf y Pasg. Os hoffech chi archwilio’r posibilrwydd o gael eich Cadarnhau drwy Fedydd Esgob, siaradwch ag aelod o dîm y Gadeirlan.


Defodau mis Tachwedd

  • Gwnewch bob ymdrech i fynychu’r Cymun Bendigaid ar Gân Dros y Meirw, am 5.30pm ddydd Iau 4 Tachwedd, gan gadw Coffadwriaeth yr Holl Eneidiau. Caiff y Cymun ei gynnig dros yr holl ffyddloniaid ymadawedig; ond bydd unigolion yn cael eu cofio yn ôl eu henw yn ystod yr ymbiliau. Ychwanegwch enwau at y rhestr yng nghefn Corff yr Eglwys.
  • Ar Sul y Cofio 14 Tachwedd, bydd ein gwasanaethau Cymun corawl yn cael eu disodli gan Wasanaeth Coffa am 10am, a fydd yn diweddu wrth y Gofeb.

Cymun Gwynedd

Rydyn ni wrth ein bodd bod y Cymun Bendigaid ar Gân y Sul hwn yn cynnwys perfformiad cyntaf o osodiad corawl newydd o'r Cymun.

Cyfansoddwyd Cymun Gwynedd ar gyfer Gŵyl yr Holl Saint gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, Joe Cooper.

Wedi'i ysbrydoli gan gyfansoddiadau Britten, Shostakovich a Lennox Berkeley, mae Cymun Gwynedd yn gyfansoddiad beiddgar ar gyfer yr cyfnod cyfoethog hwn o'r flwyddyn litwrgaidd yr Eglwys.

Yn cyflwyno ei gyfansoddiad, mae Joe yn ysgrifennu:

Mae Cymun Gwynedd yn ceisio rhoi cip inni o'r ystod o emosiynau rydyn ni'n eu cofleidio fel bodau dynol wrth gwrdd â Duw yn nirgelwch y Cymun. Mae'r gerddoriaeth wedi'i hadeiladu o fotiffau wedi'u hysbrydoli gan blaengan sy'n cael eu trawsnewid a'u troi'n lwyfandir tawel, yn ddatganiadau o egni nerfus erchyll, ac yn siapiau grotesg a gweadau gorlawn.

Mae'r gerddoriaeth yn llawn ostinato. Mae'r Kyrie yn cynnwys patrwm ailadroddus o dair streic sy'n atgoffa rhywun o guro'r fron wrth gyffesu ein pechodau. Mae'r Sanctus yn cynnwys llewyrch cyson sy'n pwyntio tuag at ddyrchafiad mawr y Weddi Ewcharistaidd. Mae'r Agnus Dei yn defnyddio dau fotiff sy'n cilio i gynrychioli breuder corff y Duw a wnaed y gnawd.

Mae'n rhyfeddod gwych cael cyfansoddiad newydd arall yn y Gymraeg yn cael ei ganu yn y Gadeirlan. Ein llongyfarchiadau gwresog i Joe.


Cyn ac ar ôl y Cymun

Nodyn oddi wrth yr Is-Ddeon:

Rwyf am rannu ychydig o fyfyrdodau ar ymarferoldeb yr hyn sy’n digwydd yn union cyn ac ar ôl y Cymun Bendigaid ar Gân a’r Choral Holy Eucharist ar y Sul.

Rwy’n falch ein bod yn gallu gweini paned ar ôl y Cymun Bendigaid ar Gân (ac i unrhyw un a hoffai ddod ychydig yn gynnar cyn y Choral Holy Eucharist), a diodydd ar ôl y Choral Holy Eucharist. Mae wedi bod yn galonogol gweld mwy o bobl yn aros am sgwrs ac i fwynhau cwmni ei gilydd, ac mae’n dda gallu cynnig lletygarwch i ymwelwyr a’r rhai sy’n ymuno â ni am y tro cyntaf. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gwbl ddealladwy nad yw rhai ohonom eto’n teimlo’n gyffyrddus yn cymdeithasu mewn grwpiau; a byddwn yn parhau i fyfyrio ar gynnig lluniaeth yng nghyd-destun rhagofalon Cofid. O ddechrau’r Adfent, byddwn yn dechrau awgrymu rhoddion bach tuag at y lluniaeth, a byddwn yn dechrau ffurfioli rota ar gyfer y rhai a hoffai helpu i weini lluniaeth fel rhan o’r tîm stiwardio.

Rwy’n bwriadu parhau i rannu hysbys cyn i’r addoliad ddechrau, am 9.15am ac 11am ar ei ben, a’n gwahodd i fod yn llonydd o’r pwynt hwnnw ymlaen. Rydyn ni’n dechrau dysgu cofio cael cloch yng nghefn y Gadeirlan i’w chanu i nodi dechrau’r orymdaith agoriadol!

Pan fydd y tywydd yn caniatáu, bydd y Côr a’r gweinidogion yn gorymdeithio o’r Drws Gorllewinol – ond rwy’n rhagweld gorymdeithiau amlach ar hyd yr Eil Ogleddol yn ystod misoedd y gaeaf.

Rydyn ni’n ffodus iawn yn y Gadeirlan o gael bendith organyddion galluog, sydd nid yn unig yn cyfeilio i’r Côr a’n hemynyddiaeth, ond hefyd yn perfformio offrymddarnau gwych. Dros yr wythnosau diwethaf, chwaraewyd offrymddarnau (fel y’u rhestrir yn nhrefn y gwasanaeth) ar ôl a chyn y Cymun Bendigaid ar Gân a’r Choral Holy Eucharist. Mae’n hyfryd bod ein haddoliad wedi’i amgylchynu gan gerddoriaeth organ fel hyn.

Yn olaf, rwyf am inni ystyried y cyfnodau cyn ac ar ôl gwasanaethau fel gofod hybrid, pan mae llawer o bethau’n digwydd ar yr un pryd. Byddwn am ddefnyddio’r amser i baratoi ein hunain ar gyfer addoli, ac i fyfyrio ar yr addoliad yr ydym wedi’i gynnig – ac mae’r offrymddarnau ar yr organ yn ein helpu i wneud hyn. Mae hefyd yn berffaith ddilys bod eisiau gwrando ar gerddoriaeth yr organ am yr hyfrydwch cerddorol pur y mae’n ei ddarparu. Byddwn hefyd, fodd bynnag, eisiau defnyddio’r amser cyn ac ar ôl gwasanaethau i gyfarch ffrindiau, i groesawu newydd-ddyfodiaid, ac i gynnig a rhannu lletygarwch. Weithiau, efallai y byddwn ni’n hwyr ar ddechrau’r gwasanaeth, gan gyrraedd yn brin mewn pryd, neu angen gadael yn syth ar y diwedd, ac mae hynny’n berffaith ddilys hefyd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu na ddylem deimlo’r angen i gadw distawrwydd ac aros ar ein heistedd ar ddiwedd gwasanaethau trwy gydol yr offrymddarn. Bydd rhai ohonom eisiau gwneud hyn. Byddwn yn croesawu aelodau’r gynulleidfa yn symud i mewn i’r Cwîr i fod yn agosach at yr organ, os ydych yn dymuno gwneud hynny. Ond mae codi a sgwrsio hefyd yn iawn. Bydd y patrwm ychydig yn fwy hamddenol hwn yn caniatáu inni fod yn llai pryderus ynghylch hyd offrymddarnau, gan ganiatáu i’r organyddion rwydd hynt â’r repertoire. Mae hefyd yn caniatáu inni alluogi i bethau lluosog ddigwydd, tra’n cynnal “gofod litwrgaidd” clir pan fyddwn i gyd yn addoli gyda’n gilydd, o swnio’r gloch ar ddechrau’r Cymun i ymadawiad y gweinidogion ar ei ddiwedd.

Rwy’n falch bod ein haddoliad ar fore Sul yn cael ei barchu a’i gyfoethogi ar hyn o bryd. Mae’n haeddu ein gofal a’n sylw, ac rwy’n ddiolchgar i ni i gyd am ein cyfranogiad, wrth i ni ddathlu’r Cymun gyda’n gilydd fel pobl Dduw yn y fangre hon.


Llyfryn Hydref 2021

Mynnwch gopi o’r llyfryn Hydref 2021, sy’n cynnwys llythyr oddi wrth yr Is-Ddeon, cynlluniau am y misoedd nesaf, apeliadau am gymorth, ac amlinelliad o’n defodau tan Ŵyl Crist y Brenin.


Ar y Sul

Mae'n patrwm addoli yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar y Sul fel a ganlyn:

  • dathliad o’r Holy Eucharist am 8.15am (oedfa Saesneg)
  • dathliad o’r Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am (yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Gymraeg)
  • dathliad o’r Choral Holy Eucharist am 11am (eto, yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Saesneg)
  • offrymiad o’r Gosber ar Gân | Choral Evensong am 3.30pm (yn draddodiadol, yn ddirdynnol ac yn gerddorol yn Seddi'r Cwîr a'r Seintwar; oedfa ddwyieithog).

Caiff paned ei weini rhwng y Cymun 9.15am ac 11am – gyda gwahoddiad i aros ar ôl y Cymun 9.15am, neu ddod yn gynnar ar gyfer y Cymun 11am; bydd diodydd oer yn cael eu gweini ar ôl y Cymun 11am.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Weekley notices


Choral Evensong

We are delighted that, from this evening onwards, we will offer Evensong to God’s glory every Sunday at 3.30pm. Please support these services with your presence, and bring friends along to share in this enriching act of worship.


Confirmation

The Bishop will minister Confirmation at the Easter Vigil & First Eucharist of Easter, to be celebrated at the Cathedral at 8pm on Saturday 16 April 2022. If you would like to explore the possibility of being Confirmed, please speak to a member of the Cathedral team.


Observances in November

  • Please make every effort to be present at the Choral Holy Eucharist of Requiem, at 5.30pm on Thursday 4 November, when we will be keeping the Commemoration of All Souls. The Eucharist will be offered for all the faithful departed; but individuals will be remembered by name during the intercessions. Please add names to the list at the back of the Nave.
  • Please also note that, on Remembrance Sunday 14 November, our choral Eucharist services are replaced by a 10am Service of Remembrance, which will conclude at the War Memorial.

Cymun Gwynedd

We're thrilled that this Sunday's Cymun Bendigaid ar Gân includes the first performance of a new choral setting of the Eucharist.

Cymun Gwynedd has been composed for the Feast of All Saints by our Director of Music, Joe Cooper. 

Inspired by the compositions of Britten, Shostakovich and Lennox Berkeley, Cymun Gwynedd is a bold composition for this liturgically-enriching time of the Church year.

Introducing his composition, Joe writes:

Cymun Gwynedd attempts to capture the range of emotions we feel as humans when meeting God in the mystery of the sacrament. The music is built from plainsong inspired motifs which are transformed and manipulated into calmful plateaus, statements of horrific nervous energy, grotesque shapes and over-indulgent textures.

The music is full of ostinato. The Kyrie contains a repeating pattern of three strikes reminiscent of the beating of the breast to confess one's sins. The Sanctus contains a constant rising flourish pointing towards the great elevation of the Eucharist Prayer. The Agnus Dei uses two note motifs shading away to represent the fragility of God made flesh.

It is wonderful to have another new composition in the Welsh language sung at the Cathedral. Our congratulations go to Joe.


Before and after the Eucharist

A note from the Sub-Dean:

I wanted to share a few reflections on the practicalities of what happens immediately before and after the Cymun Bendigaid ar Gân and the Choral Holy Eucharist on Sundays.

I am glad that we are able to serve tea and coffee after the Cymun Bendigaid ar Gân (and for any who’d like to come a bit early before the Choral Holy Eucharist), and drinks after the Choral Holy Eucharist. It has been encouraging to see more people staying to talk and enjoy one another’s company, and it is good to be able to offer hospitality to visitors and those joining us for the first time. It’s also, of course, perfectly understandable that some us don’t yet feel comfortable socializing in groups; and we will continue to reflect on the offering of refreshments in the context of Covid precautions. From the beginning of Advent, we will begin to suggest small donations for these refreshments, and we’ll start to formalize a rota for those who would like to help to serve refreshments as part of the stewarding team.

I’m intending to continue to share notices before worship begins, at 9.15am and 11am sharp, and to invite us to be still from that point onwards. We’re getting better at remembering to have a bell at the back of the Cathedral to ring to mark the beginning of the entrance procession!

When the weather allows, the Choir and ministers will process from the West Door – but I’m envisaging more frequent processions along the North Aisle during the winter months.

We are very blessed at the Cathedral with able organists, who not only accompany the Choir and our hymnody, but also perform beautiful voluntaries. For the last few weeks, voluntaries have been played (as listed in the order of service) both after and before the Cymun Bendigaid ar Gân and the Choral Holy Eucharist. It is wonderful to have our worship enveloped by organ music in this way.

Finally, I want us to reflect on the time before and after services as a hybrid, “in-between” space, when many things are happening at the same time. We will want to use the time to prepare ourselves for worship, and to reflect on the worship that we have offered – and the organ voluntaries help us to do this. It’s also perfectly valid to want to listen to the organ music for the musical delight that it provides. We will also, however, want to use the time before and after services to greet friends, to welcome newcomers, and to offer and share in hospitality. Sometimes we may be cutting it fine at the beginning of the service, arriving just in time, or need to dash off at the end, and that’s fine, too. Practically, this means that we shouldn’t feel the need to keep silence and remain seated at the end of services for the duration of the organ voluntary. Some of us will want to do this. I would welcome members of the congregation moving into the Quire to be closer to the organ, if you wish to do so. But getting up and conversing is also fine. This slightly more relaxed pattern will allow us to be less anxious about the length of voluntaries, allowing the organists freer reign when it comes to repertoire. It also allows us to allow for multiple things to happen, all the while maintaining a strict “liturgical space” when we all worship together, from the sounding of the bell at the beginning of the Eucharist to the departure of the ministers at its end.

I’m glad that our worship on Sunday mornings is being sustained and enriched at the moment. It deserves our care and attention, and I am grateful to us all for our participation, as we celebrate the Eucharist together as the people of God in this place.


Autumn 2021 booklet

Be sure to get a copy of the Autumn 2021 booklet, which includes a letter from the Sub-Dean, plans for the coming months, appeals for help, and an outline of our observances until the Feast of Christ the King.


On Sundays

Our pattern of worship at Saint Deiniol’s Cathedral consists of:

  • a celebration of the Holy Eucharist at 8.15am (quietly in the Presbytery; an English-language service)
  • a celebration of the Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am (joyfully, colourfully and musically in the Nave; a Welsh-language service)
  • a celebration of the Choral Holy Eucharist at 11am (again, joyfully, colourfully and musically in the Nave; an English-language service)
  • an offering of Gosber ar Gân | Choral Evensong at 3.30pm (traditionally, atmospherically and musically in the Quire & Presbytery Stalls; a bilingual service)

Coffee and tea are served between the 9.15am and 11am Eucharist – please stay after the 9.15am Eucharist, or come early for the 11am Eucharist; a drinks reception follows the 11am Eucharist.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.