minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol

Cyfres bregethu

“Yno bydd dy galon” (Mathew 6:21)

Y Grawys yw ein cyfnod yn yr anialwch, pan fo hunan-arholi, hunanymwadiad, astudiaeth a haelioni yn ein cynorthwyo i ailgyfeirio ein hunain tuag at Dduw. Wrth inni droi at Grist, mae gras Duw yn cwrdd â ni mewn sacramentau a defodau sy’n sancteiddio’n calonnau. Mae ein pregethau boreu Sul dros yr wythnosau hyn – wrth inni baratoi ar gyfer a chadw Grawys bendithiol – yn ein gwahodd i fyfyrio ar y sacramentau a’r defodau sy’n gyfarwydd inni; ac maent yn cloi gyda threm dros litwrgïau a defodau gweddnewidiol yr Wythnos Fawr a’r Tridiau Sanctaidd. Bydd aelodau o dîm y Gadeirlan a gwesteion arbennig yn ein tywys i ddeall mai “yno bydd dy galon.”

Yr wythnos hon, pregethau'n Canon Emeritws ar “Dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad” | Cymun Bendigaid.


Y Côr yng Nghadeirlan Caer | The Choir in Chester Cathedral

Y Côr yng Nghadeirlan Caer

Canodd ein Côr yn fendigedig yn y Gosber ar Gân neithiwr yng Nghadeirlan Caer. Hyfryd oedd clywed gosodiad Cymraeg Dilys Elwyn-Edwards o Salm 23. 

Braf, hefyd, oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd o deulu’r Cadeirlan yn y gynulleidfa. 

Ein diolch i bawb, gan gynnwys rhieni’r Côr, a helpodd â’r daith.


Canon Tracy Jones

Caiff ein Canon dros Fywyd Cynulleidfaol ei chomisiynu’n Ddeon Bro ac Is-Gadeirydd y Synod ar gyfer Archddiaconiaeth Bangor yn y Gosber ar Gân nos Sul yma, 19 Chwefror

Byddwn hefyd yn bendithio urddwisgoedd newydd y Gadeirlan yn y gwasanaeth. 

Estynnir croeso cynnes i bawb.


Siopa

Yn dilyn y sêl llwyddiannus o stoc Nadoligaidd y siop ym mis Rhagfyr, bydd sêl arall yn cael ei gynnal ar ôl gwasanaethau’r Sul o'r Sul yma ymlaen, a bargeinion ar gael. 

Gobeithiwn ail-ddechrau gwerthu llyfrau dethol yn ystod y Grawys, a da fydd cynnull y rhai fu’n gwirfoddoli yn y siop maes o law.


Cysegriad

Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i bawb sy’n ein helpu i baratoi ar gyfer y Cysegriad Esgobol ddydd Sadwrn nesaf, pan fydd yr Archesgob yn ordeinio dau esgob newydd yn y Gadeirlan. Mae’r gwasanaeth taleithiol hwn o reidrwydd yn wasanaeth wedi ei docynnu.


Croesawu Esgob Cynorthwyol Bangor newydd

Ddydd Mawrth 1 Mawrth, mae gwasanaeth esgobaethol yn cael ei gynnal yn y Gadeirlan i groesawu ein Hesgob Cynorthwyol newydd, Mary Stallard. Mae croeso i bawb yn y gwasanaeth hwn – ymunwch â ni i groesawu ein Hesgob newydd ynghyd â chyfeillion o bob cwr o’r esgobaeth.


Dydd Mercher Lludw

Mae’r Grawys yn cychwyn ar Ddydd Mercher Lludw, 2 Mawrth. Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i bob un ohonom wrth i ni ddechrau tymor o edifeirwch, hunan-ymwadu, astudio ac elusengarwch. Dethlir dau Gymun yn y Gadeirlan ar Ddydd Mercher Lludw – ein Cymun dyddiol arferol am 12.30pm, a Chymun ar Gân gyda phregeth am 5.30pm. Bydd llwch yn cael ei arddodi yn y ddau wasanaeth. Ar ddyddiau Mercher dilynol yn y Grawys, byddwn yn cerdded ac yn gweddïo Gorsafoedd y Groes, gyda cherddoriaeth, am 7.30pm. Gwnewch ymdrech i fynychu defosiynau’r Grawys dros yr wythnosau nesaf.


Cadair yr Archesgob yn cyrraedd y Gadeirlan o Gadeirlan Aberhonddu | The Archbishop's throne arriving at the Cathedral from Brecon Cathedral

Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

Mae rhaglen lawn ar gyfer y tymor yn rhifyn cyfredol Buchedd Bangor. Cefnogwch y fenter hon os gallwch, a lledaenwch y newyddion.

24 Chwefror
Stephen Matthews | Tenor

3 Mawrth
Georgia Payne | Trwmped


Clas

Clas yw’r teitl ar gyfer fforwm Zoom bob pythefnos, a fydd yn ymgynnull ar ddydd Llun am 6.30pm, i roi cyfle inni ddysgu, trafod a myfyrio.

Ystyriwch ymuno â ni mewn sgwrs a myfyrdod. ID cyfarfod Zoom yw 857 3402 4520 a’r cod pas yw 606397, a bydd yr ystafell Zoom ar agor o 6.15pm.

Mae rhaglen lawn o bum sesiwn ar gyfer y tymor i ddod yn ymddangos yn rhifyn newydd Buchedd Bangor. Ystwyriwch fynychu os gallwch, a lledaenwch y newyddion.

21 Chwefror
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs â Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol newydd Bangor

7 Mawrth
Yr Is-Ddeon mewn sgwrs â Jordan Hillebert am fywyd a gwaith y diwinydd Henri de Lubac


Buchedd Bangor

Ail rifyn cylchgrawn newydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

Mae’r rhifyn hwn yn gydymaith i’r cyfnod o Chwefror hyd y Tridiau Sanctaidd. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.

Cliciwch ar y llun uchod i ddarllen copi.

Y bwriad yw cyhoeddi pum rhifyn o Buchedd Bangor dros y flwyddyn, a phob un yn cyd-fynd â chyfnod penodol ym mywyd addoli’r Gadeirlan, ac â chyfres o bregethau ar fore Sul i’n tywys drwy’r cyfnod hwnnw.

Ewch â chopi i eraill fel cyflwyniad i fywyd a bwrlwm y Gadeirlan.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices

Our sermon series

“Where the heart is” (Matthew 6:21)

Lent is our time in the wilderness, when self-examination, self-denial, study and generosity help us to reorientate ourselves towards God. As we turn to Christ, God’s grace meets us in sacraments and rites that hallow our hearts. Our Sunday morning sermons over these weeks – as we prepare for and keep a holy Lent – invite us to contemplate the sacraments and rites that are familiar to us; and they conclude with our anticipation of the life-changing liturgies and rites of Holy Week and the Sacred Triduum. Members of the Cathedral team and special guests will explore with us “where the heart is.”

This week, our Canon Emeritus preaches on “Bear fruit with patient endurance” | Holy Eucharist.


Y Côr yng Nghadeirlan Caer | The Choir in Chester Cathedral

The Choir in Chester Cathedral

Our Choir sang wonderfully at yesterday evening’s Choral Evensong at Chester Cathedral. It was super to hear Dilys Elwyn-Edwards’ Welsh-language setting of Psalm 23 as the anthem. 

It was good, too, to see so many familiar faces from our Cathedral family in the congregation. 

Our thanks to all those, not least the Choir parents, who made the visit possible.


Canon Tracy Jones

Our Canon for Congregational Life will be commissioned as Area Dean and Synod Vice-Chair for the Archdeaconry of Bangor at Choral Evensong this Sunday evening, 19 February at 3.30pm

We will also be blessing new Cathedral vestments at the service. 

A warm welcome is extended to all.


Shopping!

Following the successful sale of the Christmas merchandise from the shop in December, a further sale is being held after Sunday services this week, with some wonderful bargains to be had. 

We hope to resume selling select books during Lent, and look forward to gathering the shop volunteers for an update before long.


Consecration

Many thanks are due to all who are helping us to prepare for this coming Saturday’s Episcopal Consecration, when the Archbishop will ordain two new bishops at the Cathedral. This provincial service is of necessity a ticketed service.


Welcoming the new Assistant Bishop of Bangor

On Tuesday 1 March, a diocesan service is being held at the Cathedral to welcome our new Assistant Bishop, Mary Stallard. All are welcome at this service – please join us to welcome our new Bishop with colleagues from across the diocese.


Ash Wednesday

Lent begins on Ash Wednesday, 2 March. This is an important day for all of us as we begin a season of penitence, absitence, study and almsgiving. Two Eucharists are being celebrated at the Cathedral on Ash Wednesday – our usual daily Eucharist at 12.30pm, and a Choral Eucharist with sermon at 5.30pm. Ashes will be imposed at the two services. On subsequent Wednesdays in Lent, we will walk and pray the Stations of the Cross, accompanied by music, at 7.30pm. Please make an effort to attend Lenten devotions over the weeks ahead.


Cadair yr Archesgob yn cyrraedd y Gadeirlan o Gadeirlan Aberhonddu | The Archbishop's throne arriving at the Cathedral from Brecon Cathedral

Coffee-break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

A full programme for the current season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please support this venture if you can, and please spread the news.

24 February 
Stephen Matthews | Tenor

3 March
Georgia Payne | Trumpet


Clas

Clas is our new fortnightly Zoom forum, convening on Mondays at 6.30pm, that provide an opportunity to learn, discourse and reflect. 

Please consider joining us in conversation and reflection. The Zoom meeting ID is 857 3402 4520 and the passcode is 606397, and the Zoom room will be open from 6.15pm.

A full programme of five sessions for the coming season appears in the new edition of Buchedd Bangor. Please consider attending if you can, and please spread the news.

21 February
The Sub-Dean in conversation with Mary Stallard, the new Assistant Bishop of Bangor

7 March
The Sub-Dean in conversation with Jordan Hillebert about the life and work of the theologian Henri de Lubac


Buchedd Bangor

The second edition of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor's new magazine

This second edition is a companion to the period from February until the Sacred Triduum. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.

Click on the image above to read a copy.

The intention is to publish five issues of Buchedd Bangor over the course of the year, each coinciding with a specific period in the Cathedral’s worshipping life, and complementing a series of Sunday morning sermons that will guide us through each period.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.