minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Yr Oedd Gardd | Manylion yr Wythnos Fawr ar gael isod • There Was a Garden | Our Holy Week programme available below
English

O'r Ddarllenfa


Y newyddion diweddaraf o Gadeirlan Deiniol Sant ym Mangor a Bro Deiniol


Rhowch ddyddiadau'r Wythnos Fawr 2024 yn eich calendr heddiw

Cyd-gerddwn gamre’r Wythnos Fawr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant yng nghwmni R. S. Thomas, y bardd o offeiriad o Esgobaeth Bangor ac un o brif lenorion crefyddol yr 20fed ganrif. 

Yn guriad cyson i’n Hwythnos Fawr yn y Gadeirlan, cynigir defod sy’n gyforiog o addoliad a cherddoriaeth bob nos am 6.00pm o Sul y Blodau hyd Noswyl y Pasg. Bydd beirdd ac ysgolheigion o fri yn arwain ein defosiwn; a chomisiwn cerddorol eleni, a berfformir am y tro cyntaf ar nos Wener y Groglith, yw Yr Oedd Gardd gan Alex Mills – gosodiad corawl o gerddi R. S. Thomas heb eu cyhoeddi a nas gwelwyd mohonynt o’r blaen, wedi’u dethol o’i lawysgrifau a gedwir yn archif Canolfan Astudiaethau R. S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor.

Cewch y rhaglen gyfan fan hyn



Y Sul hwn a'r wythnos o'n blaenau...


Astudiaeth nos Fercher y Grawys

“Cofia dy gyfamod byth”
Dirnad hynt y berthynas Gristnogol-Iddewig

Nos Fercher 6 ac 20 Mawrth
am 6.00pm

Mae ein hastudiaeth nos Fercher y Grawys yn archwilio sut y gallwn ddyfnhau ein dealltwriaeth o Iddewiaeth, addysgu ein hunain am wrth-Iddewiaeth Gristnogol, a chamu i ddyfodol ffrwythlon o gydweithio rhyng-ffydd.

Roedd yn galonogol bod 50 o bobl wedi ymuno â’r sesiwn gyntaf ar-lein y nos Mercher ddiwethaf hon. Mae’r prif gyflwyniad a roddwyd yn y sesiwn ar gael ar sianel YouTube y Gadeirlan.

Cynhelir y ddau sesiwn nesaf ar 6 Mawrth a 20 Mawrth am 6.00pm ar Zoom, a byddant yn para awr. 


Cymun Dros y Meirw

Nos Fercher 13 Mawrth
am 5.30pm

Ym mis Mawrth cychwynwn ar batrwm newydd o ddathlu Cymun Bendigaid ar Gân Dros y Meirw yn fisol ar nos Fercher. Mae Cymun Dros y Meirw yn gyfle cu i weddïo dros y rhai rydyn ni’n eu caru ond na’u gwelwn mwyach. Yn y gwasanaethau misol byddwn yn gweddïo yn ôl eu henw dros y rhai sydd wedi marw yn ystod y mis diwethaf o’n cymuned ni. Ym mis Mawrthgosodiad Fauré o’r Requiem yn cael ei ganu.


Thursday Music Recitals

Every Thursday
1.15pm for 45 minutes

7 Mawrth | Roman Kosyakov | Piano

Y llynedd, perfformiodd Roman y Rhapsody ar Thema Paganini gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i gymryd rhan yn y gyfres ddatganiad hon, lle bydd ei ddatganiad yn cynnwys perfformiadau o Sonata yn F fwyaf gan Mozart a Drychau gan Ravel.

14 Mawrth | Paul Carr | Organ

Mae’r organydd, Paul Carr, wedi’i leoli yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac wedi perfformio datganiadau ar draws y byd ac wedi rhyddhau ei berfformiadau ar label Regent Records.

21 Mawrth | Angharad Huw | Telyn

Astudiodd Angharad yn yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ac mae’n byw yn Sir y Fflint. Bydd ei datganiad ar y delyn yn cloi ein cyfres cyn gwyliau’r Pasg.


Buchedd Bangor

Darllenwch y rhifyn diweddaraf o Fuchedd Bangor, cylchgrawn Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.


Cefnogaeth

Mae popeth sy’n digwydd yn y Gadeirlan a Bro Deiniol yn cael ei gynnal gan eich haelioni chi. Trwy roi rhodd, rydych yn ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am O'r Ddarllenfa ac hysbysiadau eraill o'r Gadeirlan a Bro Deiniol


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano, weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist ein Gwaredwr. Amen.
Cymraeg

From the Lectern


The latest news from Saint Deiniol's Cathedral in Bangor and the Ministry Area of Bro Deiniol


Place our Holy Week 2024 observances in your diary today

Our observance of Holy Week at Saint Deiniol’s Cathedral this year is accompanied by R. S. Thomas, a priest-poet of the Diocese of Bangor and one of the 20th century’s great religious writers. 

As a steady beat to our Holy Week, a devotional observance rich in worship and music is offered at the Cathedral every evening at 6.00pm from Palm Sunday to Easter Eve. Distinguished poets and scholars will guide our devotions; and this year’s musical commission, premiered on the evening of Good Friday, is Alex Mills’s There Was a Garden – a choral setting of unpublished and previously unseen poems by R. S. Thomas drawn from his manuscripts held in the archive of the R. S. Thomas Study Centre at Bangor University.

You can read the full programme here.



This Sunday and the week ahead...


Our Wednesday Lent study

“You remember your covenant forever” | Discerning a path for Christian-Jewish relations

Wednesday 6 & 20 March
at 6.00pm

The relationship between Christianity and Judaism is profound, beautiful and complex. Our Lent Wednesday study highlight how Christians, particularly, can enter into an exploration of this relationship.

It was encouraging that 50 people joined the first session online this past Wednesday, and the the main presentation is available on the Cathedral’s YouTube channel.

The next two sessions take place on 6 March and 20 March at 6.00pm on Zoom, and will last an hour.  Full details of our Lent Wednesday study are available here.


Monthly Requiem

Wednesday 13 March
at 5.30pm

March sees the introduction of our new monthly Wednesday evening Choral Eucharist of Requiem for the Departed. A Requiem Eucharist is a precious opportunity to pray for those whom we love but see no longer. At these monthly services we will pray by name for those who have died during the past month from our own community, and for those who funerals have taken place at the Cathedral recently. On 13 March at 5.30pm, Fauré’s setting of the Requiem will be sung.


Thursday Music Recitals

Every Thursday
1.15pm for 45 minutes

7 March | Roman Kosyakov | Piano

Last year, Roman performed the Rhapsody on a Theme of Paganini with the Bangor University Symphony Orchestra. We are thrilled he has agreed to take part in this recital series, where his recital will include performances of Mozart’s Sonata in F major and Ravel’s Mirrors.

14 March | Paul Carr | Organ

The organist, Paul Carr, is based in the West Midlands and has performed recitals all over the world and released his performances on the Regent Records label.

21 March | Angharad Huw | Harp

Angharad studied at the Royal Northern College of Music and lives in Flintshire. Her recital on the harp will conclude our series before its Easter break.




Buchedd Bangor

Read the latest issue of Buchedd Bangor, the magazine of Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor.


Support

All that takes place at the Cathedral and Bro Deiniol, is sustained by your generosity. By making a donation, you help us to continue our essential work.


Subscribe to receive email notification of From the Lectern and other announcements from the Cathedral and Bro Deiniol


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ our Saviour. Amen.