minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Bydded goleuni | Let there be light
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Hysbys wythnosol


Defod y Goleuni

Sul yr Adfent
28 Tachwedd
5.30pm

Y Sul nesaf, Sul yr Adfent, cynhelir y cyntaf o’n tair defod draddodiadol, dirdynnol a cherddorol ar nos Sul dros gyfnod y Nadolig. Bydd y ddefod ddwyieithog hon, yng ngolau cannwyll, yn ein trochi yng ngoleuni Crist, sy’n datgelu inni wir fywyd. 

Mae’r ddefod yn rhad ac am ddim i fynychu, gyda rhoddion yn cael eu gwahodd tuag at ein Apêl Nadolig. 

Bydd yn wasanaeth arbennig. Gwnewch eich gorau i fynychu, os y medrwch.


Sel!

Wrth i fywyd barhau i hanner dychwelyd i fath o normalrwydd, nid ydym eto wedi dod i benderfyniad cadarn ynghylch dyfodol siop y Gadeirlan. Rydym yn hyderus, fodd bynnag, y dylai ein croeso i bererinion ac ymwelwyr eraill gynnwys gwerthu anrhegion a deunydd ysbrydol o bwys, a byddwn yn parhau i archwilio hyn dros y misoedd i ddod.

Yn y cyfamser, mae gennym ni anrhegion, cardiau, llyfrau a gwrthrychau eraill wedi’u storio yn y siop a fyddai’n yn gwneud anrhegion Nadolig rhagorol, neu ychwanegiadau at gasgliadau cyfredol. A bydd gwerthu stoc yn darparu rhywfaint o incwm ychwanegol buddiol ar gyfer y Gadeirlan!

Mae’n newydd da felly y byddwn, dros Suliau’r Adfent, ac yn cychwyn ar Ŵyl Crist y Brenin, yn cynnal gwerthiant nwyddau siop y Gadeirlan ym mhen gorllewinol Corff yr Eglwys ar ddiwedd y ddau Gymun fore Sul ac ar ôl Gosber ar Gân nos Sul.

Mae yna rai bargeinion rhagorol i’w cael, felly cymerwch gip. Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr sydd wedi gweithio’n galed i ddidoli stoc, ac i alluogi’r stondin i fod ar waith.


Sul y Cofio

Braf oedd croesawu’r Esgob, Maer Bangor, llawer o grwpiau cymunedol, a theuluoedd y rhai a gollwyd i’n defodau Sul y Cofio ddydd Sul diwethaf. Braf hefyd oedd gweld cymuned y Gadeirlan yn cael ei chynrychioli gan gynulleidfa, clerigion a Chôr wrth y Gofeb am 11am. Ein diolch i bawb a helpodd i wneud y gwasanaeth yn un llwyddiannus a theilwng i’n cymuned leol.


Gosber ar Gân ar ddydd Iau

Mae wedi bod yn hyfryd gallu offrymu Gosber ar Gân unwaith eto ar brynhawn Sul am 3.30pm. Mae’n newyddion gwell fyth ein bod bellach mewn sefyllfa i adfer offrymu Gosber ar Gân yn ystod yr wythnos. O ddechrau mis Rhagfyr, caiff Gosber ar Gân ei offrymu yn ddwyieithog bob nos Iau am 5.30pm. Cefnogwch y gwasanaeth rhyfeddol hwn gyda’ch presenoldeb. Mae’n wasanaeth arbennig o dda i wahodd ffrindiau a’r rhai sydd ar gyrion bywyd yr Eglwys i’w fynychu.


Goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau

Mae’n hyfryd o beth i’r y gwaith i adnewyddu’r goleuadau yng Nghorff yr Eglwys a’r Eiliau, gan osod gwifrau newydd, fynd rhagddo’n llwyddiannus dros y dyddiau diwethaf. Daw i ben yr wythnos hon â gwaith manwl yn y Cwîr a’r Seintwar. Mae’n dda gallu chwalu rhywfaint o’r tywyllwch, hyd yn oed os yw’r golau’n tynnu sylw at yr angen am waith cynnal a chadw ac atgyweirio pellach!


Coleg Offeiriadol y Gadeirlan

Nodyn oddi wrth yr Is-Ddeon:

Rydw i ac aelodau eraill ein “tîm cartref” clerigol – Canon Tracy Jones a Canon Angela Williams – wedi cymryd yr awenau o ran gweinidogaeth offeiriadol sacramentaidd yn y Gadeirlan dros y ddeufis diwethaf, gan gynnwys trwy lywyddu yn y Cymun Bendigaid ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. , a gweinyddu mewn Bedyddiadau, Priodasau ac Angladdau yn y Gadeirlan ac mewn mannau eraill yn yr Ardal Weinidogaeth. Rwy’n ddiolchgar iawn i’m cydweithwyr am eu hymroddiad i’w gweinidogaeth offeiriadol, yn ogystal â bod yn ddiolchgar i’r nifer o bobl leyg sy’n gweinidogaethu ochr yn ochr â ni o ddydd i ddydd yng nweinidogaethau’r gair, cerddoriaeth, gwasanaeth a chroeso.

Rwy’n falch ein bod bellach yn gallu cymryd cam pellach o ran y rhai sy’n rhannu mewn gweinidogaeth offeiriadol sacramentaidd yn y Gadeirlan. Dros y dyddiau diwethaf, cynhaliais gyfarfod cyntaf “Coleg Offeiriadol y Gadeirlan”. Bydd y Coleg yn cynnwys yr holl offeiriaid hynny a fydd yn arfer gweinidogaeth offeiriadol sacramentaidd yn y Gadeirlan, trwy gymryd rhan fel gweinidogion yn y Cymun fore Sul, trwy arwisgo ar gyfer y Gosber ar Gân, a thrwy lywyddu yn nathliadau’r Cymun yn ystod yr wythnos. Bydd rhai aelodau o’r Coleg sydd wedi gwneud y Gadeirlan yn gartref ysbrydol iddynt yn chwarae rhan reolaidd yn ein haddoliad o’r Adfent ymlaen. Bydd eraill, sy’n byw ymhellach i ffwrdd, yn arfer rôl llai aml o reidrwydd, trwy, er enghraifft, lywyddu’n fisol mewn Cymun yn ystod yr wythnos wrth ymgymryd â “shifft” stiwardio yn y Gadeirlan. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gwrdd gyda’n gilydd yn fisol, i ymgynghori a gweddïo gyda’n gilydd.

Rwy’n ddiolchgar i’m cydweithwyr am eu parodrwydd i wasanaethu fel hyn. Gobeithio y bydd eraill yn gallu ymuno â’u nifer maes o law. A fyddech cystal â gwybod eich bod yng ngweddïau’r Coleg Offeiriadol, a gweddïwch drostynt hwy (drosom ni) hefyd.


Ar y Sul

Mae'n patrwm addoli yng Nghadeirlan Deiniol Sant ar y Sul fel a ganlyn:

  • dathliad o’r Holy Eucharist am 8.15am (yn dawel yn y Seintwar; oedfa Saesneg)
  • dathliad o’r Cymun Bendigaid ar Gân am 9.15am (yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Gymraeg)
  • dathliad o’r Choral Holy Eucharist am 11am (eto, yn llawen, yn lliwgar ac yn gerddorol yng Nghorff yr Eglwys; oedfa Saesneg)
  • offrymiad o’r Gosber ar Gân | Choral Evensong am 3.30pm (yn draddodiadol, yn ddirdynnol ac yn gerddorol yn Seddi'r Cwîr a'r Seintwar; oedfa ddwyieithog).

Caiff paned ei weini rhwng y Cymun 9.15am ac 11am – gyda gwahoddiad i aros ar ôl y Cymun 9.15am, neu ddod yn gynnar ar gyfer y Cymun 11am; bydd diodydd oer yn cael eu gweini ar ôl y Cymun 11am.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



Weekly notices


A Ceremony of Light

Advent Sunday
28 November
5.30pm

The first of our traditional, atmospheric and musically-rich ceremonies on a Sunday evening during the Christmas period takes place next Sunday, Advent Sunday. This bilingual, candle-lit ceremony will invite us to attend to Christ, the light of the world and the life of all people. The ceremony is free to attend, with donations invited towards our Christmas Appeal. It will be a wonderful service. Please make it a priority to attend, if you can.


Sale!

As life continues its half-return to normal, we have not yet been able to come to a firm decision about the future of the Cathedral shop. We are confident, however, that our welcome to pilgrims and other visitors should include the sale of gifts and spiritually serious material, and we will continue to explore this over the months ahead.

In the meantime, we have gifts, cards, books and other objects stored in the shop that will make for excellent Christmas gifts, or additions to existing collections. And sales of stock will provide some welcome additional income for the Cathedral!

It’s therefore good news that, over the Sundays of Advent, and starting on the Feast of Christ the King, we will be hosting a sale of Cathedral shop merchandise at the West End of the Nave at the end of the Sunday morning Eucharists and after Sunday’s Choral Evensong.

There are some excellent bargains to be had, so please take a look. We are grateful to colleagues who have worked hard to sort through stock, and to enable the stall to be in operation.


Remembrance Sunday

It was good to welcome the Bishop, the Mayor of Bangor, many community groups, and relatives of the fallen to our Remembrance Sunday observances last Sunday. It was also good to see the Cathedral community represented by clergy, congregation and Choir at the War Memorial at 11am. Our thanks to all who helped to make the service a successful and worshy one for our local community.


Choral Evensong on Thursday

It has been wonderful to be able to offer Choral Evensong again on a Sunday afternoon at 3.30pm. It is even better news that we are now in a position to reinstate a weekday offering of Choral Evensong. From the beginning of December, Choral Evensong will be offered bilingually every Thursday evening at 5.30pm. Please support this wonderful service with your presence. It’s a particular good service to which to invite friends and those on the margins of Church life.


Lighting in the Nave and Aisles

Works to replace the light fittings in the Nave and the Aisles, supported by new wiring, have continued apace, and will conclude over the coming week with delicate work in the Quire and Presbytery. It is good to be able to dispel some of the gloom, even if the light highlights the need for further maintenance and repair works!


The Cathedral’s College of Priests

A note from the Sub-Dean:

I and the other members of the “home team” of clergy – Canon Tracy Jones and Canon Angela Williams – have taken the lead in terms of sacramental priestly ministry at the Cathedral over the last two months, including by presiding at the Sunday and weekday Eucharists, and officiating at Baptisms, Weddings and Funerals in the Cathedral and elsewhere in the Ministry Area. I am very grateful to my colleagues for their dedication to their priestly ministry, as well as being grateful to the many lay people who minister alongside us day-by-day in ministries of word, music, service and welcome.

I am glad that we are now able to take a further step with regard to those who share in sacramental priestly ministry at the Cathedral. Over the couse of the past few days, I convened the first meeting of the “College of Priests”. The College will consist of all those priests who will exercise a sacramental priestly ministry at the Cathedral, by participating as ministers at the Sunday morning Eucharists, by vesting for Choral Evensong, and by presiding at weekday celebrations of the Eucharist. Some members of the College who have made the Cathedral their spiritual home will be playing a regular part in our worship from Advent onwards. Others, who live further away, will place a necessarily less frequent role, by, for example, residing on a monthly basis at a weekday Eucharist while undertaking a stewarding “shift” at the Cathedral. We have also committed to meeting together monthly, to confer and pray together.

I am grateful to my colleagues for their willingness to serve in this way. I hope that others will soon be able to join their number. Please know that you are in the prayers of the members of the College of Priests, and please pray for them (for us), too.


On Sundays

Our pattern of worship at Saint Deiniol’s Cathedral consists of:

  • a celebration of the Holy Eucharist at 8.15am (quietly in the Presbytery; an English-language service)
  • a celebration of the Cymun Bendigaid ar Gân at 9.15am (joyfully, colourfully and musically in the Nave; a Welsh-language service)
  • a celebration of the Choral Holy Eucharist at 11am (again, joyfully, colourfully and musically in the Nave; an English-language service)
  • an offering of Gosber ar Gân | Choral Evensong at 3.30pm (traditionally, atmospherically and musically in the Quire & Presbytery Stalls; a bilingual service)

Coffee and tea are served between the 9.15am and 11am Eucharist – please stay after the 9.15am Eucharist, or come early for the 11am Eucharist; a drinks reception follows the 11am Eucharist.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.