minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Dewi Sant (yn y canol) yn un o ffenestri'r Gadeirlan • Saint David (in the middle) in one of the Cathedral's stained glass windows
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Rhowch ddyddiadau'r Wythnos Fawr 2024 yn eich calendr heddiw

Cyd-gerddwn gamre’r Wythnos Fawr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant yng nghwmni R. S. Thomas, y bardd o offeiriad o Esgobaeth Bangor ac un o brif lenorion crefyddol yr 20fed ganrif. 

Yn guriad cyson i’n Hwythnos Fawr yn y Gadeirlan, cynigir defod sy’n gyforiog o addoliad a cherddoriaeth bob nos am 6.00pm o Sul y Blodau hyd Noswyl y Pasg. Bydd beirdd ac ysgolheigion o fri yn arwain ein defosiwn; a chomisiwn cerddorol eleni, a berfformir am y tro cyntaf ar nos Wener y Groglith, yw Yr Oedd Gardd gan Alex Mills – gosodiad corawl o gerddi R. S. Thomas heb eu cyhoeddi a nas gwelwyd mohonynt o’r blaen, wedi’u dethol o’i lawysgrifau a gedwir yn archif Canolfan Astudiaethau R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.

Cewch y rhaglen gyfan fan hyn



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Credoau, Cynghorau a Nyth Cacwn

Nos Fercher 28 Chwefror
am 6.00pm

Fel rhan o’n digwyddiadau nos Fercher yn ystod y Grawys, ac mewn cyswllt â’n cyfres bregethu dros y Grawys, bydd Canon Robin Ward yn rhoi sgwrs ar-lein o dan y teitl Credoau, Cynghorau a Nyth Cacwn: Cwrs gloywi am yr Eglwys Fore. Bydd y sgwrs yn mynd â ni ar daith drwy’r cyfnod patristig, gan ein haddysgu am ddiwinyddion allweddol y cyfnod hwn, a hyd yn oed am sut yr arweiniodd siantiau a ganwyd gan ddocwyr yn Alexandria at ledaeniad heresïau ar draws yr Ymerodraeth Rufeinig. Bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau ac i drafod y cyfnod hynod ddiddorol a ffurfiannol hwn yn hanes yr Eglwys.

Ein siaradwr, Robin Ward, yw Pennaeth Tŷ San Steffan, coleg diwinyddol Anglicanaidd yn Rhydychen y bu i’n His-Ganon ei fynychu. Bu Canon Ward yn gweinidogaethu mewn plwyfi yn Llundain a Chaint am bymtheng mlynedd, a derbyniodd radd doethur gan Goleg y Brenin, Llundain. Mae’n aelod o’r Gyfadran Diwinyddiaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn ganon mygedol yng Nghadeirlan Rochester.

Ymunwch ar Zoom o'r ddolen hon.

Astudiaeth nos Fercher y Grawys

“Cofia dy gyfamod byth”
Dirnad hynt y berthynas Gristnogol-Iddewig

Nos Fercher 6 ac 20 Mawrth
am 6.00pm

Mae ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn archwilio sut y gallwn ddyfnhau ein dealltwriaeth o Iddewiaeth, addysgu ein hunain am wrth-Iddewiaeth Gristnogol, a chamu i ddyfodol ffrwythlon o gydweithio rhyng-ffydd.

Roedd yn galonogol bod 50 o bobl wedi ymuno â’r sesiwn gyntaf ar-lein y nos Mercher ddiwethaf hon. Mae’r prif gyflwyniad a roddwyd yn y sesiwn ar gael ar sianel YouTube y Gadeirlan.

Cynhelir y ddau sesiwn nesaf ar 6 Mawrth a 20 Mawrth am 6.00pm ar Zoom, a byddant yn para awr. 


Cymun Dros y Meirw

Nos Fercher 13 Mawrth
am 5.30pm

Ym mis Mawrth cychwynwn ar batrwm newydd o ddathlu Cymun Bendigaid ar Gân Dros y Meirw yn fisol ar nos Fercher. Mae Cymun Dros y Meirw yn gyfle cu i weddïo dros y rhai rydyn ni’n eu caru ond na’u gwelwn mwyach. Yn y gwasanaethau misol byddwn yn gweddïo yn ôl eu henw dros y rhai sydd wedi marw yn ystod y mis diwethaf o’n cymuned ni. Ym mis Mawrthgosodiad Fauré o’r Requiem yn cael ei ganu.


Datganiadau Cerdd Dydd Iau

Bydd datganiad Ella Leonard ar yr obo yn cynnwys Concerto’r Obo gan William Mathias.


Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Place our Holy Week 2024 observances in your diary today

Our observance of Holy Week at Saint Deiniol’s Cathedral this year is accompanied by R. S. Thomas, a priest-poet of the Diocese of Bangor and one of the 20th century’s great religious writers. 

As a steady beat to our Holy Week, a devotional observance rich in worship and music is offered at the Cathedral every evening at 6.00pm from Palm Sunday to Easter Eve. Distinguished poets and scholars will guide our devotions; and this year’s musical commission, premiered on the evening of Good Friday, is Alex Mills’s There Was a Garden – a choral setting of unpublished and previously unseen poems by R. S. Thomas drawn from his manuscripts held in the archive of the R. S. Thomas Study Centre at Bangor University.

You can read the full programme here.



This Sunday and the week ahead...


Creeds, Councils and Controversies: A refresher on the Early Church

Wednesday 28 February
at 6.00pm

As part of our Wednesday events during Lent, and in connection to our Lent sermon series, we welcome Canon Robin Ward this coming Wednesday evening to deliver an online talk entitled Creeds, Councils and Controversies: A refresher on the Early Church. The talk will take us on a journey through the patristic period, and we will learn about the key theologians of this time, and even discover how chants sung by dockers in Alexandria led to the spread of heresies across the Roman Empire. There will be opportunities to ask questions and to discuss this fascinating and formational period in the history of the Church.

Our speaker, Canon Robin Ward, is the Principal of St Stephen’s House, an Anglican theological college in Oxford, attended by our Minor Canon. Canon Ward worked in parish ministry in London and Kent for 15 years, and obtained a Ph.D. from King’s College London. He is a member of the Faculty of Theology & Religion at the University of Oxford, and an honorary canon of Rochester Cathedral.

Join on Zoom from this link.

Our Wednesday Lent study

“You remember your covenant forever” | Discerning a path for Christian-Jewish relations

Wednesday 6 & 20 March
at 6.00pm

The relationship between Christianity and Judaism is profound, beautiful and complex. Our Lent Wednesday study highlight how Christians, particularly, can enter into an exploration of this relationship.

It was encouraging that 50 people joined the first session online this past Wednesday, and the the main presentation is available on the Cathedral’s YouTube channel.

The next two sessions take place on 6 March and 20 March at 6.00pm on Zoom, and will last an hour. Full details of our Lent Wednesday study are available here.


Monthly Requiem

Wednesday 13 March
at 5.30pm

March sees the introduction of our new monthly Wednesday evening Choral Eucharist of Requiem for the Departed. A Requiem Eucharist is a precious opportunity to pray for those whom we love but see no longer. At these monthly services we will pray by name for those who have died during the past month from our own community, and for those who funerals have taken place at the Cathedral recently. On 13 March at 5.30pm, Fauré’s setting of the Requiem will be sung.


Thursday Music Recitals

This week’s recital is given by Ella Leonard on the oboe, and features the Oboe Concerto by William Mathias.


Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.