minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Y Johannes-Passion ar Sul y Blodau | The Johannes-Passion on Palm Sunday
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...

Y Gadeirlan ar Newyddion S4C, yn sĂ´n am Saith Air y Groes

Clawr rhaglen Saith Air y Groes

Yr Wythnos Fawr

Ysgrifenna'r Is-Ddeon:

Edrychaf yn ôl ar yr wythnos ddiwethaf yn y Gadeirlan gyda diolchgarwch aruthrol. Mewn gair a sagrafen, mewn gerddoriaeth a barddoniaeth, mewn defod gysegredig a gweddi leddf, yr ydym wedi rhodio gyda Christ, ac wedi marw gydag ef, a, gydag ef, wedi cyfodi. Rydyn ni wedi croesawu cannoedd o bobl i ymuno â ni ar y daith honno, ac mae ansawdd popeth rydyn ni wedi’i gynnig i ogoniant Duw wedi bod o’r radd flaenaf. O’r Johannes-Passion ar Sul y Blodau i Saith Air y Groes ar Ddydd Gwener y Groglith i ymprydiau a ddathliadau ffurfiol beunyddiol yr Eglwys, gogoneddwyd Duw yn y fangre hon. Nid oes dim o hyn yn digwydd heb i lawer roi o’u hegni a’u dawn i’r gymuned hon sydd bellach yn gartref iddynt, ac yr wyf yn hynod ddiolchgar am hynny. Atgyfododd Crist! Gyda chalonnau llawen, llawn, ymatebwn: Haleliwia!


Sioe Ffasiwn

Mae ein sioe ffasiwn er budd Banc Bwyd y Gadeirlan yn symud i mewn i’r Gadeirlan ei hun y tro hwn. Bydd yn cael ei gynnal yma am 3.00pm ddydd Sadwrn 15 Ebrill. Trefnir y sioe ffasiwn gyda chymorth “Shine by Ali”, sy’n dylunio dillad, gemwaith, bagiau a sgarffiau fforddiadwy a hwyliog. Mae tocynnau mynediad yn £5.00 oddi wrth Lesley, ymlaen llaw neu ar y drws.


Darlith Goffa

Cynhelir darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru eleni wedi’r Gosber ar ddydd Iau 20 Ebrill. Ein darlithydd yw’r Athro D. Densil Morgan, yr academydd o fri ar grefydd Protestannaidd Cymru’r canrifoedd diwethaf, a phregethwr o bwys gyda’r Bedyddwyr. Ei bwnc fydd yr offeiriad, y bardd a’r cyfieithydd Edmwnd Prys, a hynny ym phedwarcanmlwyddiant ei farw.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i'r Gesimáu a'r Grawys. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...

The Paschal Candle

Our black Gwynedd Vestments, worn on Good Friday

Holy Week

The Sub-Dean writes:

I look back at the last week at the Cathedral with immense gratitude. In word and sacrament, it music and poetry, in sacred rite and solemn prayer, we have walked with Christ, and died with him, and, with him, risen again. We have welcomed hundreds of people to join us on that journey of journeys, and the quality of all that we have offered to God’s glory has been of the highest order. From the Johannes-Passion on Palm Sunday to Saith Air y Groes on Good Friday to the daily formal fasts and feasts of the Church, God was glorified in this place. None of this happens without many giving of their time and talent to this community that they call their home, and for that I am immensely thankful. Christ is risen! With full, glad hearts, we reply: Alleluia!


Fashion Show

Our Fashion Show in aid of the Cathedral Foodbank is moving into the Cathedral itself this time. It will take place here at 3.00pm on Saturday 15 April. The Fashion Show is arranged with the help of “Shine by Ali”, who design affordable and fun clothing, jewellery, bags and scarves. Admission tickets are £5.00 from Lesley, in advance or on the door.


Memorial Lecture

This year’s Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture takes place after Evensong on Thursday 20 April. Our lecturer is Professor D. Densil Morgan, the distinguished academic of post-Reformation Protestant Wales, and Baptist preacher of note. His subject will be the priest-poet and translator Edmwnd Prys, in this the 400th anniversary of this death.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Gesimatide and Lent. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.