minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Edmwnd Prys a John Davies

Darlith Goffa

Cynhelir darlith Goffa’r Dr Enid Pierce Roberts ar Hanes a Diwylliant Cymru eleni wedi’r Gosber ar ddydd Iau 20 Ebrill. Ein darlithydd yw’r Athro D. Densil Morgan, yr academydd o fri ar grefydd Protestannaidd Cymru’r canrifoedd diwethaf, a phregethwr o bwys gyda’r Bedyddwyr. Ei bwnc fydd yr offeiriad, y bardd a’r cyfieithydd Edmwnd Prys, a hynny ym phedwarcanmlwyddiant ei farw. Bu Prys yn Archddiacon Meirionnydd yn yr esgobaeth hon, ac, fel rhan o’r genhedlaeth gyntaf o gyfieithwyr Beiblaidd yng Nghymru, bu’n gyfrifol am y casgliad o salmau mydryddol Cymraeg, Salmau Cân (1621). Mae croeso cynnes i bawb y y ddarlith. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen cofrestru. Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm Cynhelir derbyniad gwin o 6.10pm, ac eto ar ôl y ddarlith. Cenir Gosber syml yn y Gadeirlan am 5.30pm, ac mae croeso i bawb ymuno â’n haddoliad


Gwasanaeth Esgobaethol a Sirol o Weddi a Diolchgarwch cyn Coroni Eu Marhwydi’r Brenin a’r Frenhines

Cynhelir ein gwasanaeth i weddïo dros a dathlu’r Coroni am 6.00pm nos Sul 30 Ebrill. Bydd y Côr yn canu cerddoriaeth a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd mewn Coroniadau blaenorol, gan gynnwys Sadoc y Ffeiriad gan Handel ac I was Glad gan Parry. Mae croeso i bawb; mae mynediad am ddim, a gellir cadw sedd yma; bydd derbyniad gwin i ddilyn. Bydd y gwasanaeth yn cymryd lle ein Gsober ar Gân arferol ar brynhawn Sul.


Sioe Ffasiwn

Rydym yn ddiolchgar iawn i Lesley Horrocks a’r holl dîm a gyfrannodd mor hael o’u hamser a’u hegni tuag at Sioe Ffasiwn ddydd Sadwrn, i godi arian ar gyfer y Banc Bwyd. Hyfryd oedd gweld y celfi newydd yn cael eu gosod allan yn greadigol a gweld Corff yr Eglwys yn fyw â lliw a llawenydd.


Buchedd Bangor

Mae’r rhifyn hwn o'n cylchgrawn yn gydymaith i Dymor y Pasg. Fe geir ynddo gymysgedd o ddefnydd ysbrydol a gwybodaeth ymarferol am ein bywyd ar y cyd.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol



This Sunday and the week ahead...


Memorial Lecture

This year’s Dr Enid Pierce Roberts Memorial Lecture in Welsh History & Culture takes place after Evensong this Thursday 20 April. Our lecturer is Professor D. Densil Morgan, the distinguished academic of post-Reformation Protestant Wales, and Baptist preacher of note. His subject will be the priest-poet and translator Edmwnd Prys, in this the 400th anniversary of this death. Prys was Archdeacon of Meirionnydd in this diocese, and, as part of the first generation of Biblical translators in Wales, was responsible for the Welsh language metrical psalm collection, Salmau Cân (1621). All are welcome at the lecture. Entry is free, and there is no need for prior registration. The lecture will begin at 6.30pm. A free drinks reception is held from 6.10pm, and again after the lecture. A simple Evensong is sung at the Cathedral at 5.30pm, and all are welcome to join our worship.


Diocesan & County Service of Prayer and Thanksgiving before the Coronation of Their Majesties The King and Queen

Our service to pray for and mark the Coronation takes place on Sunday 30 April at 6.00pm. The Choir will sing music composed for and performed at previous Coronations, including Handel’s Zadok the Priest and Parry’s I was Glad. All are welcome. Entrance is free; seats can be reserved here; and drinks reception will follow. The service will replace our usual Sunday afternoon Choral Evensong.


Fashion Show

We are very grateful to Lesley Horrocks and all the team who contributed so generously of their time to make Saturday’s Fashion Show, for the aid of the Cathedral Foodbank, such a success. It was wonderful to see the new furniture set out creatively and to see the Nave alive with colour and joy.


Buchedd Bangor

This edition of our magazine is a companion to Eastertide. It offers a mixture of devotional material and practical knowledge about our life together.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.