minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Hysbys wythnosol


Dros yr wythons ddiwethaf yn y Gadeirlan...


Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Britten, A Ceremony of Carols

15 Ionawr am 6pm

Lleisiau uchaf Côr y Gadeirlan mewn perfformiad atmosfferig o osodiad hyfryd Benjamin Britten o garolau a gweithiau eraill.

Tocynnau | £5 pris llawn | Plant am ddim


Naw Llith a Charol y Canhwyllau

29 Ionawr am 6pm

Ar ddiwedd dathliadau’r Nadolig, ymunwch â ni wrth i ni deithio gyda Mair, Joseff a’r plentyn i Gaersalem, ar gyfer defod olaf y tymor, gan ddal y golau o’n blaenau, a chan weddïo yng ngoleuni’r fflam dros bopeth a fydd.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb


Datganiadau Paned

Pob dydd Iau
11.15am am 45 munud
Paned a chacen o 10.45am

19 Ionawr | Joe Cooper & Simon Ogdon | Piano

Mae Joe Cooper a Simon Ogdon yn dychwelyd i agor tymor Datganiadau Paned 2023 gyda deuawdau piano gan y cyfansoddwyr Rhamantaidd Ffrengig.

26 Ionawr | Ensemble Jazz Prifysgol Bangor

Yn cynnwys myfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn yn bennaf, daeth y grŵp at ei gilydd fel rhan o Fodiwlau Perfformio Prifysgol Bangor i alluogi myfyrwyr i gael profiad o berfformio gyda’i gilydd yn y traddodiad jazz. Edrychwn ymlaen at eu croesawu i’r Gadeirlan


Marion Partington, R.I.P.

Trist oedd derbyn y newydd am farwolaeth sydyn Marion Partington, yn â fu’n addoli ac yn stiwardio yn y Gadeirlan am flynydoedd lawer. Bydd trefniadau angladd, ar gyfer gwasanaeth sydd i’w gynnal ddechrau Chwefror, yn cael eu cyhoeddi’r wythnos nesaf.


Oedfa Blygain yr Esgobaeth

Cynhelir Plygain yr Esgobaeth, pan fyddwn yn croesawu grwpiau o gantorion i gynnig carolau traddodiadol Cymraeg yn y Gadeirlan, ddydd Gwener yma am 7pm. Rydym wrth ein bodd y bydd aelodau ein Côr hefyd yn cymryd rhan.

Gwasanaethau’r Wythnos Weddi dros Undeb Cristnogol

Yn ystod yr Wythnos Weddi am Undod Cristnogol eleni, fe’n gwahoddir i fynychu’r gwasanaethau gweddi unedig a drefnir gan Cytûn: Eglwysi Ynghyd ym Mangor:

  • Nos Fercher 18 Ionawr am 7pm yn Penrallt Baptist Church
  • Nos Wener 20 Ionawr am 7pm yn Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Iago
  • Nos Lun 23 Ionawr am 7pm yn St John’s Methodist Church
  • Pnawn Mercher 25 Ionawr am 2pm yn Eglwys Emaus

Ein Cyfarwyddwr Cerdd

Rydym wrth ein bodd bod ein Cyfarwyddwr Cerdd, Joe Cooper, wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Bydd y rôl, sy’n ategu gwaith parhaus Joe yn y Gadeirlan, yn gweld Joe yn cyfarwyddo Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor, yn arwain ymarferion yr ensembles ar nos Lun a nos Fercher, ac yn arwain eu cyngherddau.

Ers penodi Joe y llynedd fel ein Cyfarwyddwr Cerdd, mae datblygiad rhaglen Ysgoloriaethau’r Gân yn y Gadeirlan wedi meithrin cynnydd sylweddol yn nifer myfyrwyr y Brifysgol sy’n canu yn y Gadeirlan. Ein gobaith yw y bydd cyfrifoldebau ychwanegol Joe yn y Brifysgol yn helpu i ddyfnhau’r cysylltiadau rhwng y Gadeirlan a’r Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf.

Ysgrifenna Joe:

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy mhenodi i arwain Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol. Rwyf hefyd yn gweld fy mhenodiad fel pleidlais o hyder gan y Brifysgol yn ansawdd cerddoriaeth y Gadeirlan. Edrychaf ymlaen at ddatblygu perthynas ffrwythlon rhwng creu cerddoriaeth yn y Gadeirlan a’r Brifysgol, ac at gyfoethogi ymhellach elfennau cerddorol bywyd y Gadeirlan.”

Ysgrifenna’r Is-Ddeon:

“Mae’n wych bod Joe yn ychwanegu’r cyfrifoldeb hwn yn y Brifysgol at ei waith yn y Gadeirlan. Mae arweinyddiaeth Joe o’r tîm cerdd dros y flwyddyn ddiwethaf hon wedi dod â chyfoeth mawr i deulu’r Gadeirlan, a bydd gweinidogaeth barhaus Joe yn ein plith yn cael ei gyfoethogi trwy ychwanegu’r cysylltiad mwy ffurfiol hwn â bywyd cerddorol y Brifysgol.”

Trwyddedau parcio

Bydd trwyddedau parcio newydd, sydd eu hangen ar gyfer defnyddio maes parcio’r Gadeirlan ar ddiwrnodau heblaw dydd Sul, yn dod i rym o ddechrau mis Chwefror, a byddant ar gael yn y derbyniad coffi a gwin ar ddydd Sul 22 a 29 Ionawr.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i’r Advent a'r Nadolig. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Weekly notices


From this past week at the Cathedral...


This Sunday and the week ahead...


Britten’s A Ceremony of Carols

15 January at 6pm

The upper voices of the Cathedral Choir in an atmospheric performance of Benjamin Britten’s wonderful cycle of carols and other works.

Tickets | £5 full price | Children free


Nine Lessons & Carols of Candlemas

29 January at 6pm

At the end of Christmastide’s celebrations, join us as we travel with Mary, Joseph and the Christ child to Jerusalem, for the final observance of the season, holding the light ahead of us, and praying by the candle’s flame for all that will be.

Entrance is free, and all are welcome


Coffee-Break Recitals

Thursdays
11.15am for 45 minutes
Tea, coffee and cake from 10.45am

19 January | Joe Cooper & Simon Ogdon | Piano

Joe Cooper and Simon Ogdon return to open our 2023 season of Coffe-Break Recitals with piano duets by the French Romantics.

26 January | Bangor University Jazz Ensemble

Made up primarily of second and third year students, the group came together as part of Bangor University Performance Modules to enable students to gain experience performing together in the jazz tradition. We look forward to welcoming them to the Cathedral.


Marion Partington, R.I.P.

We were sad to receive the news of the sudden death of Marion Partington, a long-time friend, worshipper and steward at the Cathedral. Funeral arrangements, for a service to take place in early February, will be announced next week.


Oedfa Blygain yr Esgobaeth

Our diocesan Plygain service, when we welcome groups of singers to offer traditional Welsh-language carols at the Cathedral, takes place this Friday at 7pm. We’re delighted that members of our Cathedral Choir will be taking part.

Week of Prayer for Christian Unity services

During this year’s Week of Prayer for Christian Unity, we are invited to attend the united services of prayer arranged by Cytûn: Churches Together in Bangor:

  • Wednesday 18 January at 7pm at Penrallt Baptist Church
  • Friday 20 January at 7pm at Our Lady’s & St James’s Church
  • Monday 23 January at 7pm at St John’s Methodist Church
  • Wednesday 25 January at 2pm at Eglwys Emaus

Our Director of Music

We’re delighted that our Director of Music, Joe Cooper, has been appointed as Bangor University’s Director of University Music. The role, which complements Joe’s continuing work at the Cathedral, will see Joe directing the Bangor University Symphony Orchestra and Chorus, leading the ensembles’ rehearsals on Monday and Wednesday evenings and conducting their concerts.

Since Joe’s appointment last year as our Director of Music, the development of the Cathedral Choir’s Choral Scholarship programme has fostered a significant increase in the number of University students singing at the Cathedral. Our hope is that Joe’s additional University responsibilities will help to deepen the links between the Cathedral and the University over coming years.

Joe writes:

“It’s an honour for me to have been appointed to lead the University Symphony Orchestra and Chorus. I also take my appointment as a vote of confidence by the University in the quality of the Cathedral’s music. I look forward to developing a fruitful relationship between music-making at the Cathedral and the University, and to further enriching the music elements of the Cathedral’s common life.”

The Sub-Dean writes:

“It’s wonderful that Joe is adding this University responsibility to his work at the Cathedral. Joe’s leadership of the music team over this past year has brought great richness to the Cathedral family, and Joe’s ongoing ministry among us will be enhanced by the addition of this more formal association with the University’s musical life.”

Parking permits

New parking permits, required for use of the Cathedral car park on days other than Sunday, will come into force from the beginning of February, and will be available at the coffee and drinks reception on Sunday 22 and 29 January.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Advent and. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.