minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Mark Brafield

Y Plygain

Mae’n diolch yn fawr i aelodau o deulu’r Gadeirlan fu’n cefnogi gwasanaeth y Plygain nos Wener. Da oedd cynnwys yn offrwm traddodiadol hwn o fawl Cymreig yn ein harlwy yn nhymor y Nadolig.


Esgob Enlli

Ymestynnwn longyfarchiadau twymgalon i’n Canon Secundus, Canon David Morris, ar ei benodiad yn Esgob Enlli ac yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor. Rydym wedi elwa’n fawr o weinidogaeth y Darpar-Esgob yn y Gadeirlan ers iddo ddychwelyd i Fangor, ac edrychwn ymlaen at gefnogi ei weinidogaeth esgobol yn y blynyddoedd i ddod. Cynhaliwch y Darpar-Esgob yn eich gweddïau wrth iddo baratoi ar gyfer ei Gysegriad yn ddiweddarach eleni.


La Nativité du Seigneur

Nos Fercher yma am 6.00pm rydym yn croesawu Mark Brafield i’r Gadeirlan am ddatganiad organ arbennig gyda’r nos, yn syth ar ôl y Gosber ar Gân am 5.30pm. Bydd yn perfformio ail gyfansoddiad mawr Olivier Messiaen ar gyfer yr organ, La Nativité du Seigneur – myfyrdod gwreiddiol, technegol gymhleth ond emosiynol a didwyll mewn naw symudiad yn seiliedig ar stori’r Geni. Mae croeso i bawb ac mae mynediad am ddim.

Y Cwstos

Ac yntau wedi gwasanaethu’r Gadeirlan am ddwy flynedd, daw cyfnod Simon Taylor fel ein Cwstos i ben heddiw. Bydd cyfle i ddiolch yn ffurfiol i Simon a dymuno’n dda iddo ar ôl y Choral Holy Eucharist.


Messiah

Ar drothwy tymor dwys y Grawys, ymunwch â ni am 6.00pm nos Sul 11 Chwefror ar gyfer perfformiad defosiynol o Rannau II a III o’r Messiah gan George Frideric Handel.

Mae Rhan II o’r Messiah yn adrodd hanes Dioddefaint a marwolaeth Crist, ei Atgyfodiad a’i Ddyrchafael, a lledaeniad cyntaf yr Efengyl, gan arwain at gyhoeddiad gogoneddus o ogoniant Duw yng nghorws yr Haleliwia. Mae Rhan III’n archwiliad cyfrin mewn cân o’r addewid o dragwyddoldeb: “Mi wn fod fy Mhrynwr byw,” medd y soprano ar ei gychwyn; “Teilwng yw’r Oen” yw canmoliaeth y Corws ar ei ddiwedd.

Bydd y gerddoriaeth yn cael ei chanu gan Gôr y Gadeirlan, gyda’r unawdwyr ar gyfer yr ariâu hardd wed ei dwyn o’i rengoedd; a bydd y perfformiad yn cael ei arwain gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, Joe Cooper.

Mae tocynnau wrth y drws ac ar werth ar ddiwedd gwasanaethau’r Sul yn £12 (£5 consesiynau myfyrwyr).


Dydd Mercher y Lludw

Mae Dydd Mercher y Lludw, y diwrnod sy’n nodi dechrau’r Grawys, i’w gadw eleni ar 14 Chwefror. Dyma atgof da y dylem ni, yng Nghymru, ddathlu cariadon ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, 25 Ionawr, gan fod i Ddydd San Ffolant berwyl gwell eleni. Ar Ddydd Mercher y Lludw offrymir y Cymun Bendigaid ar Gân ag Arddodi Lludw yn ddwyieithog yn y Gadeirlan am 12.30pm a hefyd am 6.00pm. Rhowch flaenoriaeth i’ch presenoldeb yn un o’r dathliadau hyn yn eich dyddiadur, fel y gall eich hymrwymiad i’r Garawys ddechrau’n fyfyriol, yn benydiol, yn sagrafenaidd ac yn brydferth.



Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Mark Brafield

Plygain

Our thanks is due to members of the Cathedral family who supported the Plygain service on Friday night. It was good indeed to include this traditional offering of Welsh praise in our worship this Christmastide.


A new Bishop of Bardsey

We offer our warmest congratulations to our Canon Secundus, Canon David Morris, on his appointment as Bishop of Bardsey, an Assistant Bishop in the Diocese of Bangor. We have benefitted greatly from the Bishop-Designate’s ministry at the Cathedral since his return to Bangor, and we look forward to supporting his episcopal ministry in the years to come. Please hold the Bishop-Designate in your prayers as he prepares for his Consecration later this year.


La Nativité du Seigneur

This Wednesday evening at 6.00pm we welcome Mark Brafield to the Cathedral for a special evening organ recital, immediately following Choral Evensong at 5.30pm. He will be performing Olivier Messiaen’s second major cycle of organ music, La Nativité du Seigneur – an original, technically complex but emotional and sincere meditation in nine movements based on the Christmas story. All are welcome and entrance is free.


The Custos

Following two years of service, Simon Taylor’s time as our Custos comes to an end today. There will be an opportunity formally to thank Simon and to wish him well after the Choral Holy Eucharist.


Messiah

On the threhold of the holy season of Lent, join us at 6.00pm on Sunday 11 February for a devotional performance of Parts II & III of George Frideric Handel’s Messiah.

Part II of Messiah tells the story of Christ’s Passion and death, his Resurrection and Ascension, and the first spreading of the Gospel, culminating in the glorious proclamation of God’s glory in the Hallelujah chorus. The mystical Part III is an exploration in song of the promise of eternal life: “I know that my Redeemer liveth,” sings a soprano at its outset; “Worthy is the Lamb,” acclaims the Chorus at its end.

The music will be sung by the Cathedral Choir, with the soloists for Messiah’s beautiful arias drawn from its ranks; and the performance will be conducted by our Director of Music, Joe Cooper.

Tickets on the door and for sale at the end of Sunday services are £12 (£5 student concessions).


Ash Wednesday

Ash Wednesday, on which day we solemnly mark the beginning of Lent, falls this year on 14 February. It’s a good reminder that we ought, in Wales, to celebrate lovers on Saint Dwynwen’s Day, 25 January, as Saint Valentine’s Day is otherwise engaged this year. On Ash Wednesday a bilingual Choral Holy Eucharist with the Imposition of Ashes is offered at the Cathedral both at 12.30pm and also at 6.00pm. Please prioritise your attendance at one of these celebrations in your diary, so that your observance of a holy Lent might begin reflectively, penitentially, sacramentally and beautifully.



Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.