minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Darlith Goffa y Parchg Ddr Margaret Thrall ar Ddiwinyddiaeth a’i Arfer

"O Calchedon I Minneapolis"

The Revd Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology & Praxis

"From Chalcedon to Minneapolis"

13/10/2022, 6:30 p.m.

English

Mae’n bleser gennym gynnig rhaglen newydd o ddarlithoedd cyhoeddus yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn 2022.

Mynediad am ddim. Nid oes angen cofrestru. Mae croeso cynnes i bawb.


Darlith Goffa’r Parchg Ddr Margaret Thrall ar Ddiwinyddiaeth a’i Arfer 2022


Ein darlithydd

Mae Tad Jarel Robinson-Brown yn offeiriad, ysgolhaig ac awdur proffwydol.

Mae Tad Robinson-Brown yn Gurad Cynorthwyol St Botolph-without-Aldgate a Holy Trinity Minories yn Esgobaeth Llundain. Mae hefyd yn Ysgolor Gwadd mewn Ysbrydolrwydd Cyfoes yng Ngholeg Sarum, Caersallog ac yn Is-Gadeirydd yr elusen Gristnogol LHDT OneBodyOneFaith. Rhwng 2013 a 2018, gwasanaethodd fel Gweinidog Methodistaidd yn Ne Cymru a Llundain, cyn cael ei ordeinio yn Eglwys Loegr yn 2021.

Mae Tad Robinson-Brown yn ymddiddori’n academaidd yn Hanes yr Eglwys Fore a Hynafiaeth Hwyr yr Aifft. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y corff, awydd, rhyw ac ethnigrwydd yng nghyfnod yr Eglwys Fore ac mae wedi cyhoeddi ym meysydd diwinyddiaeth cwiar, diwinyddiaeth rhyddhad a diwinyddiaeth trawma. Yn 2021, cyhoeddodd i ganmoliaeth uchel Black, Gay, British, Christian, Queer: The Church and the Famine of Grace, a chyfrannodd yn 2020 i The Book of Queer Prophets.


Darlith goffa

Mae Tad Robinson-Brown yn ymuno â ni i draddodi’r cyntaf of Ddarlithoedd Coffa’r Parchg Ddr Margaret Thrall ar Ddiwinyddiaeth a’i Arfer.

Cafodd Dr Thrall yrfa hir a nodedig fel diwinydd y Testament Newydd, wedi astudio dan C. F. D. Moule yng Nghaergrawnt. Bu’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1962 a 1996, a derbyniodd Fedal Burkitt am Astudiaethau Beiblaidd gan yr Academi Brydeinig yn 1998.

Monograff cyntaf Dr Thrall yn 1958 oedd The Ordination of Women to the Priesthood a daeth yn un o’r merched cyntaf i gael ei hordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru. Gwasanaethodd fel Canon Ddiwinydd Cadeirlan Sant Deiniol o 1994 hyd 1997..


O Calchedon I Minneapolis: Crist a'r corff Du anghaffaeladwy

Wrth i anghyfiawnder hiliol barhau i glwyfo’r Eglwys a’n cymdeithas, bydd Tad Robinson-Brown yn myfyrio ar y gwaith dyfnach sydd i’w wneud os yw corff Crist am allu derbyn yn llawn gyrff y rhai sy’n Ddu.


Bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm, ac fe’i cyflwynir gan Archddiacon Meirionnydd, yr Hybarch Andrew Carroll Jones. Cynhelir derbyniad gwin o 6pm, ac eto ar ôl y ddarlith. Cenir Gosber ar Gân yn y Gadeirlan am 5.30pm, ac mae croeso i bawb ymuno â'n haddoliad.

Traddodir y ddarlith yn Saesneg.

Cymraeg

We are delighted to offer a new programme of public lectures at Saint Deiniol’s Cathedral in Bangor in 2022.

Free entry. No prior registration necessary. All are welcome.


The 2022 Revd Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology & Praxis


Our lecturer

Fr Jarel Robinson-Brown is a prophetic priest, scholar and writer.

Fr Robinson-Brown is the Assistant Curate at St Botolph-without-Aldgate and Holy Trinity Minories in the Diocese of London. He is also Visiting Scholar in Contemporary Spirituality at Sarum College, Salisbury and Vice-Chair of the LGBT Christian charity OneBodyOneFaith. From 2013 to 2018, he served as a Methodist Minister in South Wales and London, before being ordained in the Church of England in 2021.

Fr Robinson-Brown’s academic interests are in Early Christian History, Patristics, and Egyptian Late Antiquity. He is particular interested in the body, desire, gender and ethnicity is Christian Late Antiquity and has published in the areas of queer theology, liberation theology and trauma theology. In 2021, he published to acclaim Black, Gay, British, Christian, Queer: The Church and the Famine of Grace, and contributed the previous year to The Book of Queer Prophets.


Memorial lecture

Fr Robinson-Brown joins us to deliver the inaugural Revd Dr Margaret Thrall Memorial Lecture in Theology & Praxis.

Dr Thrall had a long and distinguished career as a New Testament theologian, having studied under C. F. D. Moule at Cambridge. She lectured at Bangor University between 1962 and 1996, and received the Burkitt Medal for Biblical Studies by the British Academy in 1998.

Dr Thrall’s first monograph in 1958 was The Ordination of Women to the Priesthood and she became one of the first women to be ordained in the Church in Wales. She served as Canon Theologian at Saint Deiniol’s Cathedral from 1994 until 1997.


From Chalcedon to Minneapolis: Christ and the elusive Black body

As racial injustice continues to wound the Church and our society, Fr Robinson-Brown will reflect on the deeper work to be done if the body of Christ is going to fully accept the bodies of those who are Black.


The lecture will begin at 6.30pm, introduced by the Archdeacon of Meirionnydd, the Venerable Andrew Carroll Jones. A drinks reception is held from 6pm, and again after the lecture. Choral Evensong is sung at the Cathedral at 5.30pm, and all are welcome to join our worship.

The lecture is delivered in English.