minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Defodau’r Adfent a’r Nadolig

Ysgrifenna'r Is-Ddeon:

I’r Eglwys, megis dechrau y mae’n dathlu o’r Dolig – ein llawenydd ar ganfod goleuni Crist yn llewyrchu yn ein plith. Mae tymor y Nadolig, yn wir, yn hwy na phedair wythnos yr Adfent, a byddwn yn gwisgo gwyn ac yn canu “Gloria in Excelsis Deo” tan Ddygwyl Fair y Canhwyllau ar Sul olaf Ionawr, pan fyddwn yn dathlu cyflwyniad Crist gan ei rieni yn y Deml. Mae’n ddisgyblaeth dda i ni gynnal y dathliad ysbrydol hwnnw yn ein bywydau a’n haddoliad – gan anrhydedd goleuni Crist ym mysg y tywyllwch sy’n dal i wasgu o’n cwmpas. Bydd ein perfformiad defosiynol o’r Ceremony of Carols o waith Benjamin Britten a Naw Llith a Charol y Canhwyllau yn ein helpu i barhau i ddathlu yn ystod y mis sydd i ddod.

Fodd bynnag, mae ein gwasanaeth i’n cymuned yn golygu bod ein dathliad o’r Nadolig yn eithaf aeddfed bellach, ac roedd wythnosau olaf yr Adfent a phenwythnos Dydd Nadolig yn gyfnod o weithgarwch llawen yn y Gadeirlan ac Eglwys y Groes. O’n Carolau ar Wib a’r Meseia, trwy ein Naw Llith, ac hyd at Wasanaeth y Preseb a’n Cymun Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig, croesawyd dros 1,200 o bobl i’r Gadeirlan ac Eglwys y Groes – llawer ohonynt yn croesi’r trothwy ar gyfer y tro cyntaf, neu am y tro cyntaf ers cryn dipyn. Galwyd am waith caled ar draws teulu’r Gadeirlan a Bro Deiniol i’n galluogi i gynnig ein holl ddefodau’n groesawgar ac i safon mor uchel. Mae fy niolch i bawb am eu hymroddiad a’u gofal, ac mae gen i obeithion mawr am bopeth a ddaw dros y flwyddyn i ddod.

Nadolig llawen parhaus i chi, felly – a fy nymuniadau gorau ar gyfer Blwyddyn Newydd fendithiol.


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

19 Ionawr | Joe Cooper & Simon Ogdon | Piano

Mae Joe Cooper a Simon Ogdon yn dychwelyd i agor tymor Datganiadau Paned 2023 gyda deuawdau piano gan y cyfansoddwyr Rhamantaidd Ffrengig.

26 Ionawr | Ensemble Jazz Prifysgol Bangor

Yn cynnwys myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn bennaf, daeth y grŵp at ei gilydd fel rhan o Fodiwlau Perfformio Prifysgol Bangor i alluogi myfyrwyr i gael profiad o berfformio gyda’i gilydd yn y traddodiad jazz. Edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r Gadeirlan


Britten, A Ceremony of Carols

15 Ionawr am 6pm

Lleisiau uchaf Côr y Gadeirlan mewn perfformiad atmosfferig o osodiad hyfryd Benjamin Britten o garolau a gweithiau eraill.

Tocynnau | £5 pris llawn | Plant am ddim


Naw Llith a Charol y Canhwyllau

29 Ionawr am 6pm

Ar ddiwedd dathliadau’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio gyda Mair, Joseff a’r plentyn i Gaersalem, ar gyfer defod olaf y tymor, gan ddal y golau o’n blaenau, a chan weddïo yng ngoleuni’r fflam dros bopeth a fydd.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i baw


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i’r Advent a'r Nadolig. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


Advent & Christmas observances

The Sub-Dean writes:

For the Church, the celebration of Christmas – our outpouring of joy at the light of Christ in our midst – has only just begun. The season of Christmastide is, indeed, longer that the four weeks of Advent, and we will wear white and sing “Gloria in Excelsis Deo” until the Festival of Candlemas on the last Sunday of January, when we celebrate Christ’s presentation by his parents at the Temple. It is a good discipline for us to maintain that spirit celebration in our lives and worship – an honouring of the light of Christ amid so much of the darkness that still presses round. Our devotional performance on Britten’s A Ceremony of Carols and our Nine Lessons & Carols of Candlemas will help us to continue to celebrate during the month ahead.

However, our service to our community means that our celebration of Christmas started a while ago, and the last few weeks of Advent and the weekend of Christmas Day were times of joyful business at the Cathedral and Eglwys y Groes. From our Carols with the Snowman and Messiah, by way of our Nine Lessons, and to our Crib Service and Eucharists of Christmas Eve and Christmas Day, we welcomed over 1,200 people to the Catherdral and Eglwys y Groes – many of whom crossed the threshold for the first time, or for the first time in quite a while. Hard work was called for across the Cathedral and Bro Deiniol family to enable all of our observances to be offered so welcomingly and to such a high standard. My thanks go to all for their devotion and care, and I have high hopes for all that will be over the year to come.

A continuing merry Christmas to you, and my best wishes for a blessed New Year.


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

19 January | Joe Cooper & Simon Ogdon | Piano

Joe Cooper and Simon Ogdon return to open our 2023 season of Coffe-Break Recitals with piano duets by the French Romantics.

26 January | Bangor University Jazz Ensemble

Made up primarily of second and third year students, the group came together as part of Bangor University Performance Modules to enable students to gain experience performing together in the jazz tradition. We look forward to welcoming them to the Cathedral.


Britten’s A Ceremony of Carols

15 January at 6pm

The upper voices of the Cathedral Choir in an atmospheric performance of Benjamin Britten’s wonderful cycle of carols and other works.

Tickets | £5 full price | Children free


Nine Lessons & Carols of Candlemas

29 January at 6pm

At the end of Christmastide’s celebrations, join us as we travel with Mary, Joseph and the Christ child to Jerusalem, for the final observance of the season, holding the light ahead of us, and praying by the candle’s flame for all that will be.

Entrance is free, and all are welcome


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Advent and. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.